Robert Roberts, (Robin Meirion.) Gwr ieuangc gobeithiol iawn, yn meddu ar y ddawn farddonol i raddau lled helaeth, yn feddyliwr dwfn, yn ymresymwr cadarn, ac yn areithiwr hyawdl. Mynai ddeall os byddai yn bosibl bob peth yr ymaflai ynddo; nid oedd yn foddlon i gymeryd dim, hyd y gallai, yn ganiataol heb ei chwilio. Aeth i athrofa Cheshunt, ac yr oedd yn cynyddu yn gyflym mewn dysgeidiaeth. Yr oedd yn Ymneillduwr selog. Yr oedd yn rhaid i'r myfyrwyr yno ddarllen rhyw gymaint o wasanaeth eglwys Loegr, pan yn cadw oedfaon, ond safodd ef allan yn erbyn gwneyd, er ei fod mewn perygl o gael ei droi o'r ysgol, er hyny safodd ei dir yn ddiysgog, a llwyddodd, a chafodd ei gyd-ysgolheigion yr un rhyddid os ewyllysient. Yr oedd anffyddiwr unwaith yn dirmygu Cristionogaeth, ac yn herio rhyw un i ddyfod yn mlaen i'w wrthwynebu. Yr oedd Robert Roberts yno, ac eraill o'i gydfyfyrwyr, a gofynodd i'r naill a'r llall o honynt pwy a âi yn erbyn y cawr, ond gomeddai pawb o honynt fyned, "Wel ynte," meddai, "myfi a af i fyny." Yr oedd golwg lled hurtaidd arno, a phan yn cychwyn i fyny amcanwyd ei rwystro. "Na," meddai yr anfyddiwr, "gadewch iddo ddyfod i fyny, mae yr olwg arno yn argoeli na wna efe ddim llawer o niwed," ac felly cafodd fyned yn mlaen, a dechreuodd siarad yn rymus, ac ni bu yr anffyddiwr yn faith heb weled ei gamsyniad, a da fu ganddo gael diangc allan, gan adael y maes i'r Cymro. Cafodd anrheg o het newydd gan ryw foneddwr oedd yn y lle, am ei wrolder. Gan fod ganddo enaid mawr, a chorph gwan, methodd a dal, ac ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a daeth adref i farw cyn i'w dymor bwriadol yn yr athrofa ddyfod i fyny. Bu farw yn nhŷ ei riaint, a chladdwyd ef yn mynwent Trawsfynydd. Mae a ganlyn ar ei fedd:—
"Er coffadwriaeth am Robert Roberts (Robin Meirion), yr hwn a anwyd yn Nhrawsfynydd, Mawrth y 1af, 1807, ac a fu farw Gorphenaf 31ain, 1832. Yr oedd yn meddu deall cryf, dychymyg bywiog, a duwioldeb diffuant, hynododd ei hun fel ysgolhaig, traethodydd, a bardd, ond yn benaf fel pregethwr efengyl Crist. Yn nghanol tymor ei efrydiaeth yn athrofa Cheshunt, ei nerth a ostyngwyd, ei ddyddiau a fyrhawyd, a dychwelodd i'w gartref cynhenid lle y bu farw. Iddo ef yr oedd ei farwolaeth yn elw, ond i filoedd o'i gydwladwyr yn siomedigaeth. Yn ei'ysgrifau, er ei fod wedi marw, y mae efe yn llefaru etto.
Robin Meirion dirionwedd—yma roed,
Mor wael yw ei anedd!
Yn foreu iawn o'i fawredd,
Ow! i'w fath wywo i fedd.
Ei glod ef fel goleu dydd—dywyna,
Hyd wyneb ein broydd;
Ie'n fawr ei enw fydd,
Tra saif enw Trawsfynydd."
—IEUAN IONAWR.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
WILLIAM JONES. Ganwyd ef yn Lledrod, sir Aberteifi, Medi 15fed, 1760. Yr oedd Theophilus Jones, pregethwr hynod gyda'r Methodistiaid, yn frawd iddo. Derbyniodd addysg yn Ystradmeurig, a bu unwaith yn meddwl am fyned i weinidogaeth yr Eglwys Sefydledig, ond trwy gyfarfod a Mr. R. Tibbot, Llanbrynmair, newidiwyd ei holl gynlluniau. Os nad