Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/476

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn dramgwyddedig iawn. Derbyniwyd yr wyth a enwyd yn Mhenystryd yn aelodau, ac âent yno yn gyson o leiaf unwaith yn y mis, am tua deng mlynedd. Yn nechreu gwanwyn y flwyddyn 1809, sefydlodd Mr. W. Jones, eglwys yn Penyglanau, pan y derbyniwyd John ac Elizabeth Humphreys, (Nantymarch wedi hyny); Robert a Margaret Roberts, Gof; Thomas a Gwen Humphreys; Mrs. Davies, Maentwrog Inn; a Margaret Owen, Tanybwlch, at yr wyth eraill. Yr oedd Owen Evans, Tanydduallt i'w dderbyn yr un amser, ond oedwyd hyny am fis, oherwydd iddo fyned a baban i'w fedyddio i'r eglwys wladol. Y fath fanylwch oedd yn yr hen bobl.

Gwnaeth Owen Evans, ac eraill o aelodau yr eglwys yn Penyglanau, grefyddwyr ffyddlon a dysglaer; ac y mae eu henwau yn perarogli hyd y dydd hwn. Yn nechreu Mehefin, cynhaliwyd cyfarfod pregethu yn Penyglanau, gan y Dr. Lewis, o Lanuwchllyn; Meistri W. Hughes, o'r Dinas; R. Williams, o Resycae; J. Griffiths, Caernarfon; ac A. Shadrach, o Talybont. Yr oeddynt wedi dechreu pregethu a chadw ysgol yn y Tyuchaf, (Penlan,) Maentwrog, gyda Phenyglanau, tua dwy flynedd cyn hyn. Yn niwedd y flwyddyn 1809, a dechreu y flwyddyn 1810, adeiladwyd capel Glanywern, ar ochr y ffordd o Drawsfynydd i Faentwrog, yn y cyfwng rhwng Penyglanau a Phenlan, er gwneyd y ddwy ysgol a'r ddwy gynnulleidfa yn un. Costiodd lle y capel, er ei fod yn y lle mwyaf anghyfleus a chostus i adeiladu a allesid gael yn y gymydogaeth, y swm o 46p. cyn rhoddi caib na rhaw ynddo; ond buasai cymaint a hyny o sylltau yn llawn cymaint ag a dalasai y lle. Yn mhen ychydig wedi adeiladu y capel, ceisiodd Mrs. Lloyd gael eisteddle ynddo, yn perthyn i'r Cefnfaes, ond gwrthwynebwyd hyny, am y gallasai fod yn niwed i'r achos mewn amser dyfodol. Tramgwyddodd yr hen foneddiges, ac enciliodd at y Methodistiaid Calfinaidd, a chafodd dderbyniad rhwydd. Nid oedd capel Glanywern ond un gwael a chyffredin iawn, etto, dygwyd llawer o eneidiau ynddo i adnabyddiaeth o honynt eu hunain fel pechaduriaid, ac o Dduw yn Nghrist yn derbyn pechaduriaid. Bu Mr. W. Jones yn ymdrechgar iawn i gasglu i dalu am dano, a llwyddodd i wneyd hyny, ond ugain punt, y rhai oedd yn ddyledus i Mr. W. Evans, o Lenyrch, yr hwn a addawodd eu cymeryd bob yn bunt, os byddai hyny yn angenrheidiol. Llafuriodd Mr. Jones yn ffyddlon iawn yn ardal Maentwrog am bum—mlynedd-ar-hugain, a bu yn byw am y pedair blynedd olaf o'i fywyd yn y gymydogaeth hon, mewn tyddyn a elwir Tyddyndewyn. Yn nechreu yr haf, yn y flwyddyn 1820, tarawyd ef gan y parlys, yn yr areithfa, yn Towyn, Meirionydd, a bu farw yn dangnefeddus, yn Tyddyndewyn, ar y 31ain o'r Hydref canlynol, yn ei 60fed flwyddyn o'i oedran, a chladdwyd ef yn mynwent Trawsfynydd, gyda llawer o'i gyfeillion a'i deulu lluosog. Yn mis Mai, 1822, rhoddodd yr eglwys yma, yn nglyn a Phenystryd, alwad unfrydol i Mr. Edward Davies, o Rosylan, swydd Gaernarfon, i gymeryd eu gofal gweinidogaethol, a chydsyniodd yntau a'u cais, a pharhaodd i ddyfod i Maentwrog dair gwaith bob mis am yn agos bedair-ar-bymtheg o flynyddoedd, a hyny fynychaf ar ei draed, rhag pwyso ar y cyfeillion i gadw ei anifail, er fod ganddo tua saith milldir i'w teithio ar y Sabboth, ac weithiau fwy, pan yn myned a dychwelyd yr un diwrnod; a byddai yn pregethu dair gwaith bob Sabboth, heblaw gweinyddu yr ordinhadau yn fynych. Yn yspaid ei weinidogaeth, talwyd yr ugain punt gweddill o ddyled y capel. Parhau yn lled ddigynydd a wnaeth yr eglwys am gryn amser, ond parhaodd bron yr un rhifedi o