gelwid, feddwl am fyned â'r capel oddiar Mr. Jones a'i blaid. Gwasanaethwyd ef yn y flwyddyn 1823, ag ysgrifwys, i sefyll prawf ar yr achos yn mrawdlys swydd Feirionydd. Methodd yr "hen bobl" yn eu hamcan y tro hwnw oblegid diffyg yn y dystiolaeth. Gwasanaethwyd Mr. Jones drachefn, yr un modd ac i'r un amcan ddwy waith yn y flwyddyn 1824, ac o'r diwedd, drwy ryw ystranciau cyfreithiol, nad oedd Mr. Jones a'i blaid yn alluog ar y pryd i'w cyfarfod, ennillwyd y capel oddiarnynt a throwyd hwy allan o hono, ac aeth yr hen bobl i'r Hen Gapel yn ol yn fuddugoliaethwyr. Wedi hyny bu Mr. Jones a'i gynnulleidfa yn addoli mewn ysgubor a berthynai iddo ef, ac mewn tai ac ysgoldai ar hyd y gymydogaeth. Ond gwenodd y nefoedd arnynt a bendithiwyd eu llafur. Ychydig a ennillodd yr "hen bobl" drwy ennill y capel, oblegid nid oedd neb yn mron a bregethai iddynt ynddo. Sefydlodd un Owen Jones, o'r diwedd, yn weinidog arnynt, ond ni fu fawr o fendith arno ef na hwythau. Felly, megis wedi eu gwrthod gan nefoedd a daear, daethant i feddwl mai y peth goreu a allent wneyd oedd ymuno a'r gynnulleidfa oedd dan ofal Mr. Jones, a'i wahodd ef a hwythau atynt i'r Hen Gapel. Dyna symudiad doeth o'r diwedd. Cymerodd undeb rhwng y pleidiau le y pryd hwnw, sydd yn parhau etto. Bu Mr. Michael Jones yn gweinidogaethu i'r gynnulleidfa unedig am rai blynyddoedd, yna ymadawodd & hwynt, a threuliodd weddill ei oes yn gweinyddu yn Tŷ'nybont a'r Bala, Bethel, a lleoedd eraill islaw y Bala. Meddwl yr ydym mai oddeutu y flwyddyn 1839, y cymerodd yr undeb le rhwng y ddwy blaid ryfelgar yn Llanuwchllyn. Meddyliodd llawer y buasai yn well i Mr. Jones adael Llanuwchllyn cyn i bethau addfedu i ymraniad, ond nid oedd gweinidogion callaf Gogledd Cymru yn barnu felly ar y pryd. Nid oedd Mr. Jones ei hun yn barnu hyny. Nid ydym ninau yn awr yn meddwl mai ymadael a ddylasai, ond sefyll ei dir fel y gwnaeth, a gorchfygu yn y diwedd. Collodd lawer o arian yn yr helyntion a aethant drosto, ond beth yw arian mewn cydmariaeth i egwyddorion? Mae y rhan fwyaf o'r ddwy blaid erbyn heddyw yn y nefoedd, a'r ymrafaelion wedi eu llyngcu i fyny gan dangnefedd diddiwedd.
Nid yw y nodiadau blaenorol ond talfyriad o'r hanes. Gwyddom fod llawer peth wedi ei adael heibio, ond gallwn brofi yr hyn a ddywedasom, ac yr ydym yn weddol gydnabyddus a manylion helbulon Llanuwchllyn. Michael Jones oedd y dyn llawnaf, cryfaf, perffeithiaf, a gyfarfuom ni erioed. Pa ddiffygion bynag a berthynent iddo, yn ngolwg rhai, yr ydym ni yn golygu nad oedd dim llawer rhyngddo ef a pherffeithrwydd. Ac nid oedd llawer o'r gwyr a gyfrifid yn fawr yn Ngogledd a Deheudir Cymru, ond cyffredin yn ei ymyl ef. Gwyddom fod llawer o'r blaid wrthwynebol iddo hefyd yn bobl wir dda, gallem brofi hyny, pe byddai yn angenrheidiol. Gwell genym ni bobl Llanuwchllyn yn nghanol eu hymrafaelion yn nghylch pyngciau crefydd, na phobl na waeth ganddynt beth a gredant, ac a chwarddant am ben pob barn—pobl heb farn yn y byd."
Wedi yr eglurhad llawn a diduedd uchod o'r amgylchiadau, diangen—rhaid i ni ychwanegu dim. Ar ddychweliad Mr. Jones i'r Hen Gapel, cynhaliwyd cyfarfod yn Llanuwchllyn, ac fel hyn y ceir ei hanes yn y Dysgedydd am Rhagfyr, 1839. "Ar y 29ain a'r 30ain o Hydref, cynhaliwyd cyfarfod gweinidogion yn hen addoldy yr Annibynwyr yn Llanuwchllyn. Wedi yr hir ymrysonau rhwng yr aelodau perthynol i'r lle hwn, cytunasant a'u gilydd mor belled ag i'r Parch. M. Jones fod yn weinidog