Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/467

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arall iddo, yn ddiacon parchus yn yr eglwys gynnulleidfaol yn y Crescent, Liverpool, dan ofal Mr. J. Kelly, ac un o'i ferched ydyw gwraig Mr. H. Morgan, Sammah, ac y mae ei ferched eraill, y rhai a dyfasant i fyny, wedi llenwi eu cylchoedd fel gwragedd rhinweddol. Yn nechreu y flwyddyn 1797, symudodd Mr. Hughes i Dinasmawddwy, ac yno y llafuriodd hyd ddiwedd ei oes, fel "gweinidog da i Iesu Grist." Mewn llafur dibaid, mewn gostyngeiddrwydd diddichell, mewn duwioldeb diamheuol, mewn gofal bugeiliol, mewn gweinidogaeth Ysgrythyrol, ac mewn awydd cyson am wneyd daioni, nid oedd Mr. Hughes yn ail i neb yn ei oes. Dywed Mr. J. Roberts, Llanbrynmair yn ei gofiant iddo :—"Mae yn sicr nad oes neb yn fyw yn bresenol yn mhlith yr Ymneillduwyr a deithiodd gymaint ar hyd Cymru i bregethu yr efengyl a Mr. Hughes. Arferai bob blwyddyn wneyd taith go hir trwy ranau o'r Gogledd a'r Deheu. Ar y teithiau hyny, pregethai yn gyffredin dair gwaith y dydd, a sicrhai ei bregethau dwys a'i ymddygiad boneddigaidd a duwiol, iddo barch mawr gan bawb oedd yn ofni yr Arglwydd. Ymddangosai bob amser pan yn pregethu ei fod dan ystyriaeth ddifrifol o bwys ei waith, ac o fawredd y canlyniadau i'w wrandawyr, pa un a wnaent ai gwrando ai peidio. Adderchawgrwydd penaf ei bregethau oedd, eu bod oll yn Ysgrythyrol. Yr wyf yn cofio pan glywais ef gyntaf yn Llanbrynmair, yn y flwyddyn 1784, fy mod yn meddwl fod yn rhaid ei fod yn cofio yn mron yr holl Fibl. Nodwedd mwyaf eglur Mr. Hughes oedd duwioldeb gwastad. Yr oedd yn wastad yn rhodio megis ger bron yr Arglwydd. Gofalus iawn ydoedd na ddeuai un ymadrodd llygredig allan o'i enau. Nid wyf yn meddwl fod neb yn llettya meddyliau gwaelach am dano ei hun nag efe. Pan fyddai yn dyweyd ychydig o'i brofiad gyda'i frodyr mewn cyfeillachau neillduol yn ein Cymanfaoedd, byddai bron bob amser dan ddwys deimlad o'i wendidau, ac nid anfynych y byddai yn dyweyd fod llawer o anmheuon yn ei feddwl yn nghylch ei gyflwr ei hun. Byddai yn arfer dyweyd ei brofiad ar yr achlysuron hyn mor deimladwy a thoddedig, fel yr oedd yn anhawdd i neb ei glywed ef a'i lygaid yn sy chion. Mae pawb a'i hadwaenai yn gwybod ei fod yn cyfateb i'r desgrifiad a wneir gan Paul o ddyn duwiol, yn 1 Corinthiaid xiii." Sonir gan y rhai a'i clywsant yn arbenig am dano fel gweddiwr, ac mor afaelgar ac ymdrechgar ydoedd. Dywedai un brawd ffraeth unwaith, y ceid cyfarfod cyflawn ond cael Hughes o'r Dinas i weddio, Williams o'r Wern i bregethu, a Roberts, Llanbrynmair i wylo. O ran ei berson yr oedd Mr. Hughes yn ddyn mawr, esgyrniog, ac yn camu ychydig yn ei war. Dywedir gan hen bobl, fod ei fab, Mr. Hughes, Penmain, fel y mae yn heneiddio, yn myned yn fwy-fwy tebyg iddo. Gwisgai fynychaf yn blaen, mewn dillad gwlad, gyda napcyn sidan India am ei wddf, ond yr oedd yn wastad yn lân a thrwsiadas, a llafuriodd yn y weinidogaeth mewn amser ac allan o amser, heb arbed ei gorph. Cyfarfu a phrofedigaethau chwerwon, gwelodd gladdu amryw o'i blant, ac yn neillduol bu y ddamwain angeuol a gyfarfu ei fab, John, yn mis Mai, 1811, yn brofedigaeth danllyd iddo ef a'i anwyl briod. Yr oedd yn fachgen 15 oed, ac yn egwyddor was gyda Miss Mary Ann Jones, yn Llansantffraid, ac wrth geisio atal yr anifail oedd ganddo yn y drol rhag rhedeg, tarawyd ef yn ei ben gan y drol, fel y bu farw yn mhen wyth niwrnod. Claddwyd ef yn mynwent capel y Sarnau, a chanodd ei dad alargan ar yr achlysur. Mae yn llawn o syniadau prydferth, ac yn neillduol o deimlad dwys. Ond yn ei holl brofedigaethau daliodd ei ymddiried