Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwelsom, yn y difyniad o hanes bywyd Mr. Henry Jessey, fod eglwys Llanfaches yn enwog am ddoniau eu haelodau. Cawn brawf ymarferol o hyny yn y ffaith i tuag ugain o aelodau yr eglwys hon ac eglwys Mynyddislwyn gael eu hanfon allan yn bregethwyr teithiol gan y llywodraeth yn amser y werin lywodraeth. Telid iddynt 17p. yr un yn flynyddol am eu gwasanaeth. Mae yn ymddangos hefyd fod yn yr eglwys hon amryw ddynion o sefyllfa gymdeithasol uchel.

Y gweinidog sefydlog cyntaf a ddilynodd Mr. T. Ewins oedd Mr. Thomas Barnes. Mae yn debygol mai Sais oedd yntau, fel ei ragflaenydd, ac yr oeddynt ill dau yn ddau o'r chwech pregethwyr a anfonasid o gynnulleidfa Allhallows, Llundain, gyda Mr. Cradock i'w gynnorthwyo i efengylu yn Nghymru. Nis gwyddom enwau y pedwar eraill. Yr oedd Mr. Barnes yn weinidog eglwys Annibynol Llanfaches, ac yn weinidog plwyf Magor—y plwyf nesaf i Lanfaches—ar yr un amser, a chafodd ei droi allan oddiyno gan ddeddf unffurfiaeth yn 1662, ond parhaodd ei gysylltiad ag eglwys Ymneillduol Llanfaches. hyd ei farwolaeth yn 1703. Mae yn ymddangos ei fod yn ddyn galluog iawn, ac yn weinidog o enw a dylanwad annghyffredin, canys buwyd yn daer iawn yn ei gymhell gan eglwys yr enwog Dr. John Owen i dderbyn galwad ganddi ifod yn ganlyniedydd i'r gwr mawr hwnw, a gellir bod yn sier na chynygiesid yr anrhydedd hwnw i ddyn cyffredin o safle a galluoedd. Ar ol adferiad Siarl II., ac adsefydliad Esgobyddiaeth yn grefydd wladol, cafodd yr eglwys yn Llanfaches, yr un fath a phob eglwys Ymneillduol arall, ei rhan o ddioddefiadau. Gorfu iddi, fel ar ei sefydliad cyntaf, fyned i addoli yn ddirgel mewn anedd-dai. Nid oes genym lawer o'i hanes yn adeg yr erledigaeth o 1662 hyd 1688, ond y mae cymaint sydd genym yn profi ei bod yn eglwys luosog iawn, fod llawer o'i haelodau yn ddynion cyfoethog, a bod ynddi gyflawnder o ddoniau gweinidogaethol. Tua y flwyddyn 1669, ar orchymyn Archesgob Canterbury, casglwyd ystadegau o nifer yr Ymneillduwyr yn y gwahanol esgobaethau, ac y mae yr ystadegau hyny yn awr i'w gweled yn y llyfrgell Archesgobol yn mhalas Lambeth. Tafla y cyfrifon hyn gryn oleuni ar ansawdd eglwys Llanfaches yn y flwyddyn hono. Dangosir ei bod yn ymgynnull i addoli mewn anedd-dai yn y gwahanol blwyfydd cymydogaethol, a rhoddir enwau perchenogion yr anedd-dai, a'r pregethwyr, ac amcan-gyfrif o nifer y gwrandawyr yn y gwahanol leoedd. Yn mhlwyf Llanfaches cyfarfyddent yn nhŷ Mr. Nathan Rogers; yn mhlwyf Magor, yn nhai Mr. Samuel Jones, o Little Salisbury, a Mr. Thomas Jones, o Milton; yn mhlwyf Caerlleonarwysg, yn nhŷ Mr. Henry Walter, Park-y-pill; yn mhlwyf Llanfair Discoed, yn nhŷ Major Blethin, o Dinham; yn mhlwyf Caldicot, yn nhŷ Mr. Hopkin Rogers; yn y Casnewydd, yn nhy Mr. Rice Williams; yn Llantrisant, yn nhy Mr. George Morgan; yn Llangwm, mewn pedwar o wahanol anedd-dai. Dywedir fod y gwrandawyr yn y gwahanol leoedd hyn dros bum' cant o rif, a bod yn eu mysg rai yn werth 500p., 400p., 300p., a 200p. yn y flwyddyn, yr hyn, fel y nodasom, oedd y pryd hwnw yn cyfateb i bum' cymaint a hyny yn awr. Y pregethwyr a enwir oedd Thomas Barnes; William Thomas; Henry Walter; Rice Williams; Josuah Lloyd; a Watkin Jones. Enwir hefyd Meistri Samuel Jones; Hopkin Rogers; Henry Rumsey; Robert Jones; George Edwards; a Watkin George, fel adroddwyr (repeaters); wrth yr hyn mae yn debygol y golygid pregethwyr cynnorthwyol. Yn y flwyddyn 1672, pan y caniataodd Siarl II. fesur oryddid i'r Ymneillduwyr, trwyddedwyd tai Mr. James Lewis, Caldicot; Mr.