Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/446

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hughes, Cwmcarnedd, Llanbrynmair, a bu iddynt bump o blant, dau fab a thair merch. Claddwyd y mab ieuengaf o flaen ei dad, ond y mae y tair merch a'r mab hynaf—Mr. M. D. Jones, athraw yr athrofa yn y Bala —etto yn fyw. Cyfarfyddodd Mr. Jones ag ystormydd blinion yn Llanuwchllyn, ystormydd na chyfarfu yr un gweinidog yn Nghymru erioed a'u chwerwach, a pharhasant yn hir iawn. Dyoddefodd drwyddynt golledion mawrion yn ei amgylchiadau, ac y mae yn rhaid ddarfod iddynt effeithio ar ei gyfansoddiad, er cryfed ydoedd. Nid awn i mewn i'r amgylchiadau hyny yma, gan y deuant i'n ffordd yn nglyn a hanes Llanuwchllyn, a chan fod nodwedd a chymeriad Mr. Jones, yn rhwym o ddyfod dan ein sylw yno, nid rhaid i ni aros llawer ar hyny yma. Cafodd Mr. Jones fyw i weled yr ystorm wedi myned heibio y rhwyg wedi ei gyfanu—heddwch wedi ei adfer—a theimladau i raddau dymunol wedi eu heddychu.

Ar sefydliad yr Athrofa Ogleddol, dewiswyd Mr. Jones yn athraw, a sefydlwyd ar y Bala, fel y lle cymhwysaf i'w chynal, a derbyniodd yntau yr apwyntiad. Yn mhen amser, gwelodd Mr. Jones yn angenrheidiol i ddatod ei gysylltiad gweinidogaethol a Llanuwchllyn, lle y bu am wyth-mlynedd-ar-hugain, a symudodd. i'r Bala, lle y treuliodd weddill ei oes. Cyflawnodd ddyledswyddau ei swydd fel athraw gyda'r gofal manylaf, ac ni bu neb erioed yn fwy cydwybodol yn cyflawni yr ymddiriedaeth a roddwyd iddo. Dysgai y myfyrwyr yn yr hyn a dybiai yn fwyaf angenrheidiol arnynt, a'r hyn a'u gwnai, ar ol gadael yr athrofa, yn ddefnyddiol yn y weinidogaeth. Arolygai yn fanwl dros eu holl arferion. Dichon y tybiai rhai ef yn rhy lym mewn pethau bychain, ond credai ef fod blysiau a chwantau o bob math i gael eu darostwng dan lywodraeth deall a rheswm. Yr oedd arfer myglys, neu ymwneyd a diodydd meddwol, yn arferion nas gallasai eu harbed, ac edrychai arnynt yn rhy beryglus i gellwair a hwy. Nid oedd profedigaeth iddo ef mewn dim o'r fath, a gallasai yn anad neb ddyweyd gyda Paul, "ni'm dygir i dan awdurdod gan ddim." Yr oedd yn feistr perffaith ar holl flysiau y cnawd, ac nis gallasai oddef gweled dynion ieuaingc oedd a'u gwynebau ar waith cysegredig y weinidogaeth, yn cellwair ag arferion oedd yn peryglu eu dwyn yn gaethion iddynt. Ystyriai ef mai rhan hanfodol o grefydd oedd "croeshoelio y cnawd, ei wyniau, a'i chwantau." Nerth a chywirdeb oeddynt linellau amlycaf ei gymeriad, ac yr oedd mor ffyddlawn i argyhoeddiadau ei gydwybod, fel nad oedd perygl iddo fradychu yr hyn a gredai oedd wirionedd. Buasai ychydig yn ychwaneg o dynerwch ac ystwythder yn ei wneyd yn aelod hapusach o gymdeithas, ac arbedasai iddo ei hun, drwy hyny, lawer o'i ofidiau, ond yr oedd wedi tybied fod pob cyfrwyddiant felly yn fradychiad ar y gwirionedd, ac yn anffyddlondeb i gydwybod, a'i bwngc mawr ef yn wastad oedd "ymarfer i gael cydwybod ddirwystr tuag at Dduw a dynion." Dilynodd yr hyn a farnai yn ddyledswydd, hyd yn nod i'w anfantais ei hun, a gwnaeth fwy nag a allasai ei natur, er cryfed oedd, ymgynal dano, rhag i neb gael achlysur i ddyweyd ei fod yn anffyddlon i'r ymddiriedaeth a roddwyd ynddo. Ni dderbyniai ond 30p. y flwyddyn fel athraw yr athrofa, ond gwnai yr holl waith mor onest a phe talesid iddo 300p. y flwyddyn. Anonestrwydd y cyfrifasai ef dderbyn yr arian, er lleied y swm, heb wneyd y gwaith.

Yr oedd cylch ei weinidogaeth yn eang, oblegid heblaw y Bala a Thy'n-ybont, yr oedd Bethel, Llandderfel, a Soar, dan ei ofal, yr hyn yn nghyda'i