Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/441

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

derbyniodd alwad gan yr eglwys yn y Bala, a llafuriodd yma mewn cysylltiad a'r eglwysi eraill dan ei ofal, hyd nes y rhoddodd angau derfyn ar ei holl lafur, Hydref 27ain, 1853. Nid oedd Mr. Jones yn gallu bod yma ond dau Sabboth o bob mis, a phregethai y myfyrwyr ar y Sabbothau eraill. Yn niwedd 1854, rhoddwyd galwad i Mr. Michael Daniel Jones, Bwlchnewydd, (mab y diweddar weinidog,) i fod yn weinidog yma. Yr oedd Pwyllgor yr athrofa hefyd wedi ei ddewis i fod yn olynydd ei dad fel athraw. Bu gofal yr eglwys ar Mr. Jones am fwy na phedair blynedd, ond oblegid fod maes ei lafur mor eang, rhoddodd yr eglwysi yn y Bala a Thy'nybont i fyny, gan eu hanog i edrych am ryw un cymwys i fwrw golwg drostynt, a dewiswyd Mr. John Peter, un o aeladau yr eglwys yn y Bala, ac a ddechreuodd bregethu ynddi, ac a addysgwyd yn yr athrofa. Urddwyd ef Mawrth 30ain, 1859. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. R. Ellis, Brithdir; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Jones, Abermaw; gweddiodd Mr. M. D. Jones, Bala; pregethodd Mr. C. Jones, Dolgellau, i'r gweinidog, a Mr. D. Roberts, Caernarfon, i'r eglwys; a chymerwyd rhan yn ngwaith y dydd gan nifer luosog o weinidogion eraill. Bu adfywiad pur rymus ar grefydd yn y wlad yn fuan wedi sefydliad Mr. Peter yn weinidog yma, a chwanegwyd llawer at rifedi yr eglwys hon.

Dewiswyd Mr. Peter yn fuan gan y Pwyllgor yn gydathraw yn yr athrofa, yr hon swydd a len wir ganddo hyd yr awr hon. Yr oedd yr hen gapel, yr hwn a adeiladesid yn y flwyddyn 1813, wedi myned yn adfeil—iedig, heblaw ei fod yn gwbl anheilwng o'r lle a'r gynnulleidfa, ac yn 1867, penderfynwyd codi capel newydd hardd. Cafwyd tir agos ar gyfer yr hen gapel, mewn man tra chyfleus, ar brydles o gan' mlynedd. Costiodd y capel newydd tua 1200p., ond y mae tua haner y ddyled eisioes wedi ei thalu. Fel y gwelir oddiwrth ei hanes, y mae yr eglwys yma o bryd i bryd wedi myned trwy amgylchiadau helbulus, ac nid aeth drwyddynt heb iddynt adael eu heffeithiau arni. Nid yw ei dylanwad er daioni, wedi bod y peth y dylasai, ac er nad oes dim a fyno y genhedlaeth bresenol a hyny, etto, y maent hwy yn gorfod dyoddef anfantais oddiwrth annoethineb y rhai a fu o'u blaen. Bu yma lawer o bobl yn perthyn i'r achos o bryd i bryd, a choffeir yn barchus am enwau rhai gwragedd rhagorol a fu yma, ond nid ydym wedi cael hysbysiaeth ddigonol yn eu cylch i wneyd cofnodiad o honynt.

Codwyd yma amryw bregethwyr yn yr eglwys, heblaw y rhai fagwyd yma, ac a ddechreuodd bregethu mewn eglwysi eraill, ond yr ydym yn lled sicr i'r rhai a ganlyn ddechreu pregethu yn yr eglwys hon.

William Jones. Addysgwyd ef yn athrofa Wrecsam; urddwyd ef yn Mhenybontarogwy, lle y daw ei hanes dan ein sylw.

Samuel Rowlands. Aeth i Loegr, ac ni chlywsom ychwaneg o'i hanes.

Samuel Evans. Bu yn athrofa Hackney, ac y mae yn awr yn weinidog yn Ironside, yn agos i Wellington. Mab ydyw ef i Mr. Enoc Evans, o'r Bala, hen bregethwr perthynol i'r Methodistiaid.

Richard Jones. Addysgwyd ef yn athrofa y Drefnewydd; urddwyd ef yn Aberhosan. Symudodd i Ruthin lle y bu farw yn mlodeu ei ddyddiau. Ceir ei hanes ef yn nglyn ag eglwys Ruthin.

Robert Thomas. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala; urddwyd ef yn Jerusalem, swydd Fflint, a symudodd i Rhosymedre.

John Peter. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala, urddwyd ef, fel y gwelsom, yn weinidog yr eglwys yma, ac y mae yn awr yn athraw clasurol yr athrofa.