Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/448

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yma ffyddloniaid wedi bod "yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd y nos.' Bu teulu Coedyfoel o gryn swcr i'r achos, a choffeir yn arbenig am Dorothy Jones, Coedyfoel, fel gwraig ragorol. Yr oedd yn un o'r rhai a gymerai ddyddordeb mawr yn nadleuon duwinyddol dechreuad y ganrif hon, a gwrandawai yn graff ar bob dyn dyeithr a ddeuai heibio, er deall beth ydoedd. Daeth Mr. Arthur Jones, o Fangor, (Dr. Jones wedi hyny,) heibio unwaith, ond er gwrando yn astud, methodd hen dduwinyddes Coedyfoel, a gwneyd allan pa beth ydoedd ef, na'r dyn ieuangc a bregethai o'i flaen. Wedi myned i'r tŷ, gofynai yn bur siomedig, "Wel, ddynion, pa'm bregethwch chi be' ydach chi?" "Well i mi bregethu Crist i chwi, na phregethu beth ydwyf fi," ebe Dr. Jones, gyda'r parodrwydd ymadrodd oedd mor nodedig ynddo; a gwelodd Dorothy Jones nad gwr i wneyd yn hyf arno oedd y pregethwr o Fangor. Codwyd capel bychan tua diwedd y ganrif ddiweddaf, mewn cysylltiad a Thynybont, ar dir Mr. Price, Rhiwlas, yn Tynant, yn Nghwmtirmynach. Ni chafwyd prydles ar y tir, ac yr oedd yn rhaid codi y tŷ a chorn simdde arno, fel na feddyliai neb wrth fyned heibio nad tŷ anedd oedd; ac nid oedd pulpud i gael ei roddi ynddo, oblegid mai yn dŷ ysgol, ac yn lle i gynal cyfarfodydd achlysurol yn nglyn a Thynybont, y bwriadwyd ef. Ond rhoddwyd pulpud bychan ynddo, ac aeth rhyw rai prysur i Rhiwlas i hysbysu hyny, a'r diwedd fu cloi y lle, a throi yr addolwyr allan.[1]

Codwyd i bregethu yn yr eglwys hon:—

Hugh Hughes. Yr hwn a ymfudodd i America.

David Roberts. Bu yn athrofa y Bala, ac y mae yn awr yn fyfyriwr yn Glasgow.

LLANUWCHLLYN.

Yn y flwyddyn 1737, yr ydym yn cael Meurig Dafydd, Weirglawdd-y-gilfach, yn y Bala, yn gwrando Mr. Lewis Rees, o Lanbrynmair, yn pregethu. Nis gwyddom pa beth a'i harweiniodd yno. A oedd yn digwydd bod yn y dref eisioes, ac iddo yn ddamweiniol droi i mewn i wrando beth oedd gan y pregethwr i ddyweyd, ai ynte a aeth efe yno yn ei unswydd, gan ewyllysio clywed y dyn. Nid oes neb a all ateb yr ymholion hyn, a gwaith ofer yw i ninau geisio dyfalu. Beth bynag, yr ydym yn cael Meurig Dafydd yn yr oedfa, ac oedfa nodedig iddo ef ydoedd, canys dygwyd ef ynddi i adnabod ei gyflwr, a'r drefn i'w gadw trwy y Gwaredwr. Ar y diwedd, gwahoddodd Mr. Rees i bregethu i'r Weirglawdd-y-gilfach, a'r hyn y cydsyniodd, ac ar yr amser apwyntiedig, daeth yn ol ei addewid. Yr oedd Meurig Dafydd, fel Cornelius, o'r blaen wedi bod yn ddiwyd yn gwahodd ei gymydogion a'i geraint i'w dŷ erbyn yr oedfa, a phan ddaeth Mr. Rees yno, cafodd gynnulleidfa luosog yn ddisgwyl. Ond y mae yr olwg arnynt yn ddyeithr iddo. Mae pob un, gwryw a benyw, a'i hosan yn ei law, ac yn brysur yn gwau, yn ol arfer y wlad. Eisteddai Mr. Rees wrth y tân i ddisgwyl amser dechreu, a thaflai ei lygaid ar ei ddarpar wrandawyr yn awr ac eilwaith, er gweled a oedd dim tebyg iddynt i roddi heibio, ond ni welai un arwydd. O'r diwedd, cododd i fyny, ac agorodd y Bibl yn araf, gan ddisgwyl y buasai hyny yn arwydd iddynt i roddi heibio, ond nid oedd dim yn tycio. Dechreuodd

  1. Llythyr Mr. J. Peter, Bala.