ddaeth Mr. Jones i'r ardal, ac ymdrechent yn egniol ennill eu hen safleoedd yn ol. Yr oedd blaenor y terfysgwyr yn ddyn pwyllog, hirben, a chyfrwys dros ben, ac yn gymwys iawn i flaenori ei blaid. Wedi blino yr oedd ef mewn gwirionedd ar Mr. Jones, fel dyn, ac fel gweinidog, a rhai eraill o gryn ddylanwad heblaw ef. Esgus oedd yr athrawiaeth gan y gwyr hyny. Safodd Mr. Jones fel derwen gadarn yn nghanol y dymestl. Ni symudai fodfedd o'i sefyllfan er yr holl ruthro a fu arno. Yr oedd rhyw fawredd —ac ardderchawgrwydd naturiol a moesol ynddo yn ei holl brofedigaethau. Addfedodd pethau yn raddol, ac ymddangosai ymraniad eglwysig fel yn anocheladwy. Ond cyn cyrhaeddyd y pwynt galarus hwnw, cydunwyd i gael cyfarfod o weinidogion yr enwad i geisio heddychu y pleidiau. Penodwyd gan y ddwy blaid i wahodd y gweinidogion canlynol i fod yn ddyddwyr rhwng yr ymrysonwyr; sef Meistri W. Hughes, Dinas; J. Roberts, Llanbrynmair; D. Morgan, Machynlleth; W. Williams, Wern; R. Everett, Dinbych; T. Jones, Moelfro; J. Lewis, Bala; C. Jones, Dolgellau; E. Davies, Trawsfynydd, ac E. Davies, Cutiau. Daeth y gwyr uchod i'r Hen Gapel ar ddydd-gwaith, Rhagfyr 5ed, 1821. Cyfarfu yr holl eglwys ar yr achlysur. Dygwyd pob cyhuddiad a ellid ddwyn yn erbyn Mr. Jones, fel cyfeiliornwr, yn mlaen gan yr wrthblaid; ac amddiffynodd Mr. Jones ei hun, a dangosodd yn eglur ei fod ef yr un o ran ei olygiadau Duwinyddol y pryd hwnw ag oedd ef pan ddaethai gyntaf i Lanuwchllyn. Gwnaed ymdrech egniol gan y gweinidogion i ddwyn y pleidiau at eu gilydd, ond bu y cyfan yn ofer. Gwelid yn eglur bellach nad oedd dim i'w wneuthur ond wynebu amgylchiadau gofidus ymraniad eglwysig. Daeth y dydd oddiamgylch. Ar foreu Sabboth cymundeb—ordinhad sydd mewn modd neillduol yn gosod allan undeb Cristionogion â Christ, ac â'u gilydd y cymerodd y rhwygiad le. Gallesid darllen ar wynebau llawer yn y gynnulleidfa y bore hwnw, fod rhywbeth mawr a phwysig i gymeryd lle. Pregethodd Mr. Jones fel arferol, a daeth i lawr o'r areithfa at y bwrdd i weinyddu yr ordinhad. Ond cyn iddo ddechreu ar y gwasanaeth hwnw, cyfododd blaenor yr wrthblaid i fyny a chyhoeddodd, "ei fod ef a'r blaid oedd yn anghytuno ag athrawiaeth Mr. Jones, yn ymneillduo oddiwrtho ef a'i bleidwyr." Yna aeth ef a'i blaid i oriel yr addoldy, tra fu y rhan arall o'r eglwys gyda y gweinidog, yn cyfranogi ar y llawr o Swpper yr Arglwydd. Hysbysodd Mr. Jones mewn oedfa ddilynol y dydd hwnw, fod y rhai a ymneillduasent yn y boreu, wedi tori eu perthynas a'r eglwys yn yr Hen Gapel, ac nad oedd iddynt fel y cyfryw, na rhan na chyfran o freintiau yr eglwys yn y lle. Tra y triniai pobl anystyriol y mater dan chwerthin a thaeru ar hyd y gymydogaeth, ni welid gwên ar wyneb neb ystyriol am wythnosau wedi hyn. Yr oedd prudd-der wedi llenwi pawb o honynt. Gwnaed cynyg arall gan weinidogion yr enwad i ddwyn y pleidiau at eu gilydd, ond yn ofer. Wedi bod am ychydig yn addoli yn yr Hen Gapel ar Sabbothau a benodasid iddynt, a blino ar hyny, ymadawodd yr ymranwyr o'r capel yn gwbl, a chyfarfyddent a'u gilydd mewn ystafell eang yn mhentref Llanuwchllyn. Ond nid oedd fawr neb o weinidogion na phregethwyr yr Annibynwyr a aent atynt i bregethu ac i weinyddu yr ordinhadau. Yn fuan cyfododd gwyr o'u plith hwy eu hunain i bregethu iddynt—dynion o nodwedd rhagorol oeddynt hefyd—a bu amryw o weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd yn gweinyddu yr ordinhad o Swpper yr Arglwydd yn eu plith. Parhaodd pethau yn yr agwedd uchod am dymor, ond cyn hir dechreuodd yr "hen bobl," fel eu
Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/455
Prawfddarllenwyd y dudalen hon