Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/442

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

William Solomon Roberts. Addysgwyd ef yn athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yn Fflint.

Robert Jones. Yn awr yn fyfyriwr yn yr athrofa.

Mae yr eglwys hon yn hawlio William Evans, Stockport; David Jones, Treffynon; William Thomas, Beaumaris; Hugh Evan Thomas, Pittsburgh, (Birkenhead gynt,) ac eraill, fel ei phlant, oblegid iddynt gael rhan helaeth o'u haddysg grefyddol ganddi, ond gan mai mewn cysylltiad ag eglwysi eraill yr oeddynt, pan y dechreuasant bregethu, nis gallwn eu rhoddi i mewn yma.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

EDWARD KENRICK. Nid oes genym ond ychydig o'i hanes. Priododd ferch yr hyglod Hugh Owen, Bronyclydwr, ac wedi marw Mr. John Owen, ei frawd-yn-nghyfraith, daeth Bronyclydwr yn feddiant iddo gyda'i wraig. Yr oedd yn ddyn da, ond nid ymddengys ei fod yn meddu ar ddoniau a phoblogrwydd ei dad-yn-nghyfraith a'i frawd-yn-nghyfraith, fel y gwanychodd yr achosion a gasglwyd gan ei ragflaenoriaid gryn lawer yn ei amser ef. Cafodd fyw hyd y flwyddyn 1742, pan y gwelodd adfywiad mawr ar yr achos trwy offerynoliaeth Meistri Lewis Rees a Jenkin Morgan, ac eraill o ddiwygwyr y ddeunawfed ganrif.[1]

DANIEL GRONOW. Aelod gwreiddiol o'r Mynyddbach, ger Abertawy, ydoedd. Derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin yn y flwyddyn 1757, a bu yno dair blynedd. Ymddengys mai yn sir Aberteifi yr ymsefydlodd ar ei ymadawiad a'r athrofa, yn rhan o esgobaeth Mr. Phillip Pugh, ac mai yno yr urddwyd ef. Yr oedd cylch gweinidogaeth Mr. Pugh yn eang iawn, ac yn y rhanau o honi o gylch Ciliauaeron a Neuaddlwyd y llafuriodd Mr. Gronow hyd ddiwedd 1769, pan y symudodd i'r Bala. Bu yma yn agos i ddeng mlynedd, a thrwy ei lafur ef y codwyd y capel Annibynol cyntaf yn y dref. Yr oedd ganddo gynnulleidfa gref, ac yr ydym yn cael enwau llawer o bersonau oeddynt yn byw yn mhlwyf Llangwm ar lyfr yr eglwys. Trwy ei lafur ef y sefydlwyd yr achos yn Nhynybont, ac yr oedd ganddo gynnulleidfa yn Llandderfel. Pregethai yn Llanfor y boreu, ac yn y Bala yn y prydnhawn, ac yn Llandderfel yn yr hwyr..[1] Yn ol y cyfrif a anfonwyd gan Mr. Job Orton i Mr. Josiah Thompson, yn 1773, yr oedd y gynnulleidfa yn y Bala yn rhifo 300, Talgarth (Tŷ'nybont,) 260, a Llandderfel 220. Dichon fod y cyfrif yn uchel, ond cymerai i fewn o bosibl, bawb o'r rhai a ddeuai yn nghyd i'r cyfarfodydd. Bu Mr. Gronow, yn myned unwaith yn y mis, am dymor, i Lanfyllin a'r Pantmawr. Nid oes unrhyw wybodaeth wedi ei adael ar ol i ni am dano fel pregethwr, ond y mae yn eglur iddo fod yn ddefnyddiol a llwyddianus yn y Bala dros y blynyddoedd y bu yma. Wedi ymadael a'r Bala, yr ydym yn ei gael yn Mixendem, yn swydd Caerefrog, a thebygol mai yno y bu farw. Mab iddo ef oedd Joseph Gronow, a addysgwyd yn yr athrofa yn Ngwrecsam, a urddwyd yn Weedon, yn swydd Northampton, yn Ebrill, 1797, ac a fu farw yn dra ieuangc.

EVAN WILLIAMS. Nis gwyddom un o ba le ydoedd, na pha le yr add-

  1. 1.0 1.1 MSS Mr. Josiah Thompson