Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/444

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Trefecca. Byddai yn methu cael y rhanau allan mewn pryd. Anfonai ei fab, John, i Drefecca i ymofyn y rhanau, ac yna cymerai y llance hwy yn bynau ar gefn caseg fechan, o eiddo ei dad, i'r prif ddosbarthwyr ar hyd y wlad. Ond yn aml iawn, erbyn ei fyned i Drefecca, ni byddai y rhanau yn barod, a byddai raid iddo aros yno am danynt weithiau am wythnosau, yr hyn oedd yn anghyfleustra ac yn golled fawr. Symudodd ef, wedi hir flino, at Mr. John Evans, yn Nghaerfyrddin, i'w argraffu, ac wedi hyny at Mr. R. Saunderson, i'r Bala. Yr oedd wyth rhan heb eu parotoi i'r wasg, pan fu farw Mr. Thomas, a chafodd ei fab gan Mr. Ebenezer Jones, Pontypool, gwblhau y gwaith. Parodd y maith flynyddoedd y bu y rhanau yn dyfod allan, golled dirfawr. Yr oedd 1800 o dderbynwyr i'r rhanau cyntaf; yr oedd cynnulleidfa Henllan, sir Gaerfyrddin, yn derbyn 102, ond cyn y diwedd, nid oedd ond 800 yn myned, fel yr oedd 1000 o gopiau ar hyd y wlad yn anorphenol. Dywedai ei fab i Mr. Thomas golli 300p. yn yr anturiaeth.[1] Dichon fod y llafur llenyddol yma o eiddo Mr. Thomas yn peri nad oedd yn gallu rhoddi cymaint o'i amser at ei ddyledswyddau gweinidogaethol ag a ddylasai, yn ol fel y syniai pobl ei ofal; ond gwnaeth, er hyny, wasanaeth dirfawr i'w genhedlaeth. Cafodd ei ran o drallodion teuluol. Gwelodd gladdu y rhan fwyaf o'i blant, a dyrysodd ei wraig yn ei synhwyrau, a daeth i ddiwedd gofidus iawn. Adwaenem ddau o'i blant, sef ei fab John Thomas, yr hwn a fu fyw am flynyddoedd yn Mhenycae, Mynwy, a'i ferch, Mary, gwraig Mr. David Johns, y Cenhadwr llafurus yn Madagascar; ond y maent hwythau bellach er's blynyddau wedi eu casglu at eu pobl. Bu farw Mr. Thomas yu mis Mai, 1809, yn 60 oed, a chladdwyd ef yn neu wrth gapel y Bala, ac y mae etto rai yn fyw sydd yn cofio dydd ei angladd.

JOHN LEWIS. Ganwyd ef yn Caerhys, plwyf Llanuwchllyn, yn y flwyddyn 1761. Enwau ei rieni oeddynt Lewis a Gainor Jones; ac aeth ef yn Lewis yn ol enw ei dad. Symudodd ei rieni i Hafodyrhaidd, pan nad oedd ef ond plentyn, ac fel John Lewis, Hafodyrhaidd, yr adnabyddid ef drwy ei oes yn y rhan fwyaf o sir Feirionydd. Derbyniwyd ef yn aelod yn hen gapel Llanuwchllyn, gan Mr. Abraham Tibbot, pan oedd ond llange ieuangc, a derbyniwyd amryw yr un pryd ag ef, ond edrychid ar John Lewis yn fwy deallgar na hwynt oll. Priododd yn mhen rhai blynyddoedd ag un Mary Jones, o'r Ddolfach, Llanuwchllyn, a ganwyd iddynt ddwy ferch. Ni bu yn briod ond tua chwe' blynedd, ac yn y tymor hwn y dechreuodd bregethu, ac nid oedd yn meddwl mwy na bod yn bregethwr achlysurol. Wedi claddu ei wraig, anogwyd ef i fyned i'r athrofa i Wrecsam, er ei fod y pryd hwnw yn ddeugain oed. Bu yn yr athrofa bedair blynedd, ac er nas gallesid disgwyl iddo ddyfod yn ys—golhaig gwych, etto, profodd yr addysg a gafodd o help iddo drwy ei oes. Cafodd wahoddiad i Lanfyllin a'r Capel-bach, Penybontfawr, ar brawf ond nid oedd eglwys Llanfyllin yn unol i roddi galwad iddo. Sefydlodd yn y Bala, ac urddwyd ef yn y flwyddyn 1807, ac ar ol ei urddo yno, bu yn gofalu am Benybontfawr am ddwy flynedd, hyd nes yr urddwyd Mr. Morris Hughes yno. Gwnaeth les mawr yn y Bala, yn enwedig yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth, pan yr oedd teimladau yr eglwys yn rhanedig. Priododd a gwraig weddw, yr hon a fuasai ddwywaith yn weddw, ac ni bu y briodas yn un gysurus mewn un modd. Mynai hi aros

  1. Llyfryddiaeth y Cymry. Tu dal. 664.