Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/436

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1665, o chwe' chant o'u hanifeiliaid i dalu y dirwyon am gadw addoliadau crefyddol. Yr Annibynwyr oedd yr enwad cyntaf o Ymneillduwyr yn y sir. Cyfododd y Crynwyr yma yn mhen ychydig ar eu hol, a buont am dymor yn lled luosog. Yr enwad lluosocaf yn Meirionydd yn awr yw y Methodistiaid Calfinaidd, yr ail yw yr Annibynwyr, y Wesleyaid yw y trydydd, a'r Bedyddwyr yw y pedwerydd. Mewn trefn i'r darllenydd gael golwg ar luosogrwydd cymharol y pedwar enwad Ymneillduol, a'r Eglwys Wladol, yn y sir, rhoddwn yma rif yr addolwyr yn y gwahanol addoldai ar y Sul, Mawrth 30ain, 1851.

Enwad .. .. Bore .. .. Hwyr
Yr Eglwys Wladol .. .. 2362 .. .. 601
Y Methodistiaid .. .. 6692 .. .. 10,992
Yr Annibynwyr .. .. 2371 .. .. 4,555
Y Bedyddwyr .. .. 1499 .. .. 2270
Y Wesleyaid .. .. 1170 .. .. 3240

Er fod ugain mlynedd er pan gymerwyd y cyfrifon hyn, mae yn dra thebygol fod niferi cymharol yr enwadau yn lled gyffelyb yn awr i'r hyn ydoedd y pryd hwnw.

BALA.

Mae yn ymddangos mai dyma yr achos hynaf yn sir Feirionydd y gellir ei ddilyn yn ddigoll hyd ein dyddiau ni. Nid oes sicrwydd pwy a bregethodd yma gyntaf, ond y mae yn ymddangos yn lled sicr fod Mr. Morgan Llwyd o Wynedd, wedi pregethu yma wrth fyned i neu ddychwelyd o Wrecsam, i'w gartref yn Nghynfal, Maentwrog. Bu Mr. M. Llwyd farw yn Mehefin, 1659, ac os pregethodd ef yn y Bala, fel y mae pob tebygolrwydd ddarfod iddo wneyd, rhaid fod Ymneillduaeth wedi cychwyn yma yn foreu. Pan y sefydlodd Mr. Hugh Owen yn nhreftadaeth ei henafiaid yn Mronyclydwr, yn fuan wedi cyhoeddiad Deddf Unffurfiaeth, dechreuodd ei ymweliadau trimisol a ryw haner dwsin o leoedd yn sir Drefaldwyn, a thua yr un nifer o leoedd yn sir Feirionydd; ac yr oedd y Bala yn un o honynt. Parhaodd i ddyfod yma yn gyson er holl. rym yr erledigaethau, a phregethai pa le bynag y rhoddid iddo ddrws agored, hyd nes y rhoddwyd terfyn ar ei fywyd llafurus, yn y flwyddyn 1699. Dilynwyd Mr. Owen gan Mr. Edward Kenrick, yr hwn a briododd ei ferch, ac a aeth i fyw i Fronyclydwr. Ymwelai Mr. Kenrick a'r lleoedd lle yr ymwelai ei dad-yn-nghyfraith a hwy, gan wneyd ei oreu i lenwi yr adwy oedd angau wedi ei wneyd. Urddwyd ef Awst 17eg, 1702, gan Meistri James Owen, Mathew Henry, ac eraill, a mwynhaodd y gangen yn y Bala ran o'i weinidogaeth.[1] Nid oedd Mr. Kenrick yn meddu ar dalentau a chymwysderau gweinidogaethol ei dad-yn-nghyfraith, ond bu yn nodedig o ffyddlon, ac ni bu ei lafur yn gwbl ddilwydd. Wedi urddo Mr.

  1. MSS Josiah Thompson, Ysw.