Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod y capel wedi cael ei adeiladu tua blwyddyn cyn hyny. Y Parch. Walter Thomas, y gweinidog, yw y blaenaf yn mysg yr ymddiriedolwyr. Yn ddiweddar prynodd yr eglwys ddarn o dir y tu cefn i'r capel at helaethu y fynwent. Mae defodaeth (ritualism) yn ei lawn rwysg yn eglwys blwyfol Llanfaches yn awr; trugaredd gan hyny i'r gymydogaeth yw fod yno eglwys Annibynol i ddwyn tystiolaeth o blaid crefydd ysbrydol ac ysgrythyrol. Mae hen addoldy Carwhill yn awr yn anedd-dy, ond yn yr un ffurf ag yr ydoedd pan yn addoldy.

Nid yw yr achos yn bresenol yn Llanfaches ond bychan ac eiddil. Oddeutu deugain yw rhif yr aelodau, a'r rhan fwyaf o'r cyfryw mewn amgylchiadau bydol isel, ond yr ydym yn hyderu eu bod yn bobl agos at yr Arglwydd, a bod yr adeg etto i ddyfod pan y cyfyd yr hen eglwys hon i'r nerth, y lluosogrwydd, yr enwogrwydd, a'r santeiddrwydd a'i hynodai yn nyddiau ei hieuengetyd, pryd yroedd sylw y byd crefyddol trwy Gymru a Lloegr yn cael ei dynu ati.

Mae yn ddiameu i lawer o aelodau yr eglwys hon o oes i oes fyned i'r weinidogaeth, ond nid ydym yn hysbys o enwau neb o honynt ar ol y rhai a gyfodasant yno yn amser Mr. Wroth, oddieithr dau sydd yn fyw yn bresenol, sef y Parch. George Richards, Beverly, gerllaw Hull, yr hwn a addysgwyd yn Athrofa Airdale, ac a urddwyd yn 1844; a'r Parch. George Thomas, Brynbyga, mab y diweddar Barch. David Thomas, yr hwn a addysgwyd yn Pickering, ac a urddwyd yn 1848.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

WILLIAM WROTH, B.A., a anwyd yn, neu yn agos i, Abergavenny, yn y flwyddyn 1570. Hanai o un o'r teuluoedd cyfoethocaf a pharchusaf yn sir Fynwy. Derbyniwyd ef i Goleg Iesu, Rhydychain, Ionawr 21, 1586. Ymddengys iddo fod lawer o flynyddau yn Rhydychain, oblegyd yn ol coflyfrau y brif athrofa ni ddarfu iddo raddio fel athraw y celfyddydau cyn Chwefror 18, 1595. Mae yn debygol mai y flwyddyn hono y dychwelodd i Fynwy, ac y gwnaed ef yn Ficer Llanfaches." Fel y crybwyllwyd yn hanes yr eglwys, bu am rai blynyddau yn ddyn hollol ddigrefydd, er yn weinidog yr efengyl mewn enw, ond wedi ei ddychweliad at yr Arglwydd, yr hyn fel y barnwn, a gymerodd le yn, neu yn fuan ar ol 1600, ymroddodd yn hollol i'r gwaith o bregethu, gweddio, a gwneuthur daioni yn mhob modd. Adwaenid ef yn Lloegr wrth yr enw "Apostol Cymru." Yr oedd Llanfaches yn amser Mr. Wroth i bobl grefyddol Cymru, a rhanau o Loegr, yr hyn oedd Jerusalem i'r Iuddewon gynt; cyrchant yno o bob cwr o'r wlad; ac yr oedd rhagoriaeth grefyddol y bobl a hoffent weinidogaeth Apostol Cymru" yn amlwg i bawb. Dywed William Erbery, yn y flwyddyn 1652, wrth son am y dadleuon a'r yspryd annghrefyddol a ddaethant i mewn gyda chyfodiad y Bedyddwyr yn Nghymru, fel y canlyn, "Eglwys Annibynol oedd yr un gyntaf. Yn ddiweddar yr ymddangosodd ac y cynyddodd yr eglwysi Bedyddiedig yn Nghymru, a dim ond y rhai gwanaf o'r Cristionogion sydd wedi syrthio i'r dwfr. Yr wyf yn dweyd y gwirionedd heb bleidgarwch. Nid oedd saint mwy ysprydol a dioddefgar mewn un ran o'r deyrnas nag oedd yn Nghymru—mor hunan-ymwadol ac mor farw i'r byd—ïe, y fath Gristionogion doeth o galon a gwybodus oeddynt; dyweded a thystied yr holl siroedd Saesoneg oddi amgylch pa gynnifer o