Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/475

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i Meistri Griffith Roberts, Tyddynbach; Edmund Evans, Dolymynach; John Jones, Dolwen; David Lloyd, y Cigydd; a John Morris, Bryncelynog, fel ymddiriedolwyr. Galwyd y capel yn Ebenezer. Mae wedi bod mewn cysylltiad a Penystryd o'r dechreuad, hyd 1869, pan y rhoddodd Mr. W. G. Williams i fyny ofal yr eglwys yno, ond parhaodd yn weinidog yma hyd y flwyddyn hon, pan y symudodd i Seion, Rhymney, Mynwy; ac y mae yr holl eglwysi Annibynol yn mhlwyf Trawsfynydd yn awr yn amddifaid o weinidog.

MAENTWROG.

Mae hon yn un o ardaloedd prydferthaf Gogledd Cymru, a'r holl olygfeydd o gylch yn swynol i'r llygaid. Cydgyferfydd yr aruchel a'r prydferth, nes gwneyd y lle yn degwch bro. Ond a hynafiaethau Ymneillduaeth yma y mae a wnelom ni; oblegid y dylanwad y mae crefydd wedi ei adael ar wlad yw ei haddurn prydferthaf. Yr oedd boneddiges o'r enw Mrs. Lloyd, yn byw yn y Cefnfaes, Maentwrog, yr hon pan yn ieuangc a fuasai yn byw yn Llundain, ac a arferai yno wrando yr efengyl gyda'r Annibynwyr. Ni dderbyniwyd hi yn aelod tra yn Llundain, nac am flynyddau ar ol dyfod oddiyno; ond hoffai egwyddorion a threfn eglwysig yr Annibynwyr yn well nag un enwad arall. Yn mhen cryn amser, wedi iddi briodi Mr. Lloyd, o'r Cefnfaes, derbyniwyd hi yn gyflawn aelod yn Mhenystryd, yn y flwyddyn 1793. Arferai fyned i Benystryd, o leiaf unwaith yn y mis, trwy bob tywydd am flynyddoedd, a byddai ei mab ieuengaf, John Lloyd, Yswain, o'r Cefnfaes, neu fel y gelwid ef yn gyffredin, "Llwyd y Twrne," pan yn llanc ieuangc, yn arfer a myned yno gyda ei fam. Annibynwr o farn ydoedd Mr. Lloyd, ond treuliodd ei oes yn hollol annghrefyddol. Mrs. Lloyd a anogodd Mr. W. Jones, Penystryd, i roddi ambell bregeth yn Penyglanau, amaethdy ar yr etifeddiaeth, yn agos i'r Cefnfaes, o fewn tua milldir a haner i bentref Maentwrog. Bu Mr. Jones ac eraill yn myned yno i bregethu am flynyddoedd, pan nad oedd un aelod gyda'r Annibynwyr yn yr ardal ond Mrs. Lloyd. Pan oedd Mr. Jones ar un boreu Sabboth yn pregethu yn Mhenyglanau, cyhoeddodd ar ddiwedd yr oedfa y cynhelid cyfeillach neillduol am ddau o'r gloch prydnawn yn y Llwyn, ffarmdy cyfagos. Daeth amrai i'r gyfeillach hono, heblaw Mrs. Lloyd, sef David Richard, a Catherine ei wraig, William Williams, (Gwilym Twrog), ac Anne ei wraig, a John Lloyd, a Grace ei wraig. Daliodd pedwar o'r chwech hyn gyda'r Annibynwyr yn ffyddlon ar hyd eu hoes, ond ymadawodd Gwilym Twrog, a'i wraig, ac ymunasant a'r Bedyddwyr, yn Ramoth. Parhaodd Mr. Jones, ac eraill, i bregethu yn lled gyson yn Mhenyglanau; ac yn mhen tua blwyddyn ar ol y gyfeillach neillduol uchod, sef yn y flwyddyn 1798, daeth William Williams, Cwmhwyson, (Williams, o'r Wern, wedi hyn), a Richard Roberts, Penystryd, i Goedytwyn, tyddyn bychan arall ar etifeddiaeth Cefnfaes, i gadw ail gyfeillach, a chwanegwyd Margaret Lloyd, Pantyclegar, at y saith eraill, i'w gwneyd yr un rhif a theulu yr Arch. Daeth un arall i'r gyfeillach hono, a gofynodd William Williams iddi pa beth oedd ar ei meddwl hi. Cyffrodd, a dywedodd, "Aros di, y corgi bach; be' waeth i ti beth sydd ar fy meddwl i. A wyddost ti beth sy' ar dŷ feddwl di dŷ hun? Yr wyt ti yn rhy ifanc i holi hen wraig fel y fi," ac ymadawodd