yn y Bala, a barnai yntau mai yn eu hen gartref, yn Hafodyrhaidd, y dylasent fyw, ac aeth pethau mor ddiflas fel yr aeth ef yn rhy ddigalon i bregethu. Rhoddodd y weinidogaeth yn y Bala i fyny, ac aeth i fyw at ei ferch yn Hafodyrhaidd, ond ymwelai a'i wraig yn y Bala yn achlysurol. Cymhellwyd ef i bregethu drachefn, yn mhen amser, yr hyn a wnaeth tra y gallodd, yn mha le bynag y gelwid am ei wasanaeth. Daliwyd ef gan fusgrellni a methiant hen ddyddiau, yr hyn a'i hanalluogodd i fyned allan o'i gymydogaeth, ond cyrchai i'r hen gapel tra y gallodd, hyd ei ddiwedd, a bu farw, Ionawr 23ain, 1850, yn 89 oed.[1] Dyn byr, crwn, o ran corpholaeth, ydoedd, ac o dymer siriol a charedig. Ni byddai byth mewn brys, a phan y dechreuai aros ar y ffordd i siarad, ni feddyliai am droi pen ar yr ymddyddan. Yr oedd yn deall duwinyddiaeth yn dda, ac anhawdd fuasai ei orchfygu mewn dadl, ond nid oedd erioed wedi dysgu dyweyd ei feddwl yn fyr a chynhwysfawr. Calfiniad cymhedrol ydoedd o ran ei olygiadau duwinyddol, ac yr oedd yn deall y pynciau y dadleuid yn eu cylch y dyddiau hyny yn well na'r rhan fwyaf. Nid oedd dim yn boblogaidd yn ei ddawn, er yr ymadroddai yn rhwydd, ac yr oedd yn wastad yn ddifrifol a digellwair, ond yr oedd yn amddifad o wres ac angerddoldeb. Gwnaeth "waith efengylwr," ac y mae wedi derbyn gwobr "y gwas da a ffyddlon."
MICHAEL JONES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1785, yn agos i Neuaddlwyd, sir Aberteifi. Enwau ei rieni oeddynt Daniel a Mary Jones, ac yr oeddynt ill dau yn nodedig am eu cryfder corphorol a meddyliol. Yn fuan wedi geni Michael Jones, symudodd ei rieni i Ffos-y-bont-bren, ac yno y treuliodd efe y rhan fwyaf o'i ddyddiau boreuol. Er nad oedd ei rieni yn proffesu crefydd, etto, dygasant eu plant i fyny mewn moesoldeb cyffredin, a chyn diwedd eu hoes ymunodd ei dad a'r Wesleyaid, a'i fam a'r Methodistiaid; ond i'r Neuaddlwyd i fwynhau gweinidogaeth Dr. Phillips, y cyrchai Michael Jones. O herwydd fod tyddyn Ffos-y-bont-bren yn rhy fychan i gynal teulu Daniel Jones, trodd Michael Jones allan i wasanaethu, ac ar ol bod felly yn gwasanaethu dros ychydig, drwy gynorthwy ei frawd Evan Jones, yr hwn oedd hynach nag ef, ac wedi casglu tipyn o arian, aeth i'r ysgol, a gwnaeth gynydd buan mewn dysgeidiaeth. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y Neuaddlwyd, yn mis Medi, 1807, ac yn fuan anogwyd ef i ddechreu pregethu. Pregethodd ei bregeth gyntaf mewn lle a elwir Penrhiw. Aeth i'r ysgol drachefn at Mr. D. Davies, Castell-howell, ac yr oedd ganddo trwy ei oes feddwl uchel am Mr. Davies, fel athraw. Treuliodd dair blynedd, weithiau yn yr ysgol, a phryd arall yn gweithio, er ennill arian i'w gynal yn yr ysgol; hyd y flwyddyn 1810, pryd y derbyniwyd ef yn fyfyriwr i'r athrofa yn Wrecsam. Rhagorodd ar y rhan fwyaf o'i gydfyfyrwyr fel ysgolhaig, ac fel ysgolhaig cywir a manwl yr hynododd ei hun, yn fwy nag fel pregethwr, er fod ei bregethau, hyd yn nod yn y cyfnod hwnw, yn sylweddol, ac yn cynwys hanfod yr efengyl. Wedi gorphen ei dymor yn yr athrofa, derbyniodd alwad gan hen eglwys barchus Llanuwchllyn, yr hon a adawsid yn amddifad o fugail, trwy symudiad Dr. Lewis i gymeryd gofal yr athrofa yn Wrecsam. Urddwyd Mr. Jones Hydref 10fed, 1814, ond er fod yr eglwys yn lluosog a chyfoethog, nid oedd yr hyn a addawent at ei gynhaliaeth ond ychydig. Yn y flwyddyn 1816, priododd a Miss Mary Hughes, merch Mr. Edward
- ↑ Gwel ei Gofiant, Annibynwr, 1862, tu dal. 245, gan Mr. C. Jones.