Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/458

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pregethu yn y plwyf. Mae yr eglwys yn awr wedi tynu yr Hen Gapel i lawr, ac ar ganol adeiladu capel eang a chyfleus, gwerth mwy na 1000p., a bydd yn barod i'w agor cyn diwedd yr haf hwn, (1871,) ac y mae yr haelioni y mae yr eglwys a'r gynulleidfa wedi ei ddangos yn ei adeiladiad yn profi fod eu "hewyllys tua thŷ eu Duw."

Megis y crybwyllasom eisioes, y mae yma luaws o bersonau nodedig wedi bod yn nglyn a'r eglwys o bryd i bryd. Nid oes enwau ond ychydig o honynt wedi treiglo hyd atom ni, ond sonir gyda pharch am Meurig Dafydd, yr hwn a agorodd ei dŷ i'r efengyl—am Ellis Thomas, Tymawr, yr hwn oedd enwog am ei graffder a'i ddeall—am Sion William, Tanybryn, a Thomas Cadwaladr o'r Wern, y rhai a ddyoddefasant bwys y dydd a'r gwres—ac am Rowland Vaughan, tad Mrs. Thomas, Bangor, yr hwn y teimlai Dr. Lewis, nad oedd ganddo "neb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wir ofalai" am yr achos yn y lle. Bu yma hefyd o'r dechreuad nifer o wragedd na welid eu cyffelyb ond anfynych. Yr oedd yma dair chwaer, merched yr hen Evan Sion Nicholas, Tymawr, Cwm-pen-nant-lliw, am y rhai yr arferai Mr. B. Evans o'r Drewen ddyweyd, pe buasai y tair yn un, y cawsid y grefydd buraf a chyflawnaf a allesid gael tu yma i'r nefoedd. Am athrawiaeth iachus y gofalai un—am ddysgyblaeth bur y gofalai y llall—ac am brofiad melus y gofalai y drydedd. Merched i un o honynt oedd Jane Howell ac Elizabeth Davies, Tymawr; dwy chwaer, er yn hollol wahanol yn eu tymer a'u hysbryd, oeddynt yn deall ffordd Duw yn fanylach" nac odid neb a ddeuai i'r un fan a hwy, ac nid yn ddianaf y diangai y neb a feiddiai anturio i ddadl a hwy ar unrhyw gangen o'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. Yr oedd yma lawer eraill o gyffelyb feddwl, er na chyrhaeddasant eu henwogrwydd hwy, ac y mae eu henwau yn barchus a'u coffadwriaeth yn fendigedig.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:—

William Evans. Ganwyd ef yn y Bala yn mis Mai, 1773. Yr oedd ei rieni Evan a Jane Evans, yn bobl grefyddol, a'u tŷ yn gyrchfa gweinidogion y dyddiau hyny. Dangosodd duedd at bregethu pan yn ieuangc, a chafodd bob cefnogaeth i hyny. Bu dan addysg yn Llanuwchllyn dan ofal Mr. A. Tibbot, ac yn yr adeg hono y derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn yr Hen Gapel. Talodd sylw pan yn ieuangc i lenyddiaeth a barddoniaeth Gymreig, a gwnaeth y fath gynydd fel llenor, fel y dewiswyd ef pan yn 14 oed yn gydfeirniad a Robert Huws, bardd oedranus, mewn rhyw eisteddfod oedd gan y beirdd yn y Bala. Yn y flwyddyn 1790, y dechreuodd bregethu, ac yn Ionawr y flwyddyn ganlynol, derbyniwyd ef i'r athrofa yn Nghroesoswallt, dan ofal Dr. E. Williams. Wedi treulio pedair blynedd yn yr athrofa, aeth i ryw le yn agos i Stafford, lle y bu dros dair blynedd. Aaeth oddiyno i Bridgnorth, lle yr urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, ac oddi yno symudodd yn Medi, 1803, i Stockport, lle y treuliodd weddill ei oes yn ddefnyddiol a llwyddianus iawn. Yr oedd yn ddyn o dalentau dysglaer—o gymeriad diargyhoedd—ac o weithgarwch diflino. Ond byr fu ei dymor! Dyoddefodd yn llym oddiwrth beswch blin a diffyg anadl, ac ar y 29ain o Fedi, 1814, cariodd angau y trechaf arno; ond buddugoliaethodd ei brofiad ar ddychrynfeydd marwolaeth, a bu farw yn orfoleddus yn anterth ei ddydd, yn 42 oed.

Robert Roberts. Pregethwr cynorthwyol a fu ef yn yr eglwys trwy ei oes. Preswyliai yn Tyddyny felin, heb fod yn mhell o'r capel. Un o'r dynion callaf a mwyaf gwybodus fel gwladwr yn ei oes. Ymgynghorid ag