Walter Jones, o Magor; Mrs. Barbara Williams, o'r Casnewydd; a Mr. George Morgan, o Lantrisant, ger Brynbyga, fel lleoedd i bregethu ynddynt, a chymerodd Mr. Thomas Barnes, a Mr. George Robinson, drwyddedau i bregethu yn y tai hyn fel gweinidogion Annibynol.
Haera Mr. Josuah Thomas yn Hanes y Bedyddwyr, fod yr eglwys yn Llanfaches er y dechreuad yn gynnwysedig o Drochwyr a Thaenellwyr, a bod un Mr. William Thomas, Bedyddiwr, yno yn gydweinidog a Mr. Wroth. Ond haeriad hollol ddisail yw hwn, canys dywed Mr. John Myles, sylfaenydd y Bedyddwyr yn Nghymru, na chlywsai efe son am yr enwad yn un man yn Nghymru, nes iddo ef gasglu a chorpholi eglwys yn Ilston, Browyr, yn mis Hydref, 1649; a phe buasai rhyw weinidog o Fedyddiwr yn Nghymru ni buasai Mr. Myles yn myned yr holl ffordd i Lundain i gael ei drochi yn 1649. Am y William Thomas a grybwyllir fel cydweinidog à Mr. Wroth, mae genym yr hanes canlynol, yr hyn a ddengys nas gallasai fod yn gydweinidog â Mr. Wroth: —Aelododd ei hun yn eglwys Mr. Myles yn Ilston; aeth wedi hyny yn bregethwr teithiol, yn benaf oddeutu Caerfyrddin, ac yn y sir hono yr oedd pan ddistawyd ef gan ddeddf unffurfiaeth. Ryw amser ar ol hyny symudodd i Lantrisant, Mynwy, a phriododd ferch Mr. George Morgan o'r lle hwnw. Bu yn weinidog ar y gangen o eglwys Llanfaches, yn mhlwyfydd Llantrisant, Llangwm, a Brynbyga am ryw gymaint o flynyddau, ar ol y flwyddyn 1662 hyd ei farwolaeth yn 1671. Mae yn debygol mai dyn cymharol o ieuanc ydoedd yn amser ei farwolaeth. Mae genym bob sicrwydd nad oedd dim Bedyddwyr yn eglwys Mr. Wroth, nac fel yr ymddengys mewn un rhan arall o Cymru hyd y flwyddyn 1649. Dechreuodd dadi bedydd yn y flwyddyn hono gynhyrfu yr eglwysi, a darfu i amryw bersonau mewn gwahanol eglwysi gymeryd eu trochi. Yn raddol aeth y rhan fwyaf o'r gangen o Lanfaches, oddeutu Llantrisant, &c. yn drochwyr o ran golygiadau, ond yr oeddynt dros gymundeb rydd, ac yn parhau i'w galw eu hunain yn Annibynwyr, ac ar farwolaeth Mr. William Thomas, derbyniasant Mr. George Robinson, a Mr. Thomas Quarrell, dau faban-fedyddiwr, yn weinidogion, a pharhaodd y diweddaf i lafurio yn eu plith hyd 1709. Ychydig cyn diwedd ei weinidogaeth ef y sefydlwyd yr eglwys Annibynol yn Hanover. Ond tra y darfu i un gangen o'r fam—eglwys, i raddau pell, newid ei barn ar y pwnge o fedydd, daliodd y rhan hono o honi a breswylient yn mhlwyfydd Llanfaches, Magor, &c. yn ffyddlon at olygiadau Mr. Wroth, eu sylfaenydd.
Mae hanes cangen Llantrisant[1] o eglwys Llanfaches yn enghraifft darawiadol o'r annoethineb a'r anfuddioldeb o geisio uno gwahanol enwadau mewn un eglwys. Yr oedd yr eglwys, neu y gangen eglwys hon, yn 1669 y luosocaf a'r gyfoethocaf o holl eglwysi Ymneillduol Cymru, ond cyn diwedd oes Mr. Quarrell yr ocdd wedi myned agos, os nad yn hollol, i'r dim. Mae llawer cynygiad wedi cael ei wneyd mewn gwahanol ardaloedd i sefydlu achosion, cynnwysedig o wahanol enwadau, ond nis gwyddom am un o honynt a goronwyd a llwyddiant parhaus mewn un lle. Nid oes dim yn fwy dymunol na gweled Cristionogion o wahanol olygiadau yn achlysurol yn cydeistedd wrth fwrdd yr Arglwydd, ond ynfydrwydd fyddai ceisio cyfodi eglwys flagurog o ddefnyddiau felly. Pe dygwyddai fod nifer o broffeswyr o wahanol enwadau yn byw mewn ardal, lle na byddai
- ↑ Dylai y darllenydd gofio mai Llantrisant, Mynwy, ac nid Llantrisant, Morganwg a grybwyllir yn yr hanes yma.