Joseph Williams. Mab arall i Thomas Williams; y mae yn awr yn Llansilin, ac yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys yno. Robert Hughes. Bu yn Athrofâu y Bala ac Aberhonddu. Urddwyd ef yn y Trallwm, ac y mae yn awr yn Cendl. Y mae ei enw yn hysbys i'r holl eglwysi.
Bu Evan Thomas, am yr hwn y crybwyllasom yn nglyn a Machynlleth, yn byw yma dros dymhor hir, ac yn pregethu yn yr holl wlad oddiamgylch. Mae yn Braichywaun yr achos mwyaf bywiog, siriol, a gobeithiol, ag sydd o fewn plwyf Llanfihangel-yn-ngwnfa.[1]
FOEL, LLANGADFAN.
Dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn y cymydogaethau hyn cyn diwedd y ganrif ddiweddaf. Yr oedd Evan Hughes, a'i wraig, Susan Hughes, Nantysaeson, tad a mam Mr. Hugh Hughes, gweinidog y Foel wedi hyny, yn mysg y rhai cyntaf yn yr ardal i groesawi pregethu i'w ty. Yr oedd gwraig Nantysaeson, yn ferch Ffriddfawr, Nanty reira, ac fel yr ymddengys, yn arfer myned yn achlysurol, os nad yn rheolaidd, i Lanbrynmair i wrando. Wedi priodi, aeth Evan Hughes a'i wraig i fyw i Nantysaeson, rhwng y Foel a Mallwyd, a dechreuasant fyned i wrando i Ddinas Mawddwy, a chyn hir, derbyniwyd y ddau yn aelodau упо. Yn mhen amser, prynodd Evan Hughes dyddyn, yn mhlwyf Garthbeibio, a elwid Llechwedd-bach, ac ar un Sabboth, daeth Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, yno i bregethu. Yn y ty lle y cedwid y gwair y pregethai, ac afreolus iawn oedd y gwrandawyr. Daeth Mr. Hughes, Dinas, i gynorthwyo Mr. Roberts, a thrwyddedwyd y Llechwedd-bach yn lle addoli; ac wedi i bobl yr ardal ddeall hyny, ymddygasant yn llawer mwy gofalus. Pregethwyd llawer yn y Llechwedd gan Meistri Azariah Shadrach, H. Pugh, ac R. Roberts, o'r Brithdir; D. Richards, Tynyfawnog; R. Roberts, Tyddynyfelin; J. Lewis, Bala, ac eraill. Wedi codi ty newydd yn y Llechwedd, a thrwyddedu hwnw at bregethu, medd- yliwyd am droi yr hen dy i gadw ynddo ysgol ddyddiol. Bu hen ŵr crefyddol, o'r enw John Llwyd, yma yn cadw ysgol am ychydig. Ar ei ol ef, daeth Rees Davies yma i gadw ysgol, a bu yn y lle dros dro, ac yn llafurus iawn yn pregethu yn mhob man y cawsai ddrws agored. Yn ei amser ef, ennillwyd yma dri at grefydd, fel yr oedd nifer y dysgyblion yn bump, a theimlent erbyn hyn yn galonog iawn i fyned yn mlaen. Tua'r flwyddyn 1797, ymwelodd Mr. Hughes, Dinas, ag ardal y Foel, a phregethodd ar fuarth Llettypiod; ac ar y diwedd, rhoddodd gyhoeddiad i fod yno drachefn, a derbyniwyd ef i'r ty yr ail waith. Trwyddedwyd y ty hwn hefyd i bregethu, a bu pregethu cyson am flynyddau yn y Lletty a'r Llechwedd; yn un y boreu ac yn y llall y prydnhawn. Yn 1805, cafwyd darn o dir gan Mr. Davies, Siop, i adeiladu capel y Foel arno. Nid oedd ond bychan, ond yr oedd dan yr amgylchiadau hyny yn gaffaeliad gwerthfawr. Yr oedd yr ardal yn dywyll ac anwybodus, a llawer o weddillion hygoeledd yn aros; ond llafuriodd Mr. Hughes, o'r Dinas, yma gyda ffyddlondeb mawr am fwy nag ugain mlynedd. Yn y flwyddyn 1820,
- ↑ Llythyrau Meistri John a Joseph Williams, ac R. Hughes, Cendl; ac ysgrif Mr. B. Evans, Sardis, yn Nghronicl yr Undeb.