hyd. Yr oedd undeb a brawdgarwch yn yr eglwys; ac ni bu nemawr i eglwys a gweinidog yn fwy yn mynwesau eu gilydd.
Yn y flwyddyn 1839, a'r blynyddoedd dilynol, torodd gwawr ar yr achos yn Maentwrog, ac ychwanegwyd llawer at yr eglwys o rai rhoddi lle cryf i obeithio fyddant gadwedig. Yr oedd y rhan fwyaf o honynt yn ieuengctyd. Yn y cyfnod newydd yma, daeth yr eglwys yn weithgar a llafurus, a dewiswyd dau ddyn ieuangc bywiog yn ddiaconiaid, fel y gwisgodd yr achos wedd newydd. Yr oedd yr hen gapel erbyn hyn wedi dadfeilio, ac yn anghysurus fel lle i addoli, heblaw ei fod mewn lle hollol anghyfleus. Yn y flwyddyn 1840, trwy gefnogaeth ac ymdrech Mr. a Mrs. Lloyd, Tanybwlch Hotel, cafwyd lle i wneyd capel newydd yn ymyl y pentref, a galwyd ef Gilgal. Mae yn gapel hardd a chyfleus, wedi ei orphen yn y modd goreu, wedi costio 424p. 0 3c., a gwell na'r cwbl wedi talu am dano. Y mae yr eglwys a'r gymydogaeth yn cydnabod hyd heddyw ffyddlondeb a haelioni Mr. a Mrs. Lloyd a'r teulu gyda'r adeilad yma, yn gystal a'u caredigrwydd gwastadol at grefydd. Gwraig na chyfarfyddir ond anfynych a'i chyffelyb oedd Mrs. Lloyd, ac y mae ei choffa yn barchus gan bawb a fu yn eu gwasanaeth, neu yn llettya yn ei thŷ. Pan ddechreuwyd adeiladu Gilgal, a'r eglwys yn cynyddu mewn rhif a gweithgarwch, gwelwyd fod angen arni am fwy o freintiau nag oedd yn alluadwy iddi gael trwy weinidogaeth Mr. Davies; rhoddodd ef gan hyny ei weinidogaeth i fyny, ac anogodd hwy i ymofyn am weinidog iddynt eu hunain, a chyfeiriodd hwy at Mr. Samuel Jones, yr hwn oedd y pryd hwnw yn yr ysgol yn Marton. Derbyniodd Mr. Jones yr alwad, ac ar y 27ain o Rhagfyr, 1840, y dechreuodd ei weinidogaeth yn yr hen gapel, yn gysylltiedig a Saron, Ffestiniog; ond gohiriwyd ei urddiad hyd agoriad y capel newydd, yn Mai, 1841. Yn yr urddiad, pregethodd Mr. C. Jones, Dolgellau, ar natur eglwys; holwyd y gweinidog gan Mr. H. Morgan, Sammah; gweddiodd Mr. R. P. Griffiths, Pwllheli; pregeth—odd Mr. M. Jones, Llanuwchllyn, ar ddyledswydd y gweinidog, a Mr. E. Davies, Trawsfynydd, ar ddyledswydd yr eglwys. Llafuriodd Mr. Jones yn ymdrechgar yn ei dymor byr, fel pe buasai yn gwybod nad oedd iddo ond ychydig amser yn y winllan. Oddiar ei ofal am Saron, Ffestiniog, aeth i sir Amwythig i gasglu ato, pan y tarawyd ef gan glefyd yr ymenydd, ond cyrhaeddodd adref trwy boen fawr, a bu farw yn dangnefeddus ar ol cystudd byr, ond trwm iawn, Tachwedd 1af, 1843. Bu yr eglwys am tua dwy flynedd heb weinidog ar ol marw Mr. Jones, ond yn y flwyddyn 1844, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. Evan Evans o'r Abermaw, a chydsyniodd yntau. Ymsefydlodd Mr. Evans yma yn nechreu Tachwedd y flwyddyn hono. Llafuriodd gyda ffyddlondeb, diwydrwydd, a chymeradwyaeth neillduol am tuag wyth mlynedd a haner. Yn Mai, 1853, ymadawodd i gymeryd gofal yr eglwys gynnulleidfaol yn Llangollen a'i changhenau. Yn mis Tachwedd ar ol hyny, rhoddodd yr eglwys alwad unol i Mr. Owen Evans, Berea, Mon. Dechreuodd yntau ar ei lafur gweinidogaethol yn nechreu Ionawr, 1854. Gwnaeth waith efengylwr gyda diwydrwydd mawr a derbyniad cymeradwy. Ymadawodd yntau yn Mawrth, 1857, i ofalu am yr eglwys Annibynol Gymreig a ymgyferfydd yn Fetter Lane, Llundain. Ar ol hyn rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. John Jones, Cemaes, Mon, a dechreuodd ar ei waith yma Hydref 4ydd, 1857. Cyfarfu y gweinidogion canlynol y diwrnod uchod yn Maentwrog i gydnabod yr undeb, sef Meistri W. Ambrose, Porthmadog; S. Jones, Penmorfa; W.