Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/450

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

er eu cynorthwyo.[1] Bu Mr. Evans yma tua phymtheng mlynedd, ac ymadawodd oddiyma i Ddinbych, o gylch y flwyddyn 1758. Y flwyddyn ganlynol, daeth Mr. Evan Williams, yma, o'r Brychgoed, sir Frycheiniog, lle yr oedd wedi ei urddo er's mwy na chwe' blynedd cyn hyny. Gofalai am y gangen yn y Bala hefyd, ond oblegid gwaeledd ei iechyd, nis gallasai fyned yno ond yn achlysurol. Llafuriodd yma hyd tua'r flwyddyn 1767, daeth Mr. Benjamin Evans ar daith i'r Gogledd, ar gais Mr. Lewis Rees, Mynyddbach, ac wedi iddo ymweled a Llanuwchllyn, ac i'r eglwys gael boddlonrwydd ynddo, cymhellasant ef i aros gyda hwy. Cydsyniodd a'u cais, ac urddwyd ef yn y flwyddyn 1769. Bu Mr. Evans yn nodedig o lafurus fel gweinidog, ac â'i holl egni ymroddodd i wneyd gwaith efengylwr. Torodd y tu allan i gylch uniongyrchol ei weinidogaeth yn fwy nag un o'i ragflaenoriaid, ac yn ol yr adroddiad a roddir gan Mr. Josiah Thompson, yr oedd cynnulleidfa Llanuwchllyn, neu y rhai y pregethai Mr. Evans iddynt mewn gwahanol fanau yn 1773, yn rhifo 600 o eneidiau. Teimlai fod y tarth oer a gyfodai oddiar Lyn Tegid yn effeithio yn anffafriol ar ei gyfansoddiad, ac er siomedigaeth fawr i'r eglwys a'r ardal, ymadawodd yn 1777, i'r Green, Hwlffordd, ac oddiyno i'r Drewen, lle y treuliodd weddill ei oes. Yr un flwyddyn ag yr ymadawodd Mr. Evans, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Thomas Davies, yr hwn a fuasai yn fyfyriwr yn athrofa Abergavenny, ac urddwyd ef yma yn weinidog. Rhy brin bedair blynedd y bu yn y weinidogaeth, oblegid rhoddodd angau derfyn ar ei fywyd defnyddiol, ar yr 28ain o Ebrill, 1781.[2] Ar ol marwolaeth Mr. Davies, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Abraham Tibbot. Nis gwyddom pa mor fuan ar ol marw Mr. Davies y daeth ef yma, ond yr oedd yma yn 1785, a bu yma hyd 1792. Yr oedd Mr. Tibbot yn ddyn o gorph cryf, ac yn bregethwr poblogaidd, ond ei fod i raddau yn esgeulus a diofal yn ei arferion, a dygodd hyny ef, a phobl ei ofal, i helbul fwy nag unwaith. Bu yn Llundain dros eglwys Llanuwchllyn yn casglu, ac nid ymddengys iddo ddychwelyd a llawer o arian gydag ef, a pharodd hyny ddiflasdod mawr rhwng yr eglwys ac yntau. Dygwyd ei achos ger bron cyfarfod o weinidogion yn y Bala, yn 1794; a phenodwyd ar Meistri Benjamin Jones, Pwllheli, a George Lewis, Caernarfon, i fyned i Lanuwchllyn i chwilio yr amgylchiadau, ac y mae y penderfyniad y daeth Mr. Jones, a Mr. Lewis, a'r eglwys iddo, yn awr ger ein bron, yr hwn a anfonwyd at y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol, gan fod y cynorthwy arferol wedi ei atal oddiwrth Mr. Tibbot y flwyddyn flaenorol. Ystyrient fod ei ymddygiad yn feiadwy, ond nad oedd yr eglwys yn Llanuwchllyn yn priodoli y diffyg yn ei gyfrifon i egwyddor anonest, ond yn unig i afrad annoeth ar ei amser yn Llundain, a diffyg cynildeb priodol wrth gasglu; a chan fod Mr. Tibbot yn cydnabod hyn, yn gystal ag anmherffeithderau eraill yn ei ymddygiad tra yn weinidog i'r eglwys, y maent yn ei gymeradwyo i dynerwch rheolwyr y Drysorfa, mewn gobaith y bydd i'r treialon tymion a gafodd er hyny, gael eu sancteiddio iddo er rhagflaenu dim cyffelyb yn ol llaw. Mor onest onide, ac etto mor garedig, yr oedd yr hen bobl dda hyn yn trin eu gilydd, ac yn cyflawni yr ymddiriedaeth a roddid ynddynt. Ymadawodd Mr. Tibbot i sir Fon, lle y llafuriodd hyd ddiwedd ei oes; ac er ei fod yn mhell o bod yn berffaith, etto, yr oedd yn ddyn a gerid yn fawr gan bawb, a chyfrifai y rhai a'i hadwaenai ef oreu, yn gristion trwyadl.

  1. MSS. Mr. Josiah Thompson.
  2. Dysgedydd, 1834. Tu dal. 70.