Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/447

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddyledswyddau fel athraw, oedd yn ormod i'r dyn cryfaf. Teimlai yn achlysurol oddiwrth boen ac anhwyldeb am y ddwy flynedd olaf o'i oes, ond daeth y diwedd yn gynt nag yr oedd neb yn ddisgwyl. Bu farw Hydref 27ain, 1853, yn 68 oed, ac wedi bod yn agos i ddeugain mlynedd yn y weinidogaeth. "Daliodd gyffes ei obaith yn ddisigl hyd y diwedd," a bu farw fel y bu fyw, gan bwyso ar y gwirionedd. Nid oedd gan benillion fawr o ddylanwad arno wrth fyw, ac ni fynai bwyso arnynt with farw. Wrth ei weled yn ei boenau olaf yn cael ei arteithio, dywedai Mrs. Jones, "Wel fy anwylyd, y mae yn galed iawn," "nag ydyw," ebe yntau, yn ei ddull pwyllus, "byr ysgafn gystudd, yn odidog_ragorol, yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant." Adroddodd Mrs. Jones yn ei glyw, y penill adnabyddus:—

"Ar lan'r Iorddonen ddofn, 'rwyn oedi'n nychlyd,
Mewn blys myn'd trwy ac ofn, ei 'stormydd enbyd."

"Na, na, dim ofn—Ysgrythyr, fy anwylyd—Ysgrythyr." Darllenwyd iddo y drydedd Salm ar hugain, a phan ar ganol y geiriau, "Ie pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed," dywedodd yn orfoleddus, "Dyna, dyna, fy anwylyd, dyna graig yn awr," a bu farw gan bwyso ar y graig. Claddwyd ef Hydref 31ain, 1853, yn mynwent Hen Gapel, Llanuwchllyn, ac yr oedd mwy na deg-ar-hugain o weinidogion y gwahanol enwadau, gyda thorf alarus, yn ei ddwyn i'w gladdu, ac yr oedd y galar a amlygid y fath, fel yr oedd yn amlwg i bawb fod "tywysog a gwr mawr yn Israel wedi syrthio.'

TYNYBONT.

Mae y lle hwn yn nhref-ddegwm Cil Talgarth, o fewn pedair milldir i'r Bala. Ymddengys fod yr achos yma yn hen, a bod y capel wedi ei godi mor foreu, os nad yn foreuach, na chapel y Bala. Fel y crybwyllasom, y mae y cyfrifiad a roddodd Mr. Job Orton i Mr. Josiah Thompson yn gwneyd rhif y rhai a ymgynnullent yma yn 260, er fod yn anhawdd genym gredu eu bod mor lluosog. Mr. Daniel Gronow oedd y gweinidog pan godwyd y capel. Eiddo un Thomas Jones oedd tir Tynybont, ac efe a roddodd le i adeiladu y capel arno. Gwerthwyd tyddyn Tynybont gan Thomas Jones, i Mr. Price, Rhiwlas, a chan nad oedd Thomas Jones wedi trosglwyddo y capel trwy weithred i ymddiriedolwyr, aeth yn eiddo i Mr. Price gyda'r tyddyn. Buwyd yn talu 3p. y flwyddyn o ardreth i Simon Jones, mab y dywededig Thomas Jones, oblegid mai efe oedd tenant Mr. Price yn Nhynybont; ond oblegid i Simon Jones dori rhyw bren ar y tir, digiodd Mr. Price wrtho, a rhoddodd brydles i'r eglwys ar y capel, a dyna y pryd y daeth yn feddiant i'r eglwys. Gadawodd Robert Griffith, o'r Garneddlwyd, 2p. at yr achos yn ei ewyllys, ac o log y rhai hyny y mae Edward Jones, mab-yn-nghyfraith Robert Griffith, yn talu swllt y flwyddyn o gydnabyddiaeth i Mr. Price, Rhiwlas. Nid oedd y capel cyntaf ond un syml a diaddurn iawn; ond ad-drefnwyd ef tua'r flwyddyn 1857. Tynwyd ymaith yr hen oriel, fel y mae yn awr yn gapel bychan cyfleus. Costiodd y cwbl tua 40p., a thalwyd yr holl ddyled. Mae y lle yma wedi bod o'r dechreuad mewn cysylltiad gweinidogaethol a'r Bala; ac felly y mae yn parhau. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ond y mae