saint o Wlad yr haf, sir Gaerloew, sir Henffordd, sir Faesyfed, sir Forganwg, &c., a gyrchent yn lluoedd i Lanfaches. Y fath oleuni a'r fath deimladau ysprydol oedd yno! Mor nefolfrydig oeddynt! Y fath iaith rasol a arferent! Mor wyliadwrus oeddynt! Y fath weddiau a weddient ddydd a nos, ar y ffordd wrth gerdded, gyda eu gwaith, wrth ddilyn yr aradr, ac yn mhob man yr oedd yspryd gweddi a phurdeb calon yn ymddangos. Nid oedd unrhyw son am ordinhadau y pryd hwnw, ond yn unig amlygiad o ofn ynddynt eu hunain, a rhybuddion cyson i ereill i ochelyd ymorphys ar bethau allanol crefydd. Yspryd a bywyd oedd y cwbl yr edrychai y saint yn Nghymru am danynt y pryd hwnw."
Yr oedd Mr. Wroth ei hun mor santaidd, gostyngedig a rhagorol fel nas gallasai lai na dylanwadu yn dda ar ereill. Y fath oedd purdeb difrycheulyd ei gymeriad, ei ragoriaethau fel pregethwr a gweinidog, a diniweidrwydd a boneddigeiddrwydd ei ymddygiad, fel yr oedd hyd yn oed y Pabyddion, a dynion gelynol i'w athrawiaeth a'i ddull o grefydda, yn gorfod cydnabod mai dyn santaidd ydoedd.
Yr oedd Mr. Wroth yn canfod yn eglur y buasai yr annghydfod rhwng y Brenin Siarl I. a'r Senedd yn terfynu mewn rhyfel, ac felly efe a weddiodd lawer am i'r Arglwydd ei gymmeryd ef i wlad yr heddwch cyn y buasai y rhyfel yn tori allan, a chafodd ei atteb yn yr hyn a ddymunodd. Efe a fu farw yn Ngwanwyn y flwyddyn 1642, tua dau neu dri mis cyn i'r rhyfel dori allan. Cafodd ei gladdu, yn ol ei ddymuniad, dan drothwy eglwys Llanfaches. Mae yn gerfiedig ar gareg, ar fur gogleddol eglwys plwyf Llanfaches fod "Mr. William Wroth, periglor y plwyf hwn, wedi gadael yn ei ewyllys bedair erw o dir yn mhlwyf Magor at wasanaeth tlodion y plwyf dros byth. Swm yr ardreth i gael ei ranu rhyngddynt ar ddydd gwyl Sant Thomas bob blwyddyn."
WALTER CRADOCK.—Ganwyd y gwr enwog hwn yn Nhrefela, yn mhlwyf Llangwmucha, gerllaw Brynbyga, sir Fynwy. Hen balasdy yw Trefela, ond yn awr, fel llawer o hen balasdai ereill, wedi ei droi yn amaethdy. Nid yw amser genedigaeth Mr. Cradock yn hysbys, ond mae yn sicr iddo gael Lei eni ryw bryd rhwng 1606 a 1610. Galwai Esgob Llandaf ef yn y flwyddyn 1633, pryd yr oedd yn gurad yn Nghaerdydd, yn "hogyn hyf anwybodus." Addysgwyd ef yn Rhydychain. Bu am ryw dymor yn gwasanaethu fel curad yn Llanbedr y fro Morganwg, ac yn dal yr un swydd dan William Erbery yn Eglwys Fair, Caerdydd. Gallasai fod yn gwasanaethu Llanbedr a Chaerdydd yr un amser, canys nid yw y naill ond chwe milldir oddiwrth y llall. Yn gurad yn Eglwys Fair, Caerdydd, yr ydym yn ei gael yn 1633, pan y trowyd ef allan o'i swydd gan Esgob Llandaf, am wrthod darllen y llyfr chwareuyddiaethau ar y Sabboth. Dywedir i'w berthynasau droi yn ei erbyn pan fwriwyd ef allan o Gaerdydd. Wrth weled ei deulu ei hun yn ymddwyn yn oerllyd tuag ato efe a ymadawodd o Fynwy ac a aeth i Ogledd Cymru, a thrwy ryw foddion anhysbys i ni cafodd guradiaeth Gwrexham, yn sir Ddinbych. Cyn gynted ag y dechreuodd bregethu yno cynnyrchodd gyffroad trwy y dref a'r holl wlad oddi amgylch. Pregethai, nid yn unig ar y Suliau, ond hefyd yn fynych ar ddyddiau o'r wythnos. Cymaint oedd ei boblogrwydd fel y byddai yr hen eglwys fawr yn orlawn am chwech o'r gloch y bore pan y pregethai. Nid hir y bu ei boblogrwydd a'i lwyddiant cyn cyffroi gelyniaeth Satan a'i weision, fel y trefnwyd mesurau er ei symud o'r ffordd. Bragwr o'r enw Timothy