Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/473

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydym yn camsyniad, yn Llanbrynmair, tua'r flwyddyn 1786, y daeth i gysylltiad a'r Annibynwyr, trwy lythyr oedd ganddo oddiwrth Methodistiaid yn ei gymeradwyo. Bu yn Beaumaris am ddwy flynedd, a thra yno y priododd, ac yn 1792, daeth i Penystryd, lle y treuliodd weddill ei oes. Yr oedd Mr. Jones yn ddyn syml, dirodres, diniwaid, a gonest iawn, braidd yn rhy ddiniwaid i fyw yn mysg dynion drwg a thwyllodrus, a chymerodd rhai fantais ar ei ddiniweidrwydd i'w dwyllo a'i ddrygu yn ei amgylchiadau tymorol. Bu iddo naw o blant, tri o feibion a chwech o ferched. Claddwyd saith o'r plant yn mynwent plwyf Trawsfynydd, gyda eu rhieni, aeth un mab iddynt yn forwr, ac ni chlybuwyd dim am dano er's llawer blwyddyn, priododd un o'r merched, a bu farw heb adael plant, ac felly nid oes o deulu Mr. Jones, heddyw yr un yn fyw.

Dywedodd Mr. Edmund Jones, Yr Hen Brophwyd o Bontypool, fel ei gelwid, wrth Mr. Jones, pan ydoedd yn ddyn ieuangc, cyn iddo ddyfod i'r Gogledd, y byddai llwyddiant ar ei weinidogaeth yn enwedig tua diwedd ei oes, ac felly a fu, torodd allan ddiwygiad lled rymus yn Mhenystryd ychydig amser cyn iddo farw, ac felly aeth adref, a gwynt teg loned ei hwyliau. Cafodd daith lled helbulus trwy'r byd o ran ei amgylchiadau tymorol, rhwng fod ganddo deulu lluosog, eglwysi gweiniaid, a gwaeth na'r cwbl, lled esgeulus a diymdrech. Yr oedd o dan anfantais fawr o ddiffyg llyfrau, y rhai oedd yn ei ddyddiau ef yn ddau cymaint o bris ragor ydynt yn y dyddiau hyn, a chan nad ydoedd yn cael ond ychydig oddiwrth y weinidogaeth, nis gallodd gyrhaedd ond nifer fechan o honynt. Ond er nad oedd gan Mr. Jones ond ychydig o lyfrau, yr oedd yn bregethwr da, sylweddol, ac efengylaidd. Ni astudiodd ond ychydig o drefn ar ei bregethau, mwy na llawer o'i gydoeswyr. Yr oeddynt hwy yn ymddiried cryn lawer ar eu cof, ac yn ymddibynu yn neillduol ar yr hwyl a gaffent wrth bregethu. Ond er mai lled anrhefnus a fyddai ei bregethau, ceid ambell afal aur a pherlyn dysglaer ganddo weithiau. Teithiodd lawer i gyfarfodydd, yn gwbl ar ei gost ei hunan, fel yr oedd pawb o'i frodyr yn gorfod gwneyd yn y dyddiau hyny, etto medrodd dalu i bawb yr eiddo, a myned i'w fedd yn ddiddyled. Yr oedd Mr. Jones, fel y sylwyd yn barod, yn cael ei ystyried yn ddyn plaen, gonest, a diniwaid iawn, yn fwy felly na'r cyffredin, etto, byddai ganddo ambell i ddywediad hynod synwyrol a chyrhaeddgar. Yr oedd unwaith yn cadw oedfa mewn tŷ annedd yn agos i Langwm, lle yr oedd ychydig o gyfeillion crefyddol yn arfer ymgynull, ac ar ddiwedd yr oedfa, cyhoeddwyd fod yno gyfeillach neillduol i gael ei chynal yn mhellach. Safodd yn ol yno ddau o'r dynion dihiraf yn y gymydogaeth, gan ddisgwyl cael rhywbeth mae yn debygol i wawdio crefydd ar ol hyny. Gofynodd rhai o'r bobl yn ddistaw i Mr. Jones, ai nid gwell fuasai iddynt ddyweyd wrth y bobl hyn am fyned allan? "Na," meddai yntau, gadewch iddynt;" yna cyfododd yn araf ar ei draed, a dywedodd, Wel, beth a fyddai oreu i ni gymeryd dan sylw yma heno? Oni fyddai yn well i ni ofyn tipyn i bawb, pa faint y maent yn gofio o'r bregeth? Pa le tybed y byddai oreu i ni ddechreu? Goeliaf fi y byddai yn well i ni ddechreu tipyn tua'r drws yma." Gyda hyny, dyma y ddau ddyn allan ar draws eu gilydd, gan adael eu hetiau ar ol, heb gael un testyn i wawdio, ond wedi gwneyd gwawd o honynt eu hunain. Yr oedd Mr. Jones unwaith yn y Deheudir, yn nhŷ hen weinidog, yr hwn oedd. wedi rhoddi y weinidogaeth heibio o herwydd henaint, ac yr oedd yr hen ŵr yn dangos cryn lawer o anfoddlonrwydd tuag at ei olynydd ieuangc,