Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/433

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth y bwrdd nad anghofir hwy yn fuan gan y rhai oeddynt yno. Yr oedd yn eglur iddo ef ac i bawb arall fod awr ei ymddatodiad yn nesâu, ac yr oedd addfedrwydd ei brofiad yn dangos yn eglur ei fod yn "disgwyl ac yn brysio at ddyfodiad dydd Duw." Bu farw ddydd Llun, Tachwedd 30ain, 1840, yn 42 oed, gan adael gwraig yn weddw a saith o blant yn amddifaid, ac nid oedd yr hynaf o honynt yn ddeuddeg oed. Claddwyd ef dydd Gwener canlynol yn y gladdfa sydd yn nglyn a chapel Marton, ac yr oedd galar dwys y dyrfa yn dystiolaeth fod un a gerid gan bawb o honynt yn cael ei roddi yn "nhy ei hir gartref;" ond rhoddid ef i orwedd yno "mewn gwir ddyogel obaith am adgyfodiad i fuchedd dragywyddol trwy ein Harglwydd Iesu Grist."

ADOLYGIAD AR HANES Y SIR

Mae yn rhaid i'n hadolygiad ar hanes yr achos yn sir Drefaldwyn fod yn fyr iawn, oblegid y mae ei hanes wedi cymeryd mwy o le nag a fwriadem. Gwelir fod yr eglwys a adnabyddid gynt fel "Eglwys sir Drefaldwyn," wedi ymledu i bymtheg a deugain o ganghenau, heblaw amryw ganghenau sydd yn perthyn i'r eglwysi neillduol hyny. Yn rhanau uwchaf y sir, lle y mae y boblogaeth yn hollol Gymreig, y mae yr achos wedi gweithio ei ffordd yn fwyaf llwyddianus. Er fod y tir yn llai cynyrchiol, a'r bobl, a'u cymeryd gyda'u gilydd, yn is eu hamgylchiadau, etto, yno y mae mwyaf o "ffrwyth i fywyd tragwyddol" wedi ei gasglu. Bendithiwyd rhanau o'r sir hon a dynion nodedig am y dau' can mlynedd diweddaf-dynion a adawsant ddylanwad annileadwy er daioni ar y wlad -a dynion pa fwyaf o'u hanes a'u llafur a ddygir i'r amlwg, uchaf oll y bydd eu cymeriad. Yr ydym wedi cyfeirio atynt yn nglyn a'r eglwysi lle y llafuriasant yn benaf, fel nad rhaid i ni eu crybwyll yma etto; er mai nid dynion i eglwysi neillduol oeddynt, ond edrychid arnynt yn eiddo cyffredin y sir oll, ac yn eiddo yr enwad yn gyffredinol. Mwynhaodd eglwysi y sir hon, ar y cyfan, fesur helaeth o heddwch a thangnefedd. Er i awelon croesion guro ar fwy nag un o honynt, ac i flinder mewnol yn aml fwyta eu cysur; ac er mewn engraifft neu ddwy i rwygiad gweithredol gymeryd lle, etto eithriadau oedd hyny, a chymeryd eglwysi y sir at eu gilydd, y mae "heddwch wedi bod o fewn eu rhagfur," os na bu "ffyniant yn eu palasau." Mae yr eglwysi yn ngwaelod y sir, ar y goror, gan mwyaf oll wedi myned yn Saesonaeg; ac y mae yr achos yn mhell o fod y peth y dylasai. Nid yn unig y mae rhai o'r eglwysi heb "ychwanegu cryfder," ond nid ydynt wedi "dal eu ffordd." Bu adeg yr oedd rhai o honynt yn gryfach ac yn lluosocach, ac yn mhob ystyr yn meddu mwy o ddylanwad crefyddol yn eu hardaloedd nag sydd ganddynt yn bresenol. Bu yr athrofa sydd yn awr yn Aberhonddu, am gyfnod maith yn y sir, neu ar ei therfynau. Daeth i Groesoswallt yn y flwyddyn 1782,