Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/466

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hugh Evans. Bu am lawer o flynyddoedd yn pregethu yn y Dinas a'r cwmpasoedd, ond yr oedd wedi rhoddi i fyny yn mhell cyn ei farwolaeth. William Roberts. Derbyniodd addysg yn Marton. Urddwyd ef yn Pennal, ac y mae yn awr yn Nhanygrisiau, Ffestiniog. Dechreuodd bregethu yn nhymor gweinidogaeth Mr. J. Williams.

Hugh James. Dechreuodd bregethu yr un pryd a'r brawd a enwyd yn flaenorol. Bu yntau dan addysg yn Marton, ac urddwyd ef yn Brithdir, ac y mae yn awr yn Llansantffraid.

Richard M. Jones. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Bagillt, ac y mae yn awr yn Dolyddelen.

Mae Thomas Davies, Dinas; Edward Evans, Llwyndu; Lewis Jones, Bwlch; Morris Evans, Dinas, a Robert Evans, Llwyngrug, yn ddiaconiaid yn yr eglwys yn bresenol, ac y mae rhifedi yr aelodau yn fwy na chant a haner, ac nid yw yr achos heb arwyddion fod yr amddiffyn ar yr holl ogoniant.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

WILLIAM HUGHES. Ganwyd ef yn Rhos-cyll-bach, plwyf Llanystumdwy, sir Gaernarfon, yn mis Mai, 1761. Yr oedd ychydig gloffni arno yn naturiol, ac aeth ei rieni ag ef pan yn blentyn at Mr. John Thomas, gweinidog Pwllheli, i ofyn a oedd yn tybied y gallasai y meddygon wneyd rhyw les iddo, ond cynghorodd Mr. Thomas hwy i adael iddo, gan mai gwaith yr Arglwydd ydoedd, y buasai iddo ef ofalu am dano, a dichon yr âi trwy y byd yn gystal ag un o'u plant. Derbyniwyd ef yn aelod yn Mhenlan, Pwllheli, pan oedd yn ugain oed, ac yn fuan cymhellwyd ef i ddechreu pregethu. Pregethodd ei bregeth gyntaf yn y Capel Newydd, Lleyn, ar y geiriau, "Edifarhewch, gan hyny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau." Treuliodd ychydig amser yn Llanuwchllyn dan addysg gyda Mr. A. Tibbot, ond yn y flwyddyn 1788, aeth i Fangor a'r amgylchoedd i lafurio, ar gais gweinidogion y wlad yn benaf. Urddwyd ef yn Caegwigin, (Bethlehem yn awr,) yn y flwyddyn 1789, ac yr oedd Meistri B. Jones, Pwllheli; D. Lloyd, Dinbych; A. Tibbot, Llanuwchllyn, a G. Lewis, Caernarfon, yn cymeryd rhan yn ngwasanaeth ei urddiad. Trwy ymdrech caled y llwyddodd i gael lle i'r achos roddi ei droed i lawr yn Mangor. Yr oedd tir ar werth yn Tyddynordor, fwy na haner milldir o'r dref, ar ffordd Caernarfon, ond ni fynai ei berchenog ei werthu i weinidog Ymneillduol, ond rhoddodd yr Arglwydd yn nghalon un David Owen, crydd, i brynu y tir, ac i ganiatau darn o hono at godi addoldy bychan, yr hwn trwy ddiwydrwydd Mr. Hughes a godwyd, a thalwyd am dano. Dyoddefodd fesur o erledigaeth yn achos yr efengyl, a phan yn pregethu yn Llanrwst unwaith, ymosodwyd arno, a dygwyd ef ger bron yr ynadon, a dirwywyd ef i dalu deg punt, a chadwyd ef yn nwylaw creulawn yr heddgeidwaid nes iddo dalu yr arian, neu ryw rai i dalu drosto. Barnai pawb fod y dirwyad yn anghyfreithlon, ond gwell oedd gan Mr. Hughes oddef cam, na chodi terfysg. Teimlodd pobl Bangor yn fawr pan glywsant am ei helbul, oblegid cyfrifai pawb ef y diniweitiaf o feibion dynion. Priododd yn y flwyddyn 1790, a Margaret, merch Ellis Roberts, Tyddynyddol, gerllaw y Bala, o ba un y bu iddo ddeg o blant. Mab iddo ef ydyw Mr. Ellis Hughes, Penmain, Mynwy, ac y mae Mr. William Hughes, mab