1824, corpholwyd yma eglwys, er nad oeddynt ond saith mewn nifer. Yn 1827, y codwyd y capel, a'r un flwyddyn derbyniodd Mr. David Davies, un o aelodau cyntaf yr eglwys, alwad i fod yn weinidog, ac urddwyd ef, Medi 12fed. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. C. Jones, Dolgellau; gofynwyd yr holiadau a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; pregethodd Mr. E. Davies, Trawsfynydd, i'r gweinidog, a Mr. J. Roberts, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri J. Davies, Llanfair; J. Jones, Main; H. Hughes, Foel; ac M. Hughes, Sardis. Nid oedd ond deuddeg o aelodau yn yr eglwys pan urddwyd Mr. Davies, yn 1827, ond pan y rhoddodd yr eglwys i fyny, yn 1844, yr oedd yn driugain o nifer. O herwydd ei fod yn teimlo yn adfeiliedig o ran corph a meddwl, rhoddodd yr eglwys i fyny, ac unodd Llanerfyl a'r Foel, yn 1844, i fod yn un weinidogaeth, a dewiswyd Mr. E. Roberts, i fod yn weinidog; ac y mae y Foel a Llanerfyl yn parhau hyd yr awr hon dan yr un weinidogaeth; ac ond edrych pwy fu y gweinidogion yn y Foel, gwelir hefyd pwy fu yma. Yn 1862, adgyweiriwyd y capel trwy draul o 100p., a thalwyd y cwbl yn fuan.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
DAVID DAVIES. Ganwyd ef yn y Tygwyn, Llanerfyl, yn 1780. Yr oedd ei rieni Thomas a Mary Davies, yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a gallwn gasglu iddo gael addysg grefyddol yn foreu. Denwyd ef i wrando Mr. Hughes, o'r Dinas, yn ei ymweliadau cyntaf a Llanerfyl, ac yr oedd yn mysg y rhai cyntaf yn yr ardal i broffesu crefydd; er ei fod yn 30 oed cyn gwneyd hyny. Bu rai blynyddoedd cyn dechreu pregethu, ac yr oedd yn 47 oed pan urddwyd ef i waith y weinidogaeth. Gwladwr syml a dirodres ydoedd, yn gyffelyb i amaethwyr ei wlad yn gyffredinol. Yr oedd yn ddyn o ddeall da, ac o synwyr cyffredin cryf, yn meddu llawer o ffraethineb tawel, ac yn llawn caredigrwydd a natur dda. Cerid ef fel cymydog gan bawb, ac nid oedd anmheuaeth yn meddwl neb nad ydoedd yn "Israeliad yn wir." Ni chafodd ddim manteision addysg, ond yr oedd ganddo gof cryf, a dawn ymadrodd a pharabl clir, rhwydd, a melus. Gweithiwr egniol ydoedd. Trwy ei lafur ef yn benaf y codwyd capel Llanerfyl, a thrwy ei ymdrechion ef yn benaf y talwyd am dano. Llafuriodd lawer yn Dolanog heb nemawr ddim cydnabyddiaeth am ei waith. Rhoddodd y weinidogaeth i fyny pan welodd nas gallasai fod o lawer o ddefnydd yn hwy; ond er rhoddi y gofal i fyny, gwnaeth ei oreu tra y gallodd i gynorthwyo ei olynydd yn y swydd. Cafodd iechyd da trwy ei oes, hyd o fewn tair blynedd i'w ddiwedd. Cododd dafaden wyllt ar ei wefus isaf, yr hon, er pob dyfais feddygol a ymwthiodd yn ddyfnach, nes myned a'i fywyd ymaith, Mawrth 23ain, 1850, pan yn 70 oed. Dyoddefodd boenau dirfawr, ond dyoddefodd y cwbl fel cristion, a bu farw mewn tangnefedd.
DOLANOG.
Yn y flwyddyn 1806, daeth un David Thomas, o ardal Penarth yma i gadw ysgol. Cymerodd ystafell i'r perwyl, mewn ty a elwid y Dafarn, oblegid ei fod wedi bod felly unwaith, ond nid oedd felly y pryd hwn. Rhoddid yr ystafell yn rhad gan David Harris, y perchenog, ond yn unig