Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/434

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a bu yno hyd y flwyddyn 1792; ac yn yr yspaid hwnw, bu yr athraw a'r myfyrwyr yn foddion i bregethu yr efengyl mewn llawer o fanau yn y parth hwn o sir Drefaldwyn, lle yr oedd y bobl yn hollol ddyeithr i'r efengyl. Ac er symud yr athrofa i Wrecsam, ni lwyr ymddifadwyd un ran o'r sir o lafur achlysurol y myfyrwyr. Ond yn 1815, daeth yn ei hol i Lanfyllin, lle y bu hyd yn agos i ddiwedd 1821; ac yn yr yspaid hwnw pregethodd y myfyrwyr lawer yn y rhan isaf i'r sir; ac yn 1821, symudwyd yr athrofa i'r Drefnewydd, lle y bu hyd ddechreu 1839; ac yn yr yspaid hwnw cafodd y cwr arall i'r sir fantais gweinidogaeth y myfyrwyr; ac yr oedd rhai o honynt yn bregethwyr nodedig, ac yn llawn o ysbryd yr efengyl; a buont yn foddion i sefydlu amryw o achosion newyddion. Ond y mae yn amheus genym a ydyw yr eglwysi ar y gororau, y rhai sydd yn Saesonaeg agos oll, yn gryfach yn awr nag oeddynt ddeng-mlynedd-ar-hugain yn ol. Nid yw ond gwaith ofer i ni gau ein llygaid rhag gweled ffeithiau fel hyn. Nis gwyddom a all fod rhywbeth yn mywyd ac arferion yr eglwysi yn y parth yma sydd yn milwrio yn erbyn eu llwyddiant, ond yr ydym yn sicr fod ansefydlogrwydd y weinidogaeth wedi bod yn anfantais ddirfawr. Ychydig iawn o weinidogion a gawsant, y rhai a aethant yno gyda bwriad i aros a llafurio, ond fynychaf dynion oeddynt wedi methu cael un lle arall, a throi yno i aros cael rhywle gwell; ac yr oedd amryw o honynt o ran eu buchedd, yn bob peth ond yr hyn y dylasent fod fel gweinidogion Crist. Sicrheir ni gan rai hollol gydnabyddus a'r parth yma i sir Drefaldwyn, fod gogwyddiad y bobl yn gryf at wrando yr efengyl, a'u bod yn nodedig yn eu caredigrwydd; ac y gallai dyn ieuange a ymsefydlai yn eu plith, ac a ymroddai "i gyflawni ei weinidogaeth," fod yn ddefnyddiol dros Dduw ac yn gysurus iddo ei hun.

Mae y sylwadau uchod yn cyfeirio yn benaf at yr eglwysi Saesonaeg yn ngwaelod y sir, ond y mae yr eglwysi Cymreig hefyd, rai o honynt, wedi dyoddef oddiwrth fynych symudiadau eu gweinidogion. Nis gall hyny lai na thynu sylw pob darllenydd o hanes eglwysi y sir, y nifer fawr o weinidogion a fu yn nglyn a hwy o bryd i bryd, a chyn lleied o'u nifer a fu farw mewn cysylltiad a'r eglwysi. Nid ydym yn meddwl y ceir fod cynifer o weinidogion o un sir amaethyddol yn Nghymru wedi ymfudo i'r America, ag a ymfudodd o sir Drefaldwyn. Ni cheir yma ond ychydig o eglwysi nad ymfudodd rhyw weinidog a fu yn perthyn iddi, yn rhyw gyf- nod yn ei hanes, i America; ac y mae amryw weinidogion wedi ymfudo o rai o honynt. Gellir cyfrif am hyn, o bosibl, yn y ffaith fod mwy o bobl sir Drefaldwyn wedi ymfudo, nag o bobl un sir arall yn Ngogledd Cymru; yn enwedig o'r rhanau uchaf o honi. Dyoddefodd nifer mawr o amaethwyr y wlad hon y fath galedi, ac yn ychwanegol at hyny, gorthrymwyd hwy mor dost gan eu tirfeistri a'u stiwardiaid, fel y gwelsant mai mewn ymfudo yr oedd eu hunig obaith; a chyfranogodd y gweinidogion o'r un