Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/474

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond o'r diwedd dywedai Mr. Jones, "Hawyr bach, Mr. E., yr ydwyf yn ofni yn sound eich bod chwi yn byw yn ormod o dan lywodraeth y twca." Mewn cyfarfod yn Llanuwchllyn, gofynai y Dr. Lewis i'r gweinidogion oedd yn bresenol, beth oedd i'w wneyd i'r bobl ieuangc oedd yn cadw cwmpeini a phobl o'r byd, fel y dywedid, ac yr oedd pawb yno yn golygu y dylesid eu dysgyblu, yn mhlith eraill, gofynai i Mr. Jones, beth oedd ef yn ei feddwl? Dywedai yntau, "eu gyru nhw allan yn sownd dybiaf fi, i edrych a oerant hwy beth." Yr oedd Mr. Jones unwaith yn myned a buwch i'r ffair i'w gwerthu, a chyfarfu ar y ffordd ag un o'i gymydogion, a gofynodd iddo, pa faint a dalai y fuwch? Atebodd hwnw ei bod yn werth naw punt, ond y gallai ef ofyn deg punt am dani. "Na," meddai yntau, "nid ydyw pethau fel hyny yn cydfyned a'm galwadigaeth i." Bu Mr. Jones yn ffyddlon iawn i godi achos yn Maentwrog, teithiodd yno trwy bob tywydd, am ychydig iawn o gydnabyddiaeth. Tarawyd ef gan y parlys, yn mis Mehefin, pan yn pregethu yn Nhowyn, Meirionydd, a bu farw yr 31ain o'r Hydref canlynol, yn y flwyddyn 1820, yn 60 mlwydd o'i oedran, a chladdwyd ef yn mynwent plwyf Trawsfynydd, wedi bod yn gweinidogaethu yn Mhenystryd am yn agos i ddeg-ar-hugain o flynyddau. Mae ef a'i wraig a'u plant i gyd, onid dau, yn gorwedd yno gyda'u gilydd.

JERUSALEM.

Mae y capel hwn yn mhlwyf Trawsfynydd, ar ochr y ffordd sydd yn arwain o'r Llan i Ddolgellau. Byddid yn arfer pregethu ar nos Sabbothau yn y Tyddynmawr, er's amryw o flynyddau, ac yr oedd ychydig o aelodau Penystryd yn byw yn y gymydogaeth hon. Yn y flwyddyn 1826, cafwyd prydles am 40 mlynedd, gan Syr W. Williams Wynne, ar ran o dir y Tyddynmawr, i adeiladu y capel a elwir Jerusalem, am yr ardreth o bum' swllt y flwyddyn. Yr ymddiriedolwyr ydoedd Meistri Edward Davies, Trawsfynydd; Cadwaladr Jones, Dolgellau; Hugh Lloyd Towyn; a Thomas Davies, Dolgellau. Daeth y brydles gyntaf i fyny yn y flwyddyn 1866, ac adnewyddwyd y weithred gan Syr W. W. Wynne presenol, am 40 mlynedd ychwaneg. Gweithiodd un gwr lawer arno nes ei orphen heb geisio dim gan neb am ei lafur. Teithiodd lawer i gasglu at dalu am dano, a thalwyd pob dimai a gasglwyd ato yn mhob man, heb gadw dim at na thraul na thrafferth. Rhoddodd un teulu yn y gymydogaeth 12p. yn arian tuag at dalu am y capel, ac ni bu arnynt ddim o'u heisiau hyd yma. Mae y lle yma wedi bod o'r dechreuad mewn cysylltiad gweinidogaethol a Penystryd, a than ofal yr un gweinidogion, ac y mae yn awr yn amddifad o fugail. Ni chodwyd yma ond un pregethwr, sef Griffith Price, Corsygarnedd, yr hwn sydd yn bregethwr cymeradwy yn Llanfachreth.


TRAWSFYNYDD.

Yn y flwyddyn 1839 y dechreuwyd pregethu yn rheolaidd yn mhentref Trawsfynydd; ac yn y flwyddyn ganlynol, prynwyd darn o dir gan Mr. Ellis Jones, Ddolwen, i adeiladu capel arno. Cyflwynwyd y tir drosodd