wyr yn rhedeg a'u crymanau, a'u ffyrch, a'u cribynau yn eu dwylaw i amgylchu y ffordd y deuai, i'w ddifenwi, a'i fygwth, ac yn aml elai yn muhellach na bygwth y cenhadwr ffyddlawn. Gorfyddai yn aml iddo fyned trwy y Dinas liw nos, am ei bod yn rhy beryglus iddo fyned liw dydd. Yr oedd gan Meurig Dafydd, Weirglawdd-y-gilfach, Llanuwchllyn, frawd, o'r enw Morgan, yr hwn oedd yn "ŵr cadarn, nerthol," ac yn ymladdwr o fri, ac oblegid hyny yn ddychryn i'r holl wlad; ond yr oedd yn hoff iawn o Mr. Lewis Rees, a llawer boreu Llun y gwelwyd Morgan Dafydd yn dyfod yr holl ffordd o Lanuwchllyn i hebrwng Mr. Rees trwy Fawddwy. Cerddai o'i flaen, a phastwn onen gref, fel paladr gwaywffon, yn ei law; ac os gwelai Morgan ryw un yn gwneyd dim byd tebyg i wawdio neu fygwth y pregethwr, cauai ei ddwrn, neu codai y pastwn i fyny, a dywedai, "Bydd di ddistaw, ac ar ol i mi hebrwng y gwr da yma, mi ddof i yn ol i setlo a thi." Ond cyn y dychwelai Morgan byddent oll wedi cilio, rhag ofn y digwyddai rhyw beth gwaeth na dangos y pastwn. Dywedir fod Mr. Rees ei hun wedi dyfeisio rhyw ffyrdd diniwed er pasio yn ddiogel. Unwaith, cwalciodd ei het, a gyrodd yn Jehuaidd trwy y lle, ac aeth heibio yn ddiwrthwynebiad. Y bregeth gyntaf y mae genym hanes am dani yn y Dinas oedd gan Mr. Lewis Rees, mewn tafarndy a elwid y Bell. Yr oedd Mr. Rees yn awyddus am gael pregethu i'r bobl, ac yr oedd Thomas Williams, y tafarnwr, yn foddlon iddo gael pregethu yn ei dŷ. Aeth y swn allan fod y pregethwr o Lanbrynmair yn myned i bregethu yn y Bell, ac yn fuan yr oedd yno dorf o wrandawyr trystfawr ac anhydyn wedi dyfod yn nghyd, a'r olwg arnynt yn ddigon di-galon i feddwl dechreu pregethu iddynt. Galwodd Mr. Rees am chwart o gwrw gan y tafarnwr—canys nid oedd neb yn dychmygu fod dim allan o le yn hyny y pryd hwnw—ac aeth ag ef yn ei law at y drws, a chan godi y llestr at ei enau i gymeryd traflwnge o hono, dywedodd, "Iechyd da i chwi, gyfeillion," ac yna estynodd ef i'r agosaf ato, gan ddyweyd, "Yfwch at eich gilydd." Bu hyny fel olew ar wyneb y dyfroedd terfysglyd. Cafodd lonydd i bregethu, ac wedi iddo orphen, yr oedd pawb yn dyweyd ei fod yn ddyn "deche anmhosib." Unwaith, pan yn myned trwy Lanymawddwy, cyfarfu a Mr. Jones, person y plwyf, yr hwn, yn hytrach nag atal terfysg y bobl, oedd fwy nag unwaith wedi eu cefnogi i erlid y pregethwr. Gofynodd y person i Mr. Rees, beth ydoedd, o ba le yr oedd yn dyfod, a pha beth oedd yn ei wneyd yn Llanbrynmair, ac wedi i Mr. Rees ateb y naill beth a'r llall, dywedodd y person gan dybied mai Presbyteriaid oedd, "Peth afresymol ydyw goddef i Bresbyteriaid bregethu yn Nghymru, Scotland yw y wlad iddynt hwy, ac yno y dylasent bregethu." "Gobeithio, Syr," meddai Mr. Rees, "eich bod chwi o well egwyddor na hon'a, onide bydd raid i chwi newid eich crefydd yn ol eich gwlad. Yn Scotland byddai raid i chwi fod yn Bresbyteriaid, ac yn Rhufain byddai raid i chwi fod yn Babydd. Yr wyf fi yn ceisio ffurfio fy nghrefydd nid yn ol arfer gwlad, ond yn ol rheolau Gair Duw." Gwelodd y person gymaint o briodoldeb yn yr ateb, fel y bu yn fwyn a charedig tuag ato o hyny allan.
Y prif offeryn i ddwyn yr Annibynwyr i bregethu yn rheolaidd yn Ninasmawddwy oedd un Rowland Griffiths, dilledydd wrth ei alwedigaeth, yr hwn wedi hyny a ymfudodd i America, ac a fu yn aelod ffyddlawn gyda'r Annibynwyr yn Utica, ac yn bregethwr achlysurol. Yr oedd Rowland Griffiths yn un o Militia sir Feirionydd, ac yn arfer myned