Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/404

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

HUGH HUGHES. Ganwyd ef yn 1792. Yr oedd ei rieni, fel y crybwyllasom, yn byw yn Nantysaeson, ac wedi hyny yn Llechwedd-bach. Yr oedd yn ei febyd yn hynaws a charedig, a chymerodd iau Crist arno yn foreu. Ystyrid ef gan bawb yn ddyn diniwed, mor nodedig felly, nes bod mewn llawer o bethau yn blentynaidd. Urddwyd ef yn 1820, a llafuriodd yn ddiwyd yn ol mesur y dawn a rodded iddo. Ymgymerodd a chodi capel yn y Ddol-lwyd, a gwnaeth hyny gan mwyaf ar ei draul ei hun; ond y mae y lle hwnw wedi ei roddi i fyny er's wyth-mlynedd-ar-hugain. Nid oedd ei alluoedd yn gryfion na'i wybodaeth yn eang, ond yr oedd ei ffyddlondeb yn fawr, a gwir ofalai am yr eglwys dan ei arolygiad; ac yr oedd ei bryder am yr achos yn ei wneyd yn bruddaidd a chwynfanus. Codai yn foreu y Sabboth, ac elai o gylch i gymell pobl i'r cyfarfod gweddi saith o'r gloch. Ni bu erioed yn briod, ac yr oedd holl hynodion hen lanc ynddo. Mae gan ei gydoeswyr a'i frodyr yn cwbl y weinidogaeth lawer o chwedlau dyddan am dano, ond y mae y yn esboniad o'i ddiniweidrwydd, ac mor unplyg yr ydoedd gyda phob peth. Dyoddefodd yn dost oddiwrth ddiffyg anadl, a theimlodd fod angenrhaid arno i ymneillduo o'r weinidogaeth, fel y gallasai yr eglwys ddewis rhyw un ieuengach a chryfach. Wedi rhoddi yr eglwys i fyny, aeth i Lanfyllin i fyw at nith iddo, ac yno y gorphenodd ei yrfa. Yn ei gystudd, cwynai ei bod yn dywyll arno; ond cyfododd goleuni iddo yn y tywyllwch, a bu farw mewn llawn sicrwydd gobaith, Tachwedd 15 fed, 1846, yn 54 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Capel Pendref, Llanfyllin, lle yr erys ei weddillion marwol gydag eiddo llawer o rai rhagorol y ddaear.

LLANERFYL.

Capel y Diosg, y gelwir ef yn yr ardal, am fod ychydig o dai yn y man lle y mae yn dwyn yr enw hwnw. Dechreuwyd pregethu yn y Siop, yn y Llan, ac yn y Tygwyn, lle y preswyliai John Evans, yr hwn oedd yn briod a chwaer Mr. David Davies, Llanerfyl. Bu pregethu a chyfarfodydd gweddio yn y ddau dy uchod am flynyddau, ac nid oeddynt yn gofalu rhyw lawer i ba sect y perthynai y pregethwyr. Bu llawer o bregethwyr y Methodist iaid ynddynt yn pregethu o bryd i bryd, megis Meistri Humphrey, Gwalchmai; J. Hughes, Pontrobert; Ismael Jones, ac eraill; er mai Meistri W. Hughes, Dinas; M. Hughes, Sardis; E. Davies, Allt-tafolog; a D. Davies, Llanerfyl, a bregethai iddynt fynychaf. Nid oedd yma ar y pryd ond ychydig o broffeswyr, ac i'r Foel yr elent i gymuno. Symudodd John Evans, o'r Tygwyn i Gyfylche, ond yr oedd cartref i'r achos yn ei dy yno hefyd, a phregethodd Mr. Hughes, o'r Dinas, ac eraill, lawer yn y Tygwyn, Pandy, Biop, Gyfylche, a llawer o fanau eraill. Dechreuwyd Ysgol Sabbothol yn Llanerfyl yn ysgubor Mr. Davies, Siop; ac yr oedd yno nifer o frodyr yn selog drosti, ac nid ofer fu eu llafur. Trwy yr ysgol a'r pregethu lladdwyd yr ofergampiau a ddygid yn mlaen yn yr ardal yma ar ddydd yr Arglwydd, ar ol i bob parth yn mron o'r Dywysogaeth eu rhoddi i fyny. Yn