Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/460

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

John Jones, Tŷ'nywern, a bregethai yn aml. Yr oedd yn clywed yn drwm—aeth y train llechi ar ei draws ar y ffordd haiarn gerllaw Tanygrisiau, Ffestiniog, ac achosodd hyny ei farwolaeth yn sydyn. Wedi bod yn pregethu yn yr ardal hono yr oedd, ac wrth ymadael a'r lle cyfarfu a'i angeu.

John Evans. Dechreuodd bregethu yn 1819, a bu farw yn 1856, ac yr oedd yn dra adnabyddus fel pregethwr cymeradwy. Yr oedd yn frawd i Dr. Ellis Evans, gweinidog i'r Bedyddwyr yn Cefnmawr.

Michael Daniel Jones. Mab yr hybarch Michael Jones. Derbyniodd ei addysg yn athrofau Caerfyrddin, a Highbury, Llundain, ac y mae yn awr yn athraw yn athrofa y Bala.

Ellis Thomas Davies. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Llansantsior, a Moelfra, ac Abergele, lle y mae yn aros etto.

John Williams. Addysgwyd ef yn athrofa Airedale, ac y mae yn awr yn weinidog yn Penistone, ger Sheffield.

John Meirion Ellis. Mab Mr. R. Ellis, Brithdir. Bu yma yn cadw ysgol, ac yn yr adeg hono y dechreuodd bregethu. Urddwyd ef yn Llanarmon, ond bu farw yn ieuangc. Bydd genym air yn mhellach am dano pan ddeuwn at eglwys Llanarmon.

Lewis Jones. Bu yn athrofa y Bala, wedi hyny yn mhrif ysgol Glasgow, ac urddwyd ef yn Nhŷ'nycoed, sir Frycheiniog, lle y mae yn bresenol. Robert Jones. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Nelson, Morganwg, ac yno y mae etto.

Nid ydym yn sicr a ydyw y rhestr uchod yn gyflawn, ond y mae y gyflawnať a allasem gael er chwilio llawer mewn trefn i'w gwneyd i fyny. Gwyddom fod amryw eraill o weinidogion a phregethwyr yr ymffrostia Llanuwchllyn ynddynt fel ei phlant, megis Ellis Howell, Morris Roberts, Remsen; Robert Thomas, Bangor; Llewelyn Howell, Utica; Cadwaladr Evans, ac amryw; eraill, ond rhaid i ni eu cysylltu hwy a'r eglwysi y dechreuasant bregothu ynddynt, er mai brodorion Llanuwchllyn ydynt.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

Ni bu ond un gweinidog farw mewn cysylltiad a'r eglwys yn Llanuwchllyn, o ganlyniad, nid oes genym gofnodiad bywgraphyddol i'w wneyd ond am yr un hwnw. Yr ydym wedi crybwyll eisioes am Meistri Evan Williams a Michael Jones, mewn cysylltiad a'r Bala, ac am Dr. Lewis, mewn cysylltiad a'r Drefnewydd, a daw Mr. Thomas Evans, etto dan sylw yn nglyn a Dinbych, a Mr. Benjamin Evans, yn nglyn a'r Drewen, a Mr. Abraham Tibbot, pan ddeuwn at eglwysi Mon.

THOMAS DAVIES. Ganwyd ef yn Nghwm-cleger-nant, Llanbrynmair, yn y flwyddyn 1751. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig pan yn ieuangc iawn, a dechreuodd bregethu pan yn bedair-ar—bymtheg oed. Nid oedd ond dyn gwan ac afiach o gorph, a'i feddwl yn dueddol i ymollwng i brudd-der. Bu yn athrofa Abergavenny am dymor yn derbyn addysg, lle y gwnaeth gynydd cyflym, ac aeth oddiyno i Dentrey, yn swydd Northampton, dan ofal Dr. Davies. Wedi treulio amryw flynyddoedd dan addysg, derbyniodd alwad gan eglwys Llanuwchllyn yn y flwyddyn 1777, a bu yno yn ddiwyd hyd y caniatai ei iechyd, am bedair blynedd. Mewn cais o eiddo yr eglwys am gynorthwy oddiwrth y Trysorfwrdd Cynnull-