Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/465

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac urddwyd ef Medi 29ain, 1843. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. C. Jones, Dolgellau; holwyd y gweinidog gan Mr. H. Morgan, Sammah; gweddiodd Mr. J. Williams, Aberhosan; pregethodd Mr. H. Llwyd, Towyn i'r gweinidog, a Mr. S. Roberts, Llanbrynmair i'r eglwys. Pregethwyd hefyd yn oedfaon y dydd gan Meistri T. Edwards, Ebenezer; D. Davies, Berea; J. H. Hughes, Llangollen; W. Roberts, Penybontfawr; H. James, Llansantffraid, ac E. Evans, Abermaw.[1] Ymroddodd Mr. Thomas a'i holl egni yn y tymor byr y bu yma, ond symudodd yn 1845, i gymeryd gofal yr eglwys Gymreig yn Amwythig. Yn y flwyddyn 1848, rhoddwyd galwad i Mr. Edward Williams, aelod o Blaenafon, ond a fuasai dan addysg yn Hanover, ac urddwyd ef Ebrill 26ain a'r 27ain, 1848. Ar yr achlysur traethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Williams, Aberhosan; holwyd y gofyniadau arferol i'r gweinidog gan Mr. H. Morgan, Sammah; offrymwyd y weddi am fendith ar yr undeb gan Mr. C. Jones, Dolgellau; pregethodd Mr. E. Griffiths, Blaenafon, i'r gweinidog, a phregethodd Mr. R. Thomas, Liverpool, i'r eglwys. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri J. Davies, Brynbiga; E. Roberts, Foel; J. Roberts, Llanbrynmair; R. Ellis, Brithdir; W. Roberts, Penybontfawr; R. Edwards, Rhydymain, a G. Evans, Pennal.[2] Mae Mr. Williams wedi llafurio yma yn ddiwyd am dair-blynedd-ar-hugain, ac nid yn ofer ychwaith. Mae yma dri o ysgoldai yn perthyn i'r eglwys yn y cymoedd cymydogaethol, y rhai a elwir Bethlehem, Hermon, a Salem, a chynhelir ynddynt ysgolion bob Sabboth a chyfarfodydd gweddi, a phregethu achlysurol, ond daw yr holl ganghenau yn nghyd i'r Dinas i'r oedfa ddau o'r gloch bob Sabboth. Yn y flwyddyn 1868, adeiladwyd capel newydd mewn safle llawer mwy manteisiol na'r un y safai yr hen gapel arno; ac er iddo gostio 1150p., agorwyd ef Hydref 30ain, 1868, yn rhydd o ddyled, ac y mae rhestr y tanysgrifiadau, yr hon sydd wedi ei chyhoeddi, yn anrhydedd i'r gweinidog a'r eglwys, ac i'w cyfeillion y tu allan, y rhai a'u cynorthwyasant.

Bu yma lawer o wyr rhagorol yn mysg y brodyr yn perthyn i'r eglwys hon. Heblaw y saith oedd yn cychwyn yr achos, y mae olynwyr iddynt yn glynu wrth yr Arglwydd. Meibion i'r John Evans a enwyd oedd Richard Evans a Rowland Evans, (Morben), a Morris Evans, (Lacharn), heblaw brodyr eraill o'r un teulu, ac y mae llawer o'i wyrion yn gwasanaethu Duw eu tadau, ac yn llenwi cylchoedd o ddefnyddioldeb mawr mewn eglwysi yn Nghymru a Lloegr. Yn mysg y rhai a fu yn gwasanaethu fel swyddogion yn yr eglwys yma, yr ydym yn cael enwau Rowland Griffith, John Jones, Ceinan; Evan Jones, Castell; John Rowlands, Allt; Lewis Roberts, Llwyni; Evan Evans, Nant-yr-hedydd; John James, Tygwyn; Rowland Evans, Dolobran; Richard Evans, Dinas; Richard Rowlands, David Jones, Llwynygrug, a John Jones, Tydu. Coffeir yn barchus am John James, Tygwyn, (tad Mr. H. James,) un o gedyrn crefydd yn ei oes, ac un nas gallesid yn fuan ei symud oddiwrth y ffydd, ac yr oedd ef a Richard Evans, Dinas, a Rowland Evans, Dolobran, yn mysg y rhai mwyaf amlwg o'r rhai a fu yma gyda'r achos.

Codwyd i bregethu yn yr eglwys hon:—

Morris Evans. Addysgwyd ef yn athrofa y Drefnewydd. Urddwyd ef yn Lacharn, sir Gaerfyrddin, a daw ei hanes yno dan ein sylw. Bu farw yn Mhontypool.

  1. Dysgedydd, 1843. Tu dal. 249
  2. Dysgedydd 1848 tu dal 187