yn gyfleus cyfodi dau neu dri o wahanol achosion, dylid gadael i'r enwad cryfaf mewn rhif, doniau, neu ddylanwad gael y flaenoriaeth, a'r personau eraill uno â hwy, a llwyr anghofic eu henwadyddiaeth, nes yr arweinio Rhagluniaeth hwy i le y gallont drachefn ei arddel.
Y gweinidog cyntaf y mae genym hanes am dano yn eglwys Llanfaches, ar ol Mr. Barnes oedd Mr. David Williams, ond gan nad urddwyd ef cyn y flwyddyn 1710, rhaid i'r eglwys fod saith mlynedd heb weinidog os na fu yno ryw un nas gwyddom ni am dano. Yr oedd yr eglwys yn awr yn ddwy gangen; un yn cyfarfod yn Carwhill, yn mhlwyf Llansantffraid-is- Gwent, un o'r plwyfydd a ffiniant â phlwyf Llanfaches, a'r llall yn nhref y Casnewydd. Etto un eglwys y cyfrifid hwy er eu bod yn ymgynnull mewn dau le.
Yn y flwyddyn 1715, a'r ddwy ganlynol, casglodd y Dr. John Evans, o Lundain, ystadegau holl eglwysi Ymneillduol Lloegr a Chymru; enwau y gweinidogion, nifer y cynnulleidfaoedd, a sefyllfa gymdeithasol y bobl. Yr oedd sefyllfa yr eglwys hon y pryd hwnw fel y canlyn:—Nifer y gynnulleidfa 236, yn mysg pa rai yr oedd chwech boneddwr, un-ar-bymtheg o ddynion yn byw ar eu tiroedd eu hunain, wyth-ar-hugain o fasnachwyr, pedwar-ar-bymtheg o amaethwyr, a deg-ar-hugain o weithwyr. Yr oedd gan aelodau y gynnulleidfa dair-ar-hugain o bleidleisiau dros y sir, a naw dros y fwrdeisdref. Nid yw yr ystadegau hyn yn son dim am sefyllfa ysbrydol yr eglwys. Parhaodd Mr. David Williams i fod yn weinidog yma hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1754.
Canlyniedydd Mr. Williams oedd Roger Rogers, gwr genedigol o blwyf Bedwellty, ac aelod o eglwys Penmain, yr hwn a urddwyd Mai 29, 1761. Mr. Edmund Jones fu y prif offeryn i ddwyn Mr. Rogers i'r weinidogaeth, a gwnaeth hyny yn groes i feddwl Mr. Phillip David, gweinidog Penmain. Mae yn debygol mai o herwydd fod Rogers yn rhy Fethodistaidd yn ei ddull o bregethu yr oedd Phillip David yn wrthwynebol iddo, canys hen Ymneillduwr o'r hen ddull oedd ef, a rhyfeddol o groes i ddull y Methodistiaid o bregethu. Yr oedd Edmund Jones lawer yn fwy yn ysbryd yr oes. Bu farw Rogers yn y flwyddyn 1766. Nis gwyddom pa un ai llwyddianus neu aflwyddianus y bu yn ystod ei weinidogaeth fer. Dilynwyd Mr. Rogers yn 1770 gan Thomas Saunders. Parhaodd ei weinidogaeth ef am ugain mlynedd, a dywed Edmund Jones ei fod yn rhyfeddol o lwyddianus, yn enwedig yn y Casnewydd, ac yn Machen, lle hefyd y cyfarfyddai cangen o'r eglwys. Yr oedd y gwr hwn hefyd yn llawer rhy Fethodistaidd yn ei ddull o bregethu yn nhyb P. David. Bu farw Mr. Saunders Ionawr 9, 1790, yn 58 oed, a chladdwyd ef wrth gapel Heol y felin, Casnewydd.
Yn mhen tua blwyddyn neu ddwy wedi marwolaeth Mr. Saunders, cymerwyd gofal yr eglwys gan Mr. Howell Powell, a bu dan ei ofal ef am tua chwe' mlynedd. Yn y flwyddyn 1798 symudodd i Ferthyr Tydfil. Bu yr achos yn dra llewyrchus dan weinidogaeth ddeffrous Mr. Powell, ond nid oes genym ddefnyddiau i roddi unrhyw fanylion am lwyddiant ei weinidogaeth.
Ar ymadawiad Mr. Powell dewsiodd y gangen yn Heolyfelin, Casnewydd, weinidog iddi ei hun. Y gweinidog nesaf yn Carwhill neu Lanfaches oedd Mr. Walter Thomas. Aelod o'r Groeswen yn Morganwg oedd ef. Mae yn debygol iddo fyned yno yn uniongyrchol ar ymadawiad Mr. Powell, canys yr ydym yn cael crybwylliad am dano fel Mr. W. Thomas, Carwhill,