Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/464

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fywiad yn Nghwmtafolog a'r Dugoed yn 1805, ac ychwanegwyd amryw at yr eglwys; ac yn 1807 bu un llawer grymusach; ac yn y flwyddyn 1808 helaethwyd capel y Dinas. Yn y cyfnod yma y sefydlwyd Ysgolion Sabbothol yn y Dinas a Llanymawddwy, a Chywarch, a Cherist, a'r Groeslwyd, a chymydogaeth Bethsaida; a chariasant ddylanwad daionus ar y wlad oll. Yn y flwyddyn 1821, codwyd capeli bychain yn Llanymawddwy a Bethsaida, a thalwyd am danynt; a thrwy lafur Mr. Hughes a'r eglwys, dan fendith yr Arglwydd, llwyddwyd i ddwyn y Dinas a'r amgylchoedd yn lled gyfan dan ddylanwad yr efengyl. Ond yr oedd Mr. Hughes yn heneiddio, a'i ddyddiau yn nesâu i farw; ac ar y dydd olaf o'r flwyddyn 1826, hunodd mewn tangnefedd, wedi llafurio yn y cylch eang yma am yn agos i 30 mlynedd.

Yn mhen dwy flynedd i'r Sabboth y bu farw Mr. Hughes, daeth Mr. John Williams, myfyriwr o athrofa y Drefnewydd, yma i weinidogaethu, ac urddwyd ef Chwefror 18fed a'r 19eg, 1829. Ar yr achlysur traddodwyd y gynaraeth gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; holwyd y gweinidog gan Mr. H. Lloyd, Towyn; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. M. Jones, Bala, a phregethodd Mr. E. Davies, athraw yr athrofa yn y Drefnewydd, ar ddyledswydd y gweinidog, a Mr. D. Morgan, Machynlleth, ar ddyledswydd yr eglwys Gweinyddwyd hefyd gan Meistri J. Humphreys, Towyn; H. Morgan, Sammah; M. Evans, Llacharn; E. Evans, Abermaw; H. Pugh, Llandrillo; J. Davies, Llanfair; C. Jones, Dolgellau; J. Williams, Ffestiniog, ac E. Rowlands, Rhoslan.[1] Yr oedd Mr. Williams yn bregethwr poblogaidd a chynes, a bu yn hynod o ymdrechgar fel gweinidog, a chynyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa trwy ei lafur. Yn 1832, ail adeiladwyd y capel, a gwnaed ef yn helaethach, a chodwyd ysgoldy bychan yn nglyn ag ef er cynal ysgol ddyddiol. Codwyd hefyd ysgoldy yn Nghywarch er cynal Ysgol Sabbothol, a phob moddion yn achlysurol. Llafuriodd Mr. Williams yma am ddeng mlynedd, nes yn 1839, y derbyniodd alwad o Aberhosan a Phenegos, lle y treuliodd weddill ei oes. Yr ydym eisioes wedi cyfeirio at ei fywyd, a'i gymeriad, a'i lafur yn nglyn ag eglwys Penegos. Yn y flwyddyn 1840, rhoddodd yr eglwys alwadi Mr. Robert Thomas, genedigol o Lanuwchllyn, ond hwn oedd yn aros ar y pryd hwnw yn Nghonwy; ac urddwyd ef Mehefin 18fed a'r 19eg, 1840. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair; holwyd y gofyniadau gan Mr. C. Jones, Dolgellau; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; a phregethodd Mr. M. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr. E. Evans, Abermaw, i'r eglwys. Cymerwyd rhan hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri H. Morgan, Sammah; E. Hughes, Treffynon; H. Lloyd, Towyn; E. Griffiths, Llanegryn; J. Parry, Machynlleth, ac E. Roberts, Marton, (Cwmafon.)[2] Bu Mr. Thomas yma am tua dwy flynedd yn nodedig o boblogaidd, ac yr oedd y tymor hwnw yn dymor llewyrchus iawn ar grefydd trwy yr holl wlad, a phrofodd y Dinas oddiwrth effeithiau yr ymweliad grasol. Yn yr adeg yma y codwyd ysgoldy Hermon, Cerist. Derbyniodd Mr. Thomas alwad cyn diwedd 1842 oddiwrth yr eglwys yn Salem, Liverpool, a symudodd yno yn nghanol ei boblogrwydd yma. y flwyddyn 1843, derbyniodd Mr. John Thomas o Fachynlleth, ond a fuasai dan addysg yn Windsor, Liverpool, alwad oddiwrth yr eglwys yma,

  1. Dysgedydd, 1829. Tu dal. 117.
  2. Dysgedydd, 1840. Tu dal. 288.