Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/471

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond siriolwyd ef yn niwedd ei oes trwy ymweliad nerthol oddiwrth yr Arglwydd. Cafodd Mr. Jones ergyd o'r parlys pan yn pregethu yn Nhowyn, ar ei ddychweliad o'i daith yn y De. Cyrhaeddodd adref, ond bu farw Hydref 30ain, 1820.

Wedi marw Mr. Jones, rhoddodd yr eglwys yn Penystryd alwad i Mr. Edward Davies, yr hwn oedd er's blynyddau yn weinidog yn Capelhelyg a Rhoslan, a chan fod Mr. Davies yn flaenorol wedi priodi merch Gwynfynydd, Trawsfynydd, a thrwy hyny dan ryw fath o angenrheidrwydd i drigianu yn y wlad yma, cydsyniodd a'r gwahoddiad, a dechreuodd ei weinidogaeth yn Mhenystryd a Maentwrog, yn mis Mai, 1822. Nifer yr aelodau yma ar y pryd oedd naw-a-thriugain, a thair punt a phymtheg swllt y chwarter, oedd y cwbl a addewid iddo fel ffrwyth ei lafur, ac i ba raddau y cyflawnasant eu haddewid, goreu y gwyr efe. Ymroddodd Mr. Davies i gyflawni ei weinidogaeth, gan bregethu trwy yr holl wlad oddi-amgylch, a sefydlu achosion newyddion, y rhai a ddaw etto dan ein sylw. Tua'r flwyddyn 1839, o gylch canol oes weinidogaethol Mr. Davies, torodd diwygiad grymus iawn allan yn y plwyf hwn, fel mewn llawer o leoedd eraill, ac ychwanegwyd tua dau gant at rifedi yr eglwysi Annibynol, ond trwy wrthgiliadau, symudiadau, a marwolaethau, lleihaodd rhifedi yr eglwys, fel na bu ar ol hyny mor lluosog. Cafwyd darn o dir wrth gefn hen gapel Penystryd i gladdu y meirw, ac y mae yno lawer wedi eu claddu eisioes. Pan ydoedd Mr. Davies tua 69 oed, ac wedi llafurio yn galed trwy bob tywydd am dair-ar-ddeg-ar-hugain o flynyddau yn y gymydogaeth hon, yr oedd ei nerth i raddau yn pallu, a'r gwaith yn fawr, barnodd fod yn well iddo ymddeol o'i ofalon gweinidogaethol, ac yn y flwyddyn 1855, rhoddodd yr eglwysi yn mhlwyf Trawsfynydd i fyny, heb na thwrf na therfysg.

Bu yr eglwysi o'r flwyddyn 1855, hyd y flwyddyn 1863, heb un gweinidog sefydlog, ond yr oeddynt yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol; ond yn y flwyddyn uchod rhoddasant alwad i Mr. William G. Williams, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Mehefin 18fed a'r 19eg, 1863. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. Williams, Dinas; holwyd y gweinidog gan Mr. J. Jones, Abermaw; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; pregethodd Mr. T. Roberts, Llanrwst, i'r gweinidog, a Mr. W. Ambrose, Porthmadog, i'r eglwys. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri E. Stephen, Tanymarian; J. Thomas, Towyn; H. Ellis, Corwen; J. Jones, Maentwrog; R. Ellis, Brithdir, ac R. P. Jones, Llanegryn. Bu Mr. Williams yma hyd 1869, pan y darfu ei gysylltiad a'r eglwys, ac er hyny, y mae yr eglwys yma yn amddifad o weinidog.

Codwyd y personau a ganlyn i bregethu yn yr eglwys hon:—

William Williams. Mab Cwmhwyson-ganol ydoedd. Derbyniwyd ef yn aelod cyn diwedd y ganrif ddiweddaf, gan Mr. William Jones. Addysgwyd ef yn athrofa Gwrecsam, ac urddwyd ef yn y Wern, ac y mae ei enw yn adnabyddus i holl Gymru. Daw dan ein sylw yn nglyn a'r Wern.

Hugh Lloyd. Urddwyd ef yn y Towyn, lle y ceir ei hanes yn helaethach. Codwyd yntau yn nyddiau Mr. Jones.

Lewis Williams. Ni chafodd nemawr fanteision dysgeidiaeth, ond bu yn ffyddlon tra y parhaodd ei dymor byr.

William Roberts o'r Hafod. Bu yn y Neuaddlwyd dan addysg Dr. Phillips, collodd ei le, a chiliodd at y Bedyddwyr.