gyflawni ei weinidogaeth gyda ffyddlondeb difwlch, a gwelodd raddau dymunol o lwyddiant ar ei lafur. Ond yn raddol dechreuodd pethau newid, troes yr hin, oerodd yr awyr, duodd y ffurfafen, a thorodd tymestl fawr ar Mr. Jones a'r eglwys yn mhen o gylch saith mlynedd wedi ei sefydliad. Mae yr amgylchiadau blinion a gyfarfu yr eglwys hon yn gyfryw, fel na byddai yn deg ynom fyned o'r tu arall heibio heb gyfeirio atynt. Pe na buasai ond cweryl personol, neu ddadl ar fater dibwys wedi arwain i an-nghydfod, aethem heibio yn unig gyda chrybwyll fod y fath beth wedi bod, ond gan fod y dadleuon Duwinyddol oedd yn cynhyrfu y wlad yn y cyfnod hwnw wedi eu dwyn i bwynt yma, ac mai Llanuwchllyn wnaed yn faes yr ymladdfa, y mae mwy na chrybwylliad am dano yn ofynol. Gan nas gallasai ein gwybodaeth o'r amgylchiadau fod ond yn anmherffaith, llwyddasom i gael gan gyfaill cwbl gydnabyddus a'r holl amgylchiadau, a pherffaith alluog at y gorchwyl, i roddi i ni grynodeb o'r helyntion o'r dechreu i'r diwedd.[1] Er fod ein cyfaill wedi ei ddwyn i fyny o dan weinidogaeth Mr. Michael Jones, ac yn meddu y cydymdeimlad llawnaf a'i olygiadau Duwinyddol, a'i dad yn Dduwinydd craff o'r un ysgol, etto, gwelir nad yw yn gaeth gan ddallbleidiaeth, i'r hyn oedd yn ddiffygiol yn Mr. Jones, a'i fod yn alluog i ganfod yr hyn oedd ragorol, yn yr hen bobl fel eu gelwid.
"Wrth geisio chwilio i'r achosion a ddygasant oddiamgylch y fath gyfnewidiadau dinystriol, dylid bod yn ystyriol, yn bwyllus, ac yn ddiragfarn tuag at y ddwy blaid. Cafodd Jonathan Edwards dywydd gerwin, am dymor, yn Northampton, Lloegr Newydd; ond yr oedd tywydd tymhestlog Mr. Jones, yn Llanuwchllyn, yn arwach, ffyrnicach, a hwy ei barhad na hwnw. Barnai llawer fod yr holl fai ar Mr. Jones, a barnai llawer eraill fod yr holl fai ar y gynnulleidfa, er hyny, digon tebyg fod y gwirionedd yn gorwedd yn y canol, rhwng pob eithafion. Yr oedd Mr. Michael Jones, yn ŵr mawr, cadarn, yn yr Ysgrythyrau, cryf ei feddwl, eang ei amgyffredion, manwl a threiddiol o ran ei wybodaeth Dduwinyddol a philosophaidd. Yr oedd yn hollol ddifrycheulyd o ran ei nodweddiad moesol. Ni chynygiodd neb erioed ei gyhuddo o anfoesoldeb. Yr oedd yn ddyn o dduwioldeb dwfn a diamheuol. Yr oedd llawer hefyd o'i bleidwyr yn yr eglwys yn bobl ddeallus, nodedig felly, ac lân a difrycheulyd o ran eu bucheddau. O'r ochr arall, yr oedd llawer o'r blaid wrthwynebol i Mr. Jones, er yn amddifaid o syniadau eang, a philosophaidd ar byngciau crefydd, yn ysgrythyrwyr rhagorol, ac yn dra chydnabyddus â syniadau eu hathraw blaenorol, yr hybarch Dr. Lewis. Yr oedd yn eu mysg lawer o bobl onest a duwiol, yn ofni Duw, ac yn cilio oddiwrth ddrygioni. Gwrthwynebent olygiadau Duwinyddol Mr. Jones o gydwybod. Gwadu hynyna fyddai cario pethau i eithafion, ac amlygu rhagfarn a chulni meddwl hollol anheilwng o hanesydd teg a gonest.
Ond er fod Mr. Jones yn un o'r dynion goreu, a manylaf a fagodd Cymru yn yr oes hono, etto, nid ydym yn honi ei fod ef, mwy na dynion eraill, yn rhydd oddiwrth fan wendidau; a mwy na thebygol ydyw, fod rhai pethau ynddo ef, yn cydweithio a phethau eraill yn y gynnulleidfa, i ddwyn oddiamgylch y rhwygiad a gymerodd le yn Llanuwchllyn. Buasai y weinidogaeth yn yr Hen Gapel, fel yn y rhan fwyaf o leoedd eraill, er ys llawer o flynyddoedd yn aros yn benaf ar athrawiaeth gras,
- ↑ Llythyr Mr. R. Thomas, Bangor.