Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/457

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y lle, ac i bawb a ewyllysio o'r cyfeillion a gyfarfyddent yn y capel yn flaenorol fod mewn undeb a chynnulleidfa Mr. Jones; ar yr achlysur yma, cadwyd yma gyfarfod yn y drefn ganlynol:—Y nos gyntaf, dechreuwyd gan Mr. S. Jones, a phregethodd y brodyr W. Roberts o Bennal, ac H. James, Brithdir. Boreu dranoeth, dechreuwyd gan y brawd Roberts, a phregethodd y brawd Jones o Ddolgellau, ar ddyledswydd ei hen gyfaill Mr. M. Jones, a'r brawd Pugh o Fostyn, ar ddyledswydd diaconiaid yr eglwys, a'r brawd Rees o Ddinbych, ar ddyledswydd yr eglwys, yna gweddiwyd gan dri o'r gweinidogion gwyddfodol, un dros y gweinidog, un dros y diaconiaid, ac un dros yr eglwys. Am 2 o'r gloch, dechreuwyd gan y brawd Williams o Aberhosan, a phregethodd y brawd J. Roberts o Lanbrynmair, ar yr Ysgol Sabbothol, a'r brawd Price o Penybont, i'r gwrandawyr yn unig, yna gweddiodd dau eraill o'r brodyr, un dros yr ysgol a'r llall dros y gwrandawyr. Am 6 o'r gloch, dechreuwyd gan y brawd Parry o Fachynlleth, a phregethodd y brodyr Williams o Aberhosan, a Morgans o Sama; yna traddodwyd areithiau gan y brodyr Hughes o Dreffynon; Parry o Fachynlleth; Griffiths, Rhydlydan, a Jones o Ruthin, ar y materion a ymddangosai iddynt yn fwyaf rheidiol, a therfynwyd y cyfarfod gydag arwyddion o frawdgarwch a sirioldeb mawr."

Bu Mr. Jones yn llafurio yn Llanuwchllyn ar ol ei ddychweliad i'r Hen Gapel, am bedair blynedd, hyd yn nechreu 1843, pryd y rhoddodd yr eglwys i fyny, ac y cymerodd ofal yr eglwysi yn y Bala a Thy'nybont.

Wedi bod am flynyddau heb weinidog, rhoddodd yr eglwys yma yn niwedd y flwyddyn 1846, alwad i Mr. Thomas Roberts, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Ebrill 7fed a'r 8fed, 1847. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. C. Jones, Dolgellau; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. M. Jones, Bala; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Rees, Liverpool, ac i'r eglwys gan Mr. E. Davies, athraw yr athrofa yn Aberhonddu. Gweinyddwyd hefyd yn y cyfarfodydd gan Meistri J. Davies, Llanelli; N. Stephens, Sirhowy; J. Williams, Aberhosan; J. Roberts, Llanbrynmair; T. Pierce, Liverpool; D. Price, Dinbych, ac R. Williams, gweinidog i'r Methodistiaid yn Llanuwchllyn.[1] Bu Mr. Roberts yma yn gymeradwy hyd ddechreu y flwyddyn 1856, pryd y symudodd i New Market, sir Fflint. Yn y flwyddyn 1858, rhoddwyd galwad i Mr. Rees Thomas, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Awst 18fed a'r 19eg, y flwyddyn hono. Pregethwyd ar nátur eglwys gan Mr. E. Williams, Dinasmawddwy; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; gweddiodd Mr. C. Jones, Dolgellau; rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr. E. C. Jenkins, Rhymni, ac i'r eglwys gan Mr. T. Rees, Cendl. Cymerwyd rhan yn y gwahanol oedfaon gan Meistri R. Ellis, Brithdir; T. Davies, Llanelli; H. Ellis, Corwen, ac R. Thomas, Bangor.[2] Mae Mr. Thomas yn parhau i lafurio yma hyd yr awr hon, a'r achos ar y cyfan mewn gwedd lwyddianus. Mae amryw ganghenau yn perthyn i'r hen gyff yn yr Hen Gapel, lle y cynhelir Ysgolion Sabbothol a chyfarfodydd gweddio, a phregethu yn achlysurol, ac y mae ysgoldai wedi eu codi, y rhai a elwir Carmel, Peniel, a Sion. Mae Carmel yn nghyfeiriad Trawsfynydd o'r Hen Gapel, a Peniel ar ochr y ffordd sydd yn arwain i Ddolgellau, ac y mae Sion yn agos i Weirglawdd-y-gilfach, lle y dechreuwyd

  1. Dysgedydd, 1847. Tu dal. 185.
  2. Annibynwr, 1858. Tu dal. 214.