un pryd, dros ryw gymaint. Coffeir yn arbenig mai Mr. Lewis a fu yn foddion i gyfanu y rhwyg, ac yr oedd un hen frawd ffraeth yn y lle yn arfer dweyd, "mai adfer heddwch i'r eglwys oedd yr unig beth, gwerth son am dano, wnaeth John Lewis yn ei oes." Yr ydym ni yn gogwyddo i feddwl i Mr. John Lewis gael ei urddo yn weinidog i'r blaid oedd allan. Fel y gwelsom, yr oedd cydymdeimlad Dr. Lewis a hwy, ac yr oedd hyny yn ei gwneyd yn bur naturiol i Mr. John Lewis, yr hwn oedd yn ddysgybl ffyddlon i'r Doctor, ymsefydlu yn eu plith; ac fel yr oedd iechyd Mr. Thomas yn gwaelu, a Mr. John Lewis yn nodedig am ei bwyll a'i fedr i hwylio yn mlaen rhwng pleidiau rhanedig, llwyddodd i gyfanu y rhwyg ac adfer heddwch, a dychwelodd ef a'i bobl i'r capel cyn marwolaeth Mr. Thomas, fel yr ymddengys, a llwyddodd trwy ddoethineb i lywodraethu yn foddhaol i'r ddwy blaid unedig. Yn y flwyddyn 1813, ailadeiladwyd y capel, yr hwn a dynwyd i lawr yn ddiweddar. Bu Mr. Lewis yn Llundain yn casglu at y capel, a llwyddodd i gasglu 100p. Anfonodd masnachwr o'r Bala ato i ofyn iddo, gan ei fod yn Llundain, i dalu swm o arian drosto, yr arbedasai hyny ef i anfon arian i fyny, ac y telid ef yn ol ar ei ddychweliad. Gan wybod ei fod yn fasnachwr cyfrifol, gwnaeth Mr. Lewis yn ol ei gais, ond erbyn ei ddychweliad cafodd fod masnachwr wedi tori, a swm mawr o'r arian a gasglwyd trwy lafur caled, oblegid hyny, wedi eu colli. Tua'r flwyddyn 1823, o herwydd fod rhyw gamddealldwriaeth rhyngddo a'i ail wraig, yr hyn a brofai anffafriol i'w weinidogaeth, rhoddodd Mr. Lewis i fyny ofal yr eglwys yn y Bala, a symudodd i fyw at ei ferch i Hafod-yr-haidd, Llanuwchllyn, lle y bu dros weddill ei oes.
Yn nechreu y flwyddyn 1824, derbyniodd Mr. John Ridge, Penygroes, alwad gan yr eglwys yma, a chydsyniodd a hi, a bu yn boblogaidd a pharchus gan bob enwad yn y dref a'r amgylchoedd, hyd nes y symudodd i Cendl, sir Fynwy, yn niwedd y flwyddyn 1829. Wedi bod am dymor heb weinidog, yn niwedd y flwyddyn 1831, rhoddwyd galwad i Mr. Richard Jones, myfyriwr o athrofa y Drefnewydd; ac urddwyd ef Mai 3ydd a'r 4ydd, 1832. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. M. Jones, Llanuwchllyn; holwyd y gofyniadau gan Mr. C. Jones, Dolgellau; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Roberts, Capel-garmon; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. T. Lewis, Llanfairmuallt, ac i'r eglwys gan Mr. W. Williams, Wern. Gweinyddwyd hefyd yn y gwahanol gyfarfodydd gan Meistri J. Williams, Dinas; R. Rowlands, Henryd; T. Jones, Llangollen; E. Davies, Trawsfynydd; T. Ellis, Llangwm; H. Pugh, Llandrillo; E. Davies, Llanrwst; Ll. Samuel, Bethesda; W. Morris, Llanfyllin; D. Price, Penybontfawr; S. Roberts, Llanbrynmair; J. Jones, Llanidloes; T. Morgan, Trallwm, a J. Davies, Llanfair.[1] Ychydig gyda thair blynedd y bu Mr. Jones yma, canys ymadawodd cyn diwedd y flwyddyn 1835. Curodd tymestloedd cryfion ar yr achos yn y cyfnod yma, ond er "ei fwrw i lawr ni lwyr ddifethwyd ef," ac ni chaniataodd yr Arglwydd i'r rhai a geisient ei einioes i gael eu hewyllys arno. Bu yr eglwys am rai blynyddoedd ar ol hyny heb weinidog sefydlog, ond oblegid fod yr Athrofa Ogleddol wedi ei sefydlu yn y Bala, dan ofal Mr. Michael Jones, Llanuwchllyn; penderfynodd Mr. Jones roddi yr eglwys yn Llanuwchllyn, lle y llafuriasai am wyth mlynedd-ar-hugain, i fyny, a
- ↑ Dysgedydd, Mai, 1832.