yn ei Dduw. Mae ei enw yn perarogli hyd heddyw yn Ninasmawddwy, a'r holl ardaloedd cymydogaethol; a dywed Mr. Williams o'r Dinas wrthym, "er teithio yn fynych ar hyd ei lwybrau, ac yn mysg y rhai a'i hadwaenent oreu, ni chawsom erioed yr un awgrym ond oedd dda a pharchusol am dano."
Nid oes ond un arall o'r gweinidogion a fu yn y Dinas wedi gorphen eu gyrfa, a gwnaethum gyfeiriad eisioes ato ef yn nglyn ag eglwys Penegos, ac am y brodyr eraill a fu yma, a'r brawd sydd yma, gobeithio fod y dydd yn mhell pan y gelwir ar neb i ysgrifenu eu cofnodion bywgraphyddol.
BETHSAIDA.
Mae y lle hwn yn Mhenrhiwcil, heb fod yn mhell o Lidiart-croes-y-Barwn, lle y llofruddiwyd Lewis Owen, Yswain, hen daid yr enwog Dr. John Owen, yn nheyrnasiad y Frenhines Elizabeth, gan y Gwylliaid Cochion. Pregethwyd llawer gan Mr. Hughes yma cyn codi Bethsaida. Adeiladwyd y capel yn 1821, yr un flwyddyn ag y codwyd capel Llanymawddwy, ac agorwyd ef Mai 29ain a'r 30ain. Ar yr achlysur, pregethwyd y noson gyntaf gan Meistri H. Lloyd Towyn; a J. Lewis, Bala. Dranoeth, am ddeg, pregethodd Meistri M. Jones, Llanuwchllyn; J. Jones, Main; ac E. Davies, Rhoslan. Am ddau, pregethodd Meistri W. Morris, Llanfyllin; a D. Morgan Machynlleth. Am chwech, pregethodd Meistri J. Ridge, Penygroes; J. Davies, Llanfair; a C. Jones, Dolgellau. Corpholwyd yma eglwys yn 1832, gan Mr. J. Williams; ac y mae y lle o'r dechreuad dan yr un weinidogaeth a'r Dinas. Mae yma achos llewyrchus iawn. —cynnulleidfa o bobl astud, ddeallgar, ac yn ymhyfrydu yn fawr yn mhethau yr efengyl. Rhifa yr aelodau oddeutu triugain. Codwyd yma un pregethwr, sef William Griffiths, yr hwn sydd yn bresenol yn athrofa y Bala. Gwasanaethwyd swydd diaconiaid yn dda yma gan John Jones, Yr Allt, ac Evan Evans, Nantyrhedydd; ac y mae Hugh Jones, Tymawr, ac Owen Jones, Nantydugoed, yn olynwyr iddynt.
LLANYMAWDDWY.
Codwyd capel yma, trwy lafur Mr. W. Hughes, Dinas, yn y flwyddyn 1821. Agorwyd ef Mai 30ain a'r 31ain, o'r flwyddyn hono. Pregethwyd ar yr achlysur gan Meistri M. Jones, Bala; H. Lloyd, Towyn; W. Morris, Llanfyllin; D. Morgan, Machynlleth; C. Jones, Dolgellau; J. Ridge, Penygroes; H. Hughes, Llechwedd; a J. Lewis, Bala. Bwriedid ef i wasanaethu fel ysgoldy, a lle i bregethu yn achlysurol, ac felly y bu hyd farwolaeth Mr. Hughes, ac am dymor wedi dechreuad gweinidogaeth Mr. J. Williams. Tua'r flwyddyn 1832 y corpholwyd yr aelodau yma yn eglwys Annibynol, ac y mae wedi parhau felly, ond dan yr un weinidogaeth a'r Dinas. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ond y mae yma nifer o bobl ffyddlon. Rhifa yr aelodau o ugain i bedwar-ar-hugain. Ni chodwyd yma yr un pregethwr. Bu John Jones, Tycanol, Hugh Thomas, Blaenfenant, ac Edward Evans, Brynuchaf, yma yn ddiaconiaid, a llenwir yr un swydd yn bresenol gan Evan Jones, Tycanol.