ddynt hwy yr oedd yr hawl i ofalu am yr athrawiaeth a'r ddysgyblaeth yn nhŷ Dduw, ac mai cadeirydd eu cyfarfodydd yn unig, oedd y gweinidog i fod. Arferent droi ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig allan o'r capel, tra fyddid yn ymddiddan yn eu cylch, a throseddwyr, yr un modd, yna gollyngid hwy i mewn ar ddiwedd y cyfarfod i glywed dedfryd yr eglwys ar eu materion. Gwrthwynebai Mr. Jones yr arfer hono yn hollol. Yr oedd presenoldeb gwr ieuangc gwrol, penderfynol, ac anhyblyg fel y gweinidog, yn boenus i ymgeiswyr am awdurdod yn yr Hen Gapel, a thybient ei fod ef yn myned a mwy na'i ran o lywodraeth yr eglwys. Y pryd hwnw, hefyd, yr oedd y ddau wr mwyaf deallus yn y gynnulleidfa dan gerydd eglwysig, oblegid rhyw amgylchiadau bydol y buasai ganddynt law ynddynt, ac felly collodd yr eglwys, a'r gweinidog hefyd, eu dylanwad cryf hwy, yn yr adeg yr oedd mwyaf o angen am dano, i roi ataliad ar rwysg dynion hunangeisiol. Ond teg yw dywedyd fod y dosbarth lluosocaf o wrthwynebwyr Mr. Jones, yn sefyll yn ei erbyn yn benderfynol am eu bod credu yn gydwybodol ei fod yn cyfeiliorni mewn barn, ac yn gwyro oddiwrth y gwirionedd "fel y mae yn yr Iesu." Ni allent weled fod y termau a arferai efe yn Ysgrythyrol. Credent nad oedd ei olygiadau ar bechod—sef mai diffyg ydyw yn ei natur, ac yn arbenigol, Pechod Gwreiddiol yn gyson a'r pethau a ddywedir yn y Bibl am bechod. Barnent nas gall dyn fod mewn sefyllfa o brawf, ac mewn cyflwr o gondemniad ar yr un pryd. Credent fod dyn yn farw ryw fodd, fel pren neu faen, ac nas gall wneyd dim ond pechu, hyd nes y cyfnewidir ef trwy ras. Pan geisid dangos fod dau fath o anallu, sef, un naturiol ac un moesol, cyfarfyddent hyny â'r geiriau, "Ni ddichon—nis gall chwaith—nis gallant ryngu bodd Duw," a'r cyffelyb. Cyfyngent yr Iawn i gylch eglwys Dduw, ac ni allent weled fod amcan yn y byd yn deilwng o aberth Crist, ond gweithredol gadwedigaeth dynion a gogoniant Duw yn hyny. Esbonient yr ymadroddion eang sydd yn y Bibl am farwolaeth Crist, megis pawb, pob dyn, yr holl fyd, am yr Iuddewon a'r cenedloedd, a thyrfaoedd mawrion o blith y ddau ddosbarth. Gan mai yr eglwys yn unig a gedwir yn y pen draw, ni allent hwy weled nad yr eglwys yn unig yw y rhai y bu Crist farw drostynt; a dywedent fod y rhai a ddalient fod Crist yn aberth dros holl ddynolryw, yn rhwym o ddal hefyd, fod llawer o werth gwaed Crist yn myned i uffern yn barhaus. Yr oedd golygiad rhy fasnachol ar yr lawn wedi eu niweidio a'u hanghymwyso i drin y mater yn deg. Barnent fod Mr. Jones yn Arminiad, pryd mewn gwirionedd Calfiniad cymhedrol, cryf, ydoedd ef. Yr oedd yn y dosbarth hwn o wrthwynebwyr Mr. Jones, lawer o bobl dda a chrefyddol, ac y maent yn hawlio ein cydymdeimlad a'n parch yn ei diffuant. Nid ydym yn meddwl fod holl wrthwynebwyr Mr. Jones wrthsefyll ar y tir cydwybodol a nodir uchod, ond yr oedd llawer, a'r lleill yn eu dilyn oddiar amrywiol amcanion, fel y lled awgrymwyd eisioes. Ond taflwyd pob peth arall dros y bwrdd, a chyhuddwyd Mr. Jones o gyfeiliornad mewn barn, a bu dadleuon dychrynllyd drwy yr holl wlad. Yr oedd yr anedd-dai, y gweithdai, y tafarndai, y ffyrdd, y meusydd, a'r mynyddoedd, yn faesydd brwydrau poethion am hirfaith dymor, ac yr oedd crefydd seml y Bibl yn gorfod gostwng ei phen, a gwladeiddio ger bron yr ymrysonwyr brwdfrydig. Er mai golygiadau Duwinyddol Mr. Jones a broffesid gan bawb oll, fel yr unig achos o'u gwrthwynebiad iddo, un dosbarth oedd yn onest yn y broffes hono. Am amryw o flaenoriaid y cynwrf, pethau eraill oedd yn eu symbylu hwy yn mlaen. Cawsent hwy hyd i'w level pan
Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/454
Prawfddarllenwyd y dudalen hon