weinidog, Mr. Morris Hughes, i'w godi i bregethu, ac yr oedd Joseph Williams, mab Thomas Williams, i ddechreu yr un diwrnod. Yr oedd Mr. M. Hughes wedi crybwyll wrth rai o gyfeillion Sardis, fod son am godi Evan Jones yn bregethwr, ond nid oeddynt yn rhoddi iddo fawr gefnogaeth. Galwasant ef yn ol ar ddiwedd yr ysgol un boreu Sabboth, a gofynasant iddo ai nid gwell fuasai iddo aros dipyn yn hwy cyn dechreu; ond nid atebodd Ieuan iddynt air, ond torodd i wylo, ac wrth weled hyny, dywedodd y brodyr wrtho am fyned yn ei flaen, na safai yr un o honynt hwy ar ei ffordd. Y boreu Sabboth hwn, yr oedd Mr. Morris Hughes yn pregethu yn Felinwnfa; a phregethodd Joseph Williams ychydig o'i flaen. Erbyn dau o'r gloch, aeth Ieuan Gwynedd i Rhydllechau, lle yr oedd Mr. Hughes i bregethu; a phregethodd ychydig o'i flaen; ac am chwech, yn nhy John Breese, pregethodd Joseph Williams, ac Ieuan Gwynedd; a dyna y tro cyntaf erioed i Ieuan Gwynedd bregethu. Bu pregethu yn rheolaidd, a holl ordinhadau crefydd yn cael eu gweinyddu yn gyson, yn nhy John Breese, hyd nes y codwyd capel; a thrwy drafferth fawr y cafwyd lle i adeiladu capel arno. Čafwyd addewid unwaith am dir gan oruchwyliwr Syr Watkin, yn ymyl Felinwnfa, ond oblegid gwrthwynebiad Mr. Hamer, offeiriad Llanfihangel, ataliwyd y gwaith, er fod y sylfaen wedi ei thori. Yr oedd yr offeiriad wedi gwneyd rhyw ffafr a Syr Watkin, ac fel ad-daliad gofynai na byddai iddo roddi tir at godi capel o fewn dwy filldir i'r Llan; ac er marw Mr. Hamer, yr oedd ei olynydd, Mr. Pugh, yn sefyll dros gyflawniad yr un amod. Ond tua'r flwyddyn 1842, prynodd Mr. William Williams, un o aelodau Penllys, dy yn mhentref Llanfihangel, ac yr oedd yn foddlawn i'w werthu i godi capel arno. Pan ddeallodd yr offeiriad hyny, cydsyniodd, o leiaf, rhoddodd heibio ei wrthwynebiad rhag i'r capel gael ei godi wrth ddrws y Llan, a chafwyd darn o dir wrth dalcen ty John Breese. Dangoswyd ffyddlondeb mawr gan yr ardalwyr yn nghodiad y capel, ac yn enwedig bu Thomas Thomas, Cefnllwyni, a Thomas Jones, Blaenycwm, yn flaenllaw gyda'r gwaith.
Bu y lle dan ofal Mr. Hughes, Sardis, hyd ei farwolaeth. Wedi hyny bu dan ofal Mr. J. Jones, mewn cysylltiad a Penllys, hyd nes y symudodd i Carno. Ar sefydliad Mr. Joseph Jones, yn Sardis, cymerodd hefyd ofal Braichywaun, ac y mae y lle yn parhau dan ofal Mr. Evans, ei olynydd yn Sardis. Heblaw y personau a enwyd yn flaenorol, bu yma lawer o ffyddloniaid yn nglyn a'r achos. Mae Thomas Williams, (Eos Gwnfa,) yn deilwng o gofnodiad parchus yn nglyn à hanes crefydd yn y wlad yma. Yr oedd yn ddyn gwybodus a deallgar, a llafuriodd, yn arbenig gyda'r Ysgol Sabbothol, o'i chychwyniad cyntaf yn yr ardaloedd yma. Derbyniwyd ef yn aelod yn Llwydiarth, ac wedi i'r drws yno gael ei gau yn erbyn yr achos, ymaelododd yn Sardis, gyda'i gyfaill Mr. Morris Hughes, yr hwn oedd wedi ei gydfagu ag ef; a bu o gynorthwy mawr i'r achos yn ei fynych symudiadau, o fan i fan yn y gymydogaeth hon. Yr oedd yn fardd gwych, a chyfansoddodd lyfr a elwir Telyn Dafydd. Yr oedd yn nodedig o dyner tuag at fechgyn ieuaingc, a gwnai bob peth a allai er eu cefnogi; ac y mae ei enw yn barchus gan lawer o honynt hyd y dydd hwn.
Codwyd i bregethu yn yr eglwys yma, o'r rhai oedd yn aelodau ynddi, y personau canlynol:—
John Williams. Mab Thomas Williams. Trodd ef at y Bedyddwyr