i'r Bala yn y gwasanaeth hwnw ar dymhorau, ac yno yr oedd wedi dyfod i gyffyrddiad a'r Annibynwyr, ac wedi arfer eu gwrando. Gafaelodd gwirionedd yr Efengyl yn ei galon, a gafaelodd ei galon yntau yn mhobl yr Arglwydd, ac ymunodd â hwy yn y Bala, er iddo ddychwelyd oddiyno cyn cael ei dderbyn yn gyflawn aelod. Wedi ei ddychweliad i'r Dinas, trwyddedodd ei dŷ, er mwyn cael yr Annibynwyr i bregethu ynddo. Nis gwyddom pwy a bregethodd ynddo gyntaf; ond dechreuodd gweinidogion a phregethwyr Meirion a Maldwyn yn fuan gyrchu yma. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1791, cynhaliwyd cyfarfod pregethu ar wyneb yr heol yn ymyl y Goat, ac ar yr achlysur pregethodd Meistri W. Thomas, Bala; R. Tibbot, Llanbrynmair; J. Evans, Machynlleth; D. Richards, Tŷ'nyfawnog; ac R. Roberts, Tyddynyfelin. Bendithiodd yr Arglwydd y cyfarfod hwnw er agoriad drws helaeth i'r achos yn yr ardal, ac er dychweliad pechaduriaid. Adroddid hanes y cyfarfod wrth weinidog presenol Dinasmawddwy, gan John a Sarah James, tad a mam Mr. Hugh James, Llansantffraid—y rhai oeddynt bresenol yn y cyfarfod, ac yn ei gofio yn dda; a chawsant ill dau yn fuan wedi hyny y fraint o ymuno a'r achos. Testyn Mr. Thomas, y Bala, oedd "Y rhai sydd yn aflonyddu y byd, y rhai hyny a ddaethant yma hefyd;" a thestyn Mr. Tibbot oedd, "A gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel." Soniai yr olaf am rinwedd y gwaed er dileu arferion llygredig, ac er cadw eneidiau mewn modd ag a gynhyrfai y gwrandawyr yn ddirfawr. "Pe byddai," meddai, "dim ond un diferyn o'r gwaed ar yr enaid, gallai roddi her i uffern a'i holl ddiafliaid i'w niweidio byth. Pe byddai i enaid ag un diferyn o'r gwaed arno fyned i uffern, byddai yn gynhwrf ac yn wban trwy gehena i gyd. Ciliai cythreuliaid fychain a mawrion rhagddo mewn dychryn, gan waeddi 'Beth mae hwn yn ei 'mofyn yma?' a byddai yn gynwrf ac yn ysgrechain trwy holl orerau y ffiamiau, ac ni fyddai modd eu llonyddu nes cael yr enaid a'r gwaed arno oddiyno."[1]
Yn fuan wedi hyn, darfu i'r rhai y cyffyrddasai yr Arglwydd a'u calonau ddechreu ymgasglu yn nghyd i weddio, a chynghori, a chadarnhau eneidiau eu gilydd; ac yn Ionawr, 1792, corpholwyd hwy yn eglwys, a gweinyddwyd Swper yr Arglwydd iddynt y waith gyntaf gan Mr. W. Thomas, o'r Bala. Saith oedd eu nifer yn y cymundeb cyntaf, ac y mae eu henwau yn werth eu cadw mewn coffadwriaeth. Rowland Griffith, a'i wraig; Evan Williams, Siopwr; John Evans, Gwehydd; John Jones, Ceinan; John Davies, Erwhir; a Margaret Owen, Penygraig, Cwmcewydd. Erbyn gwanwyn 1795, yr oedd ganddynt gapel wedi ei adeiladu; ac yn niwedd y flwyddyn 1796, yr oeddynt wedi cynyddu i fwy na 35 o rifedi, fel y teimlasant yn ddigon calonog i roddi galwad i Mr. William Hughes, Bangor, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn nechreu 1797. Yr oedd mesur helaeth o wresawgrwydd a gweithgarwch yn yr aelodau oedd yma ar y pryd, ac elent oddiamgylch i gynal cyfarfodydd gweddio yn mha le bynag y rhoddid derbyniad iddynt. Cyrhaeddai cylch gweinidogaeth Mr. Hughes o Lanymawddwy i Cwmllynau, ac i lawr i'r Foel, a chyn belled a'r Tygwyn, Llanerfyl; ac yr oedd ymweliadau yr hen frodyr i gynal cyfarfodydd gweddio yn cyrhaedd yn llawn mor belled. Dilynwyd gweinidogaeth Mr. Hughes a llwyddiant cyson; ond cafwyd adfywiadau grymus ar rai adegau. Bu gradd o ad-
- ↑ Llythyr Mr. E. Williams, Dinas.