ysbryd, fel y penderfynodd llawer o honynt o bryd i bryd i fyned yno ar ol eu pobl. Ond y mae y mynych symudiadau hyn wedi profi yn anffafriol i'r eglwysi, ac yn enwedig felly i'r eglwysi lleiaf. Mae yr achos er y cwbl yn y sir ac edrych ar bethau yn gyffredinol, mewn gwedd obeithiol; ac er fod yma lawer o eglwysi yn amddifaid, y mae y gweinidogion y sydd yma yn ddynion difrifol, a chefnogir hwy mewn llawer o fanau gan ddiaconiaid gweithgar, ac y mae lluaws y bobl yn mhob man agos yn barod heb rwgnach i wneyd yr hyn a osodir arnynt. Hir y cadwed sir Drefaldwyn yr enw uchel a'r safiad anrhydeddus yn yr enwad a ennillwyd iddi gan dadau Ymneillduaeth yn y sir a'u holynwyr uniongyrchol, a bydded deuparth o'u hysbryd ar y genedlaeth bresenol.
SIR FEIRIONYDD.
Terfynir y sir hon ar y gogledd gan siroedd Caernarfon a Dinbych, ar y dwyrain gan ranau o Ddinbych a Maldwyn, ar y de gan Faldwyn ac Aberteifi, ac ar y gorllewin gan y St. George's Channel. Ei harwynebedd yw 385,453 erw, a'i phoblogaeth, yn ol y cyfrifiad a wnaed yn 1861, yw 38,963. Dim ond cant ag ugain fu cynydd y boblogaeth yma o 1851 hyd 1861. Hon, oddieithr Maesyfed, yw y sir leiaf ei thrigolion yn Nghymru, a'r rheswm am hyny yw, fod y rhan fwyaf o lawer o'r ddaear yn fynyddoedd diffrwyth ac angwrteithiadwy. Y mae yma ychydig o dir rhagorol ar lan y mor, ac yn nghymydogaethau Maentwrog a Chorwen, ond y mae y rhan fwyaf o lawer o'r ddaear yn hollol ddiffrwyth. Etto, y mae y mynyddoedd diffrwyth hyn yn cynwys ystor ddirfawr o lechi, a rhyw gymaint o fŵn aur, efydd, arian, a phlwm, a dichon y darganfyddir yma etto beth dirfawr o drysorau sydd hyd yn bresenol yn guddiedig. Mae Ymneillduaeth wedi dechreu yn fore yn Meirionydd. Un genedigol o Cynfal, gerllaw Ffestiniog, oedd yr anfarwol Morgan Llwyd o Wynedd, ac y mae enw Hugh Owen o Fronyclydwr i fod byth mewn coffadwriaeth barchus, fel apostol Ymneillduaeth yma o 1662 hyd ei farwolaeth, yn 1699. Cafodd tadau a mamau Ymneillduaeth Meirionydd eu rhan gyflawn o ddyoddefiadau duwiolion eu hoes. Yspeiliwyd hwy mewn un mis, yn