Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/439

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr eglwys yma, a dechreuodd ei weinidogaeth yn Mai, 1787. Bu yma yn Ilafurio am ddwy-flynedd-ar-hugain. Nid ydym mewn cyfle i wybod dim am sefyllfa fewnol yr eglwys yn nhymor ei weinidogaeth. Mewn llythyr at y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol, yn 1797, dywed Mr. Thomas mai pedwar ugain cedd nifer y cymunwyr, a bod mwy na'u haner yn rhy dlawd i allu cyfranu dim at ei gynhaliaeth. Yn ol cofrestiad y bedyddiadau, Ionawr, 1809, yw y cofnodiad olaf o'i eiddo, a bu farw yn mis Mai y flwyddyn hono. Cyfododd anghydfod rhwng Mr. Thomas a rhan o'r eglwys tua'r flwyddyn 1800, yr hwn a derfynodd mewn ymraniad. Aeth plaid allan, a buont am rai blynyddoedd yn addoli ar wahan, mewn tŷ a elwid y Cross-keys. Mae yn anhawdd dweyd yn bendant beth oedd gwir achos y cweryl, a dichon i gydgyfarfyddiad o wahanol bethau ei achosi. Ymddengys ddarfod i Mr. Thomas brynu y tir gwag oedd rhwng y capel a'r heol, ac adeiladu tai arno. Yr oedd pump yn y lle, o'r hwn y byddai y cymydogion yn cael dwfr, a symudodd Mr. Thomas hwnw o'i le er mwyn ei gyfleustra ei hun, a thynodd ŵg llawer trwy hyny, oblegid cyhuddid ef o sathru ar hawliau ei gymydogion. O gylch yr un amser bu farw un Robert Jones, Coedyfoel, yr hwn oedd yn ŵr hynaws a charedig i'r achos, er nad oedd yn aelod eglwysig; ac y mae yn debyg i Mr. Thomas ddyweyd yn ei gladdedigaeth y gallasai ei fod yn ddyn duwiol er nad oedd yn proffesu crefydd. Anfoddlonodd llawer o'r aelodau yn fawr wrtho am gyhoeddi y fath syniad, a thrwy nad oedd pethau yn rhy gysurus o'r blaen, aethant rhagddynt waethwaeth. Tueddir ni hefyd i feddwl fod Mr. Thomas yn ddyn o ysbryd anhyblyg, ac heb feddu y dawn angenrheidiol i drin dynion yn y ffordd oreu. Gwelsom yn nglyn a'i hanes yn Hanover, sir Fynwy, i weinidogion dyeithr fod yno fwy nag unwaith yn ceisio heddychu rhwng yr eglwys ag yntau, yn nhymor byr ei arosiad yn y lle hwnw. Pa fodd bynag, torodd rhwygiad allan, ac yr ydym yn cael fod Dr. Lewis, Llanuwchllyn, ac amryw eraill o brif weinidogion y Gogledd yn cynorthwyo y blaid oedd wedi ymneillduo, fel y mae yn rhaid eu bod hwy yn tybio nad oedd Mr. Thomas yn ddifai yn yr amgylchiadau. Dilynwyd Mr. Thomas, gan Mr. John Lewis, myfyriwr o athrofa Gwrecsam. Yr ydym yma yn cyfarfod a gradd o anhawsder i gysoni y gwahanol adroddiadau a'r cofnodion sydd genym. Crybwyllasom eisioes mai yn Mai, 1809, y bu farw Mr. Thomas. Yn ol yr hyn a ddywedir gan y diweddar Mr. Cadwaladr Jones, Dolgellau, yn Nghofiant Mr. John Lewis, yr hwn a gyhoeddwyd ganddo yn yr Annibynwr, am 1862, tu dal. 245, urddwyd Mr. Lewis yn y Bala, yn y flwyddyn 1807, ac yr oedd Dr. Lewis, Llanuwchllyn; Meistri J. Griffith, Caernarfon; W. Hughes, Dinas; J. Roberts, Llanbrynmair; W. Jones, Trawsfynydd; Jenkin Lewis, Wrecsam, a B. Jones, Pwllheli, yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth. Nid yw Mr. Jones yn gwbl sicr am y ddau olaf, er y tybiai eu bod yn bresenol. Yr oedd Mr. Jones mewn cyfle i wybod yn gywir amser yr urddiad, canys yr oedd efe a Mr. John Lewis wedi eu magu yn yr un ardal, ac erbyn hyn yr oedd Mr. Jones wedi dechreu pregethu ei hun. Yn ol hyn, yr oedd Mr. Lewis wedi ei urddo ddwy flynedd cyn marwolaeth Mr. Thomas. Mae genym brawf arall fod Mr. Lewis wedi ei urddo cyn marwolaeth Mr. Thomas, canys yr ydym yn cael yn llyfr eglwys y Bala, dan law Mr. Lewis ei hun, gofrestriad bedydd a weinyddodd Ionawr 13eg, 1809, ac yr ydym yn cael cofrestriad o fedyddiad gan Mr. Thomas, ar ol y dyddiad yma.

Y mae yn sicr gan hyny fod Mr. Thomas a Mr. Lewis yn weinidogion yn y Bala yr