Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/438

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y tŷ heb ddychwelyd, aeth eraill i weled pa beth oedd yn myned yn mlaen, ond swynwyd hwythau hefyd gan y pregethwr. Yn mhen ychydig, aeth eraill drachefn, ond nid oedd neb a âi yn dychwelyd, ac yr oeddynt wedi myned o un i un o'r diwedd nes nad oedd neb ar ol ond y telynwr; ac wrth weled hyny, barnodd hwnw mai cystal fuasai iddo yntau fyned hefyd, ac felly fu, a darfu am noson lawen yn ysgubor Tynant o hyny allan. Dychwelai llawer adref o'r oedfa dan lefain am drugaredd i'w heneidiau, a dywedai John Evans yr adwaenai efe bump o bersonau y rhai a ddangosasant arwyddion amlwg eu bod wedi eu hargy hoeddi i fywyd yn yr oedfa hono.[1] Wedi dechreu pregethu yn Weirglawdd-y-gilfach, arferai Ymneillduwyr y Bala gyrchu yno i addoli, canys dywed John Evans iddo ef fyned yno gydag Edward Williams, ei feistr, a'i fod yn synu wrth glywed y pregethwr yn gallu myned trwy yr holl wasanaeth heb un llyfr. Nid oes genym sicrwydd pwy a bregethai yn benaf i'r gynnulleidfa yn y Bala wedi marwolaeth Mr. Baddy, yn 1729—a Mr. Kenrick, yn 1742, ond cawn fod Mr. Jervice, Llanfyllin, a Mr. Lewis Rees, Llanbrynmair, yn ymweled yn aml a hwy, ac mae yn debyg fod gweinidogion Llanuwchllyn yn gofalu am y lle, o leiaf, y mae agos yn sicr fod Mr. Evan Williams yn gofalu am y gangen fechan yma o'i sefydliad yn Llanuwchllyn, yn 1759, hyd ei ymadawiad yn 1765. Yr oedd yr eglwys yn Llanuwchllyn erbyn hyn wedi dyfod yn llawer cryfach na'r eglwys yn y Bala; ac edrychid ar yr olaf fel cangen o'r flaenaf, a mynych y cyrchid o'r Bala i Lanuwchllyn, gan fod yno le cyfleus wedi ei godi i addoli. Yn y flwyddyn 1770, ymsefydlodd Mr. Daniel Gronow yn weinidog ar yr eglwys yma, a thrwy ei lafur ef yn benaf y codwyd y capel. Trosglwyddwyd y tir iddo ef trwy weithred, dyddiedig Mawrth 22ain, 1774; ac yn ei enw ef yr oedd hyd nes y trosglwyddwyd ef i ymddiriedolwyr, yn 1779. Yr oedd y capel wedi ei adeiladu rywbryd rhwng 1774 a 1779, ond nid oedd wedi ei wneyd drosodd yn feddiant i'r eglwys. Gallwn gasglu fod tipyn o gamddealldwriaeth wedi bod rhwng yr eglwys a Mr. Gronow, gyda golwg ar drosglwyddiad y capel, oblegid mewn llythyr sydd yn awr ger ein bron oddiwrth eglwys y Bala at reolwyr y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol, dywedir mai y rheswm na buasent yn gwneyd cais yn gynt am gynorthwy ydoedd, "nad oedd y capel wedi ei roddi i fyny yn briodol gan eu diweddar weinidog, Mr. Gronow." Ymddengys i Mr. Gronow ymadael yr un flwyddyn ag y gwnaed y capel drosodd yn feddiant i'r eglwys, oblegid yn Hydref, 1779, daeth Mr. Evan Williams yma, o Benybontarogwy. Yr oedd Mr. Williams wedi bod yn gofalu am yr eglwys yma flynyddau cyn hyny mewn cysylltiad a Llanuwchllyn, a dychwelodd yma yr amser a nodir uchod. Dywed Benjamin Chidlaw, dicaon, a Robert Owen, Ellis Roberts, John Evans, ac Ellis Jones, henuriaid, gyda saith eraill o aelodau yr eglwys, wrth wneyd apeliad am gynorthwy y Bwrdd Cynnulleidfaol, ei fod nid yn unig yn llafurus, ond hefyd yn llwyddianus iawn, a bod crefydd wedi ennill tir yn fawr trwy ei sefydliad yn y lle," ac ychwanegent "mai 24p. y flwyddyn, oedd y cwbl a allent wneyd er ei gynhaliaeth. Bu Mr. Williams yma yn gymeradwy hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ryw bryd yn y flwyddyn 1786, canys Mawrth 9fed, y flwyddyn hono, ydyw y bedyddiad olaf a gofrestrodd yn llyfr yr eglwys. Derbyniodd Mr. William Thomas, Hanover, alwad gan

  1. Drysorfa Ysbrydol. Cyf I. Tu dal 30 a 31.