Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/453

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei gwahanol ganghenau, gan esgeuluso yn ormodol, fe allai, y pethau a berthynant i Lywodraeth Foesol Duw, a rhwymedigaethau a dyledswyddau dynion, fel creaduriaid rhesymol a chyfrifol i'r llywodraeth hono. Wedi ei sefydliad yn yr ardal, troes Mr. Jones, dros lawer o flynyddau, holl nerth ei weinidogaeth i osod allan hawliau Duw fel llywydd, ac i gymell ei wrandawyr i gyflawni eu dyledswyddau fel deiliaid cyfrifol deddf ac efengyl. Traethodd lawer o syniadau cryfion ar bob peth perthynol i Lywodraeth Foesol, Natur Rhinwedd a Natur Pechod, Gallu Naturiol a Gallu Moesol, Anallu dyn yn gyson a'i Rwymedigaethau, a llawer o byngciau eraill cyffelyb. Chwalai au-noddfeydd dynion yn ddarnau o'u cylch, a malai eu hesgusodion yn llwch. Gallai ei fod wedi aros ar yr hwyaf ar yr ochr yna i Dduwinyddiaeth, heb ddwyn yr ochr gyferbyniol ond anfynych i olwg ei wrandawyr, a gwyr pawb mai cwm oer iawn i fyw ynddo am lawer o flynyddoedd, heb braidd ddyfod allan o hono, ydyw tir gallu dyn a'i ddyledswyddau, er fod yn anhebgorol angenrheidiol i weinidog yr efengyl osod y pethau hyny yn ffyddlon ac yn fynych o flaen ei wrandawyr. Yr oedd pregethu o'r natur a nodwyd, am lawer o flynyddoedd, i bobl oeddynt yn Galfiniaid go dynion, fel oedd y nifer amlaf o wrandawyr Mr. Jones, yn disgyn braidd yn oer ac annymunol ar eu clustiau. Heblaw hyny, yr oedd amryw o'r termau a arferai Mr. Jones wrth egluro ei olygiadau, yn anghymeradwy yn eu golwg, a chwynent eu bod yn ddyeithr ac yn dywyll iddynt. Heblaw hyny, yr oedd Mr. Jones yn amddifad o ddawn i ddenu ei wrandawyr. Ni allai eu toddi i ffurf ei feddwl ei hun. Ni feddai nemawr o gydymdeimlad a phobl ddifeddwl a diymdrech i ddeall logic y pethau a wrandawent. Ni welid byth wên ar ei wyneb yn yr areithfa. Gwênai pobl ddeallus weithiau wrth ei wrandaw, ond nerth a chysondeb ei athrawiaeth a barai iddynt hwy wênu, ac nid dim yn ei agwedd na'i lais, na'i ddull o osod ei feddwl allan. Yr oedd yn berffaith feistr ar wawdiaeth, a diferai ymadroddion brwmstanaidd yn aml dros ei wefusau. Nid oedd dyn mwy deallus nag ef yn Nghymru. Nid oedd na Roberts, o Lanbrynmair, na Jones, o Ddolgellau, na Williams, o'r Wern, ychwaith, er cymaint a glodforir arno, yn gyfartal i Mr. Jones, o Lanuwchllyn, yn nerth eu meddyliau, ac nid oedd yr un o honynt yn gyfartal iddo mewn deall philosophyddiaeth trefn iachawdwriaeth, a Llywodraeth Foesol Duw, ond rhagorai amryw o'i frodyr arno mewn medrusrwydd i osod y gwirionedd allan yn y modd egluraf, a mwyaf deniadol. Yr oedd ef yn gryf fel castell, ond yr oedd yn amddifad o'r mwyneidd-dra sydd yn angenrheidiol i gyfarfod gwrthwynebwyr er diarfogi eu rhagfarn. Yr ydoedd hefyd yn rhy dyn ac yn rhy benderfynol, fe allai, am ei ffordd mewn pethau o ychydig bwys. Cymerwn olwg fer etto ar ansawdd pethau yn mysg gwrthwynebwyr Mr. Jones. Yr oedd yn eu plith rai a anghymeradwyent yr ymdrechion egniol a wnai efe o blaid yr Ysgol Sabbothol. Golygent ei fod yn codi y sefydliad hwnw yn rhy uchel, ac yn rhoddi gormod o bwys arno. Rhyw ffordd respectable o dori y Sabboth, yn ol eu barn hwy, oedd cadw Ysgol Sabbothol, a thaflent lawer o rwystrau ar ffordd ei chynydd a'i llwyddiant. Gwyddys hefyd fod rhai yn eu mysg yn anffafriol i weinidogaeth sefydlog yr efengyl. Rhyw ddrwg angenrheidiol (necessary evil), rhywbeth i'w goddef, am na ellid bod hebddi, oedd y weinidogaeth yn ol eu golygiad hwy. Yr oedd amryw o'r blaenoriaid wedi cael blas ar awdurdod, yn enwedig ar ol ymadawiad Dr. Lewis, a golygai yr henuriaid llywodraethol mai gan-