rhoddodd yr eglwys alwad i un Hugh Hughes, Llechwedd, pregethwr a godasid ganddi, i fod yn weinidog iddi; a llafuriodd yn ffyddlon yma am bedair-blynedd-ar-hugain, nes y bu raid iddo, oblegid gwaeledd a nychdod, roddi i fyny. Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Edward Roberts, myfyriwr o athrofa y Bala; ac urddwyd ef Gorphenaf 9fed a'r 10fed, 1844. Pregethodd Mr. D. Morgan, Llanfyllin, ar natur eglwys. Holwyd y gweinidog ieuange gan Mr. M. Jones, Bala, yr hwn hefyd a weddiodd. Dywedodd Mr. D. Davies, Llanerfyl, a Mr. Hugh Hughes, Foel, y ddau hen weinidog, air o'u teimladau ar yr achlysur. Pregethodd Mr. H. James, Brithdir, i'r gweinidog; a Mr. S. Roberts, Llanbrynmair, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri J. Thomas, Dinas; W. Roberts, Llanrhaiadr; D. Evans, Llanidloes; R. D. Thomas, Penarth; J. Thomas, Bwlchnewydd; J. Jones, Penllys; J. Davies, Llanfair; a J. Davies, Glasbwll[1]. Bu Mr. Roberts yma am wyth mlynedd, a symudodd oddiyma i Carno. Ar ei ol ef daeth Mr. John Hughes yma, yr hwn a urddasid yn Victoria, sir Fynwy, a bu yn y lle am saith mlynedd, a symudodd i Hanley, swydd Stafford. Yr oedd yr eglwys yn parhau i gasglu nerth yr holl flynyddoedd hyn, ond yn 1859 ac 1860, bendithiwyd hi ag ymweliad neillduol oddiwrth yr Arglwydd. Ychwanegwyd lluaws o bobl ieuaingc at yr eglwys, ac y mae llawer o honynt yn glynu yn eu proffes. Yn y flwyddyn olaf a nodwyd, rhoddwyd galwad i Mr. Caleb Evans, efrydydd o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 26ain, 1860. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Jones, Machynlleth. Gofynwyd yr holiadau gan Mr. J. Williams, Aberhosan. Dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. D. Evans, Penarth. Anerchwyd y gweinidog gan Mr. J. Lewis, Henllan, a'r eglwys gan Mr. H. Morgan, Sammah. Pregethwyd hefyd gan Meistri E. Williams, Dinas; H. James, Llansantffraid; W. Roberts, Penybontfawr; E. Roberts, Carno; R. Hughes, Trallwm; a B. Evans, Sardis[2]; ac y mae Mr. Evans yma etto, yn parhau i lafurio. Yn 1846, yn fuan wedi sefydliad Mr. E. Roberts yma, rhoddwyd darn newydd yn yr hen adeilad; ond yn 1866, adeiladwyd ef yn gapel hardd, ac agorwyd ef wythnos y Pasg, 1867, a'r ddyled wedi ei thalu; ac y mae yr achos yn parhau mewn gwedd siriol, pan gofiom farweidd-dra yr amseroedd presenol ar grefydd.
Wedi ymadawiad y teulu o'r Llechwedd-bach, teimlid fod angen lle i addoli at wasanaeth y cwr hwnw o'r ardal, ac yn 1842, codwyd Beersheba. Nid oes eglwys wedi ei chorpholi yma, ond y mae yn gangen berthynol i'r Foel, lle y cynhelir Ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd gweddi, a phreg- ethu achlysurol; ond y mae yr ardalwyr gan mwyaf yn dyfod i'r Foel i'r odfa ddau o'r gloch bob Sabboth.
Codwyd yma i bregethu:—
Hugh Hughes. Yr hwn wedi hyny a urddwyd yn weinidog yma.
David Rowlands. Yr oedd yn enedigol o'r Dinas. Yr oedd yn was yn Maes Garthbeibio. Priododd, ac aeth i'r America, ac y mae wedi marw упо.
John Morris. Dechreuodd bregethu yn 1863. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala; ac urddwyd ef yn weinidog yn Llanrhaiadr Mochnant, lle y mae etto.