ddarllen, a thaflai gil ei lygaid arnynt, ond yr oedd eu dwylaw yn brysur gyda'r gweill. Gwnaeth rai nodiadau, gan dybied y buasai hyny yn galw eu sylw, ond pa faint bynag o sylw a dalai eu llygaid a'u clustiau, ni lonyddai eu dwylaw. Penderfynodd droi at Dduw mewn gweddi, a'r olwg ddiweddaf a gafodd cyn cau ei lygaid oedd, pob un yn ddiwyd yn gwau ei hosan. Ond wedi dechreu gweddio, cafodd nerth gyda Duw, fel yr anghofiodd hwy yn fuan. Deallodd wrth yr ocheneidiau a glywai fod Duw yn wir yn y lle, a phan yr agorodd ei lygaid ar ddiwedd y weddi, gwelai bob hosan a gweill wedi syrthio i'r llawr fel "taenfa rhwydau," a phob gwyneb wedi ei wlychu gan ddagrau. Dyna yr oedfa gyntaf erioed, hyd y mae genym sicrwydd, gan yr Ymneillduwyr yn mhlwyf Llanuwchllyn. Wedi bod yno drachefn ar Sabboth, ar gais Meurig Dafydd a'r bobl, anogodd Mr. Rees, Meurig Dafydd i gofrestru ei dŷ i bregethu, fel y byddai yn ddiogel dan nawdd y gyfraith rhag pob ymosodiad. Ond teimlai Meurig Dafydd yn ddigalon i wneyd hyny, rhag na chawsai bregethwr iddo ar ol ei drwyddedu, a dywedai "pe gwyddwn y cawn i bregeth unwaith yn y flwyddyn mi wnawn." Addawodd Mr. Rees y rhoddai fwy na hyny—y deuai yno unwaith bob tri mis. Llonodd Meurig Dafydd yn fawr pan glywodd hyny, a thrwyddedodd ei dŷ, a chafwyd addoliad rheolaidd yno o hyny allan, a ffurfiwyd yno eglwys yn fuan. Mae Weirglawdd-y-gilfach mewn cwm anghysbell, rhwng Llanuwchllyn a chyfeiriad Dinasmawddwy, yn nghesail Aran Benllyn, ac yma yn benaf y cyfarfyddai y gynnulleidfa, hyd nes yr adeiladwyd y capel. Buwyd yn addoli hefyd yn Nantydeiliau, lle yr oedd un o'r aelodau, o'r enw Dafydd Stephen, yn byw; ac am ddwy neu dair blynedd cyn codi y capel, addolid
yno bob yn ail a Gweirglawdd-y-gilfach. Rhoddwyd galwad gan yr eglwys, pan yn Weirglawdd-y-gilfach, i un Mr. Thomas Evans, i fod yn weinidog. Gwr o'r Deheudir ydoedd. Gelwid ef Mr. Evans, Talardd, oblegid iddo briodi a chwaer Mr. Thomas Owen, Talardd, amaethwr, a thirfeddianwr cyfrifol oedd yn byw yn ymyl Weirglawdd-y-gilfach, ac ymddengys i Mr. Evans fod yn byw ac yn cadw ysgol yn Talardd. Nid oes genym sicrwydd pa bryd y daeth Mr. Evans yma, ond yr oedd yma yn 1744, canys yr oedd y flwyddyn hono yn derbyn arian o drysorfa y Presbyteriaid, a bu yma beth bynag hyd 1757, canys yr ydym yn cael ei enw y flwyddyn hono hefyd, yn derbyn o'r un drysorfa, fel gweinidog Llanuwchllyn. Y mae yn eglur, gan hyny, ei fod ef yma cyn codi y capel, ac mai yn yspaid ei weinidogaeth ef y bu hyny. Wedi i'r eglwys gynyddu yn Weirglawdd-y-gilfach, a bod llawer o'r aelodau yn byw i lawr yn ngwaelod y plwyf, penderfynwyd fod yn well cael capel mewn rhyw le canolog, fel y gallai yr holl frawdoliaeth gydymgynnull i fwynhau cymdeithas eu gilydd. Gosodwyd ar Meurig Dafydd, Weirglawdd-y-gilfach, a Thomas Cadwaladr, i fyned at Dafydd Stephen, Nantydeiliau, i geisio lle i'w godi ar ei dir ef. Llwyddasant yn eu hamcan, a chodwyd yno gapel cyfleus i'r gynnulleidfa[1] Dyddiad y weithred gyntaf ydyw 1745, ond y flwyddyn ganlynol, fel yr ymddengys, y codwyd y capel. Arferai boneddwr o Loegr, Mr. Twanley, gwr duwiol, selog, a haelfrydig o Kidderminster, ymweled a Llanuwchllyn a'r amgylchoedd, ar adeg ffeiriau i brynu anifeiliaid. Wrth weled amddifadrwydd yr ardal o le addoliad, rhoddodd bob cefnogaeth i'r cyfeillion yn y lle i godi capel. Cyfranodd ei hun, a chasglodd oddiar eraill
- ↑ Ysgrifiau Rhys Mynwy; Y Dydd, Awst 28ain, 1868.