Bryncrug. Derbyniwyd ef i athrofa y Bala, yn un o'r dosbarth cyntaf a dderbyniwyd iddi ar ei sefydliad, a'i enw ef sydd gyntaf ar y rhestr. Bu yn yr athrofa am dair blynedd. Urddwyd ef, fel y gwelsom, i fod yn weinidog yn y Main a'r canghenau, Tachwedd 11eg a'r 12fed, 1845. Bu yno hyd ddiwedd 1848, pan y symudodd i'r Drefnewydd; a bu yno yn ddefnyddiol a pharchus am fwy na dwy flynedd. Ymaflodd oerfel ynddo trwy eistedd ar y ddaear ar un prydnhawngwaith, yr hwn a drodd yn enynfa ar yr ymenydd, ac a effeithiodd yn hollol ar ei ymwybyddiaeth. Cafodd gystudd caled, yr hwn a derfynodd yn ei angau, Hydref 19eg, 1850, yn 30 oed. Claddwyd ef yn mynwent Llanllwch-haiarn; ond nid oes careg arno, na dim i ddynodi y lle y gorwedd.
Yr oedd Mr. Pughe yn gyfaill hynaws a charedig, heb wybod dim am frad a dichell. Yr oedd yn llawn o ysbryd pregethu, a chwaeth nodedig ganddo at iaith gref, flodeuog, yn ymylu weithiau hwyrach ar chwyddiaith; ond pe cawsai fyw ychydig yn hwy, buasai yn tyfu allan o hyny. Mae ei gydefrydwyr yn yr athrofa, a'i frodyr yn y weinidogaeth a gair da iddo; ac yr oedd yn anwyl gan, ac yn barchus yn ngolwg y bobl yn mysg y rhai y bu yn llafurio. Ond "gostyngwyd ei nerth ar y ffordd," a thorwyd ef i lawr yn mlodeu ei ddyddiau. Gadawodd weddw ac unig ferch i alaru ar ei ol.
CERI.
Symudiad yr athrofa o Lanfyllin i'r Drefnewydd a fu yr achlysur i ddechreu pregethu yn y Drefnewydd. Agorwyd y drws i'r efengyl gyntaf yma gan hen wraig, yr hon a ddaeth yma i fyw o Carno; a phregethwyd y bregeth gyntaf yn ei thy Hydref 27ain, 1822, gan Mr. Samuel Roberts, myfyriwr y pryd hwnw yn yr athrofa. Yr oedd yr hen wraig hon yn byw yn y ty agosaf i'r Persondy; ac o hyny allan bu pregethu cyson yn y lle, ac agorwyd amryw ddrysau yn fuan. Corpholwyd eglwys yma Ebrill 11eg, 1824; a dechreuwyd meddwl am dir i godi capel arno. Yr oedd gan Mr. Jones, Banbury, dir yn y lle, a.rhoddodd brydles ar ddarn o hono am fil o flynyddoedd, am yr ardreth o swllt y flwyddyn, a chodwyd capel gwerth 270p., heb gyfrif y cludiad, yr hyn a roddwyd yn rhad gan yr ardalwyr. Pregethwyd y bregeth gyntaf ynddo Tachwedd 21ain, 1824, gan Mr. Samuel Bowen, athraw Ieithyddol yn athrofa yn y Drefnewydd; ac agorwyd ef yn gyhoeddus Rhagfyr 29ain a'r 30ain, 1824; ac ar yr un pryd urddwyd Mr. Samuel Bowen i fod yn weinidog yn y lle.
Ar achlysur pregethwyd ar natur eglwys, holwyd y gofyniadau, a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Jones, Treffynon, ac i'r eglwys gan Mr. J. Pearce, Wrecsam. Yr oedd amryw weinidogion eraill yn bresenol, a'r rhan fwyaf o'r myfyrwyr oedd ar y pryd yn yr athrofa yn y Drefnewydd. Llafuriodd Mr. Bowen yma gyda chymeradwyaeth mawr am flynyddau, ac yr oedd golwg obeithiol ar yr achos; ac wedi ei ymadawiad ef i Macclesfield, gofalwyd am yr achos yn ffyddlon gan y myfyrwyr, hyd nes y symudwyd yr athrofa i Aberhonddu. Daeth un Mr. David Evans, o athrofa Caerfyrddin yma am ychydig, yr hwn a drodd wedi hyny i'r Eglwys Sefydledig. Ar ei ol ef daeth Mr. Methusalem Davies yma, yr hwn a fuasai yn weinidog yn Abergwyli, ac yn ei amser ef disgynodd yr achos yn isel iawn, fel yr oedd bron wedi gwywo pan y symudodd oddiyma i Penywaun, sir Fynwy.