1825, wrth weled sefyllfa druenus y wlad ar derfynau siroedd Maldwyn ac Amwythig, penderfynodd ymgysegru i wasanaethu ei Arglwydd yn y gororau hyn; ac o dan nawdd Cyfarwyddwyr y Gymdeithas Genhadol Gartrefol, dechreuodd lafurio yn Nhrefaldwyn, Forden, Marton, a lleoedd eraill. Yr oedd wedi cael gwahoddiad o'r Cutiau a'r Abermaw, ond dewisodd yn hytrach, fel Paul, bregethu yr efengyl lle ni enwid Crist, fel nad adeiladai ar sail un arall. Llafuriodd yma am fwy na blwyddyn, gan bregethu pa le bynag y cawsai ddrws agored, nes yn 1826, yr agorwyd capel yn Forden, lle yr urddwyd ef yn nglyn ag agoriad y capel, Rhagfyr 13eg, y flwyddyn hono. Hyd yma, yr oedd wedi byw yn Nhrefaldwyn, ond symudodd i Forden gydag agoriad y capel, ac agorodd ysgol yno, yr hon a gadwodd am lawer o flynyddoedd. Yn Ebrill, 1829, priododd a Miss Susannah Williams, Mellington, yr hon oedd yn aelod ffyddlon o'r eglwys dan ei ofal, ac yn meddu tymer addfwyn, dawel, fel yntau. Ganwyd iddynt saith o blant cyn pen deng mlynedd, ac er nad oedd ei gyflog ond 30p., etto ni bu arnynt eisiau dim, ac o'r ychydig a dderbyniai, cyfranai y ddegfed at achosion daionus ac elusengar. Trwy ei lafur ef yn benaf y codwyd yr achos yn Marton; ond rhoddwyd y capel gan foneddwr o'r enw Mr. W. Nevett, o Marton Villa, ond cynorthwywyd i gludo y defnyddiau gan hen gyfaill caredig arall, Mr. Phillips-enwau sydd yn barchus gan lawer un heblaw yr ysgrifenydd. Agorwyd y capel yn 1830; a chyn hir symudodd Mr. Jones i Marton i fyw, ond parhai i ofalu am Forden fel o'r blaen. Cadwai yr ysgol yn mlaen yn Marton, a bu cryn nifer o wyr ieuaingc yn parotoi at y weinidogaeth dan ei ofal yn ystod y chwe' blynedd olaf o'i fywyd. Yr oedd i'r lle lawer o fanteision i wyr ieuaingc, heblaw ei fod yn lle rhad, a'r athraw yn mhob modd yn gymwys, yr oedd y cyfleusterau a roddid iddynt i bregethu Saesonaeg yn fantais anrhaethol bwysig; ac nid oedd coethder lluaws y bobl o ran iaith y fath ag y buasai raid i unrhyw un ofni gwneyd y prawf ar bregethu iddynt yn eu hiaith. Yr oedd Mr. Jones yn ddyn gwir dduwiol. Gadawodd yr argraff hono ar feddwl pawb o'r rhai a fu dan ei ofal. Yr oedd yn gydwybodol yn mhob peth; ac ni wnai ddim ag y byddai petrusder yn ei feddwl am ei gyfreithlondeb. Er ei fod o dueddfryd lariaidd, dawel, etto medrai fod yn siriol a difyrus; ac yr oedd ganddo lywodraeth gref dros bawb oedd dan ei ofal, yn codi oddiar barch iddo. Gwyddom y cofir tra fyddont byw gan y gwyr ieuaingc fu dan ei ofal, ei gynghorion tadol iddynt, a'i weddiau taerion drostynt, yn enwedig pan fyddai un o honynt yn ymadael. Yn mysg y rhai cyntaf fu dan ei ofal yr oedd Meistri J. Parry, Machynlleth; H. James, Llansantffraid; W. Roberts, Tanygrisiau; E. Thomas, Braichywaun, ac eraill; a chyn i'r olaf o'r rhai yna ymadael, daeth Meistri S. Jones, Maentwrog; R. Hughes, Rhoslan; E. Roberts, Cwmafon; R. Thomas, Croesoswallt; E. Jones, (Ieuan Gwynedd,) Tredegar; J. Thomas, Liverpool, ato, ac eraill nad oedd eu golwg yn uniongyrchol ar y weinidogaeth. Yr oedd y ddau olaf a enwyd gydag ef ddyddiau diweddaf; ac arosodd Ieuan Gwynedd dros ychydig i weini i'r eglwysi wedi ei farwolaeth.
Bu Mr. Jones yn gwaelu am fwy na saith mis, er ei fod yn dal i bregethu, ac yn dyfod i'r ysgol, ac yn dilyn cyfarfodydd ei sir; a bu yn y Towyn yn mis Awst, 1840, ond parhau i waethygu yr oedd ei iechyd; a'r tro olaf y bu yn y capel oedd Hydref 11eg, ac nis gallodd bregethu y tro hwnw, ond yr oedd yn Sabboth cymundeb, a dywedodd ychydig eiriau